Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Mynd o ddrwg i waeth ...

28.2.07
Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth i Wrecsam. Wedi colli i gôl yn y funud olaf yn erbyn Grimsby ac yn chael crasfa go iawn gan Amwythig, mae'r Dreigiau wedi colli yn erbyn Casnewydd yn y Cwpan Cenedlaethol.

Colli 2-1 yn erbyn tîm o'r Conference South ... "Ia, ond dwi'n siwr fod tîm Wrecsam yn ifanc a di-brofiad," medde chi. Wel, er fod Carey wedi gwneud wyth newid i'r tîm wynebodd Amwythig, mae pob un wan jac o'r tîm wedi chwarae i'r tîm cyntaf tymor yma, ac fe ddylai fod yn llawn digon cryf i guro Casnewydd!

Mae rhai cefnogwyr ar safle we Red Passion yn galw ar i Carey ymddiswyddo ...

Labels: , , ,

Dim angen dweud dim mwy ...

27.2.07

Wrecsam 1-3 Amwythig
Originally uploaded by blogdroed.

Labels: , , ,

Dau berfformiad arwrol ... un pwynt

21.2.07
Mae pethau'n edrych yn ddu iawn ar Y Cae Ras, ac er bod perfformiadau'r Dreigiau'n llawer gwell o dan Brain Carey (heb law am y shambls yn erbyn Wycombe), ryda ni'n dal i ddisgwyl am y fuddugoliaeth gyntaf yn 2007.

Roedd y tîm wedi brwydro'n dda iawn yn erbyn Caer ond methu'n glir â sgorio, ac yna neithiwr, wedi mynd 1-0 i fyny ar Barc Blundell, colli 2-1 oedd yr hanes wedi i Grimsby rwydo yn y funud olaf un.

Mae gan y BBC safle lle mae modd darogan y canlyniadau a chreu'r tabl yn ôl y canlyniadau.

Wedi i mi dreulio awr yn mynd trwy'r canlynaidau, gallaf eich sicrhau bydd Wrecsam yn aros i fyny!

Daw'r gemau tyngedfennol ar 7 Ebrill:
Accrington Stanley v Peterborough
Barnet v Hartlepool
Macclesfield v Wrecsam
Notts County v Boston Utd
Torquay v Walsall

ac, yn ôl fy nghanlyniadau i, dyma'r diwrnod bydd Wrecsam yn codi allan o'r ddau isaf ac agor bwlch ar Torquay, Boston ac Accrington Stanley - Torquay a Stanley fydd yn disgyn allan o'r gynghrair, gyda Wrecsam yn gorffen ar 41 pwynt - pum pwynt yn glir o Stanley.

Honest!

Labels: , ,

Talu i wylio pwy?

17.2.07
Gan nad yw Wrecsam yn chwarae tan yfory (y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caer) bues i'n gwylio fy 'ail dîm', sef Hotspur Caergybi, yn erbyn Lex XI.

Yn ystod yr hanner cyntaf o'r gêm cefais fy nghythruddo gan y dyfarnwr - dim byd newydd yn fana, medde chi - ond dim oherwydd penderfyniad hurt cefais fy nghythruddo, ond am rhywbeth hollol hurt ddywedodd y dyn.

Rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Lex yn ystod yr hanner cyntaf - roedd yn un o'r penderfyniadau 'na all fynd y naill ffordd neu'r llall - ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo. Wedi'r digwyddiad yng nghwrt cosbi Hotspur, penderfynodd y dyfarnwr fod y drosedd yn haeddu cerdyn melyn - ond, er ei fod yn bendfyniad llym i roi cerdyn melyn, nid dyna oedd edi fy nghythruddo.

Galwodd y dyfarnwr ar amddiffynnr Hotspur, Gerallt Jones, er mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i gapten Hotspur geisio'i ddarbwyllo mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i chwaraewyr Lex (chwarae teg) erfyn ar y dyfarnwr i ddefnyddio synnwyr cyffredin gan dweud mai nid Gerallt oedd yn gyfrifol am y drosedd.

Ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo.

Fel pob cefnogwr pêl-droed, mae angen dweud eich dweud a chan fod y dyfarnwr yn sefyll o fewn 10 lath i mi penderfynias ddweud wrtho pa mor sâl oedd ei benderfyniad ...

... a wyddoch chi beth oedd ei ateb (yn yr iaith fain, wrth gwrs)?

"Ia, ond o leiaf 'dwi'n cael fy nhlau i fod yma tra bo chdi a dy fêts yn gorfod talu i fy ngwylio.

Talu i wylio PWY? Mam bach, roedd ei agwedd trahaus yn troi arna fi ... talu i wylio'r DYFARNWR? Roeddwn i a'r bych wedi talu i wylio gêm o bêl-droed nid er mwyn gwylio'r dyfarnwr yn strytio'i stwff ... roedd y boi yma'n meddwl bod y gêm yn troi o'i gwmpas o ...

Yn ôl y dyfarnwr, nid oeddwn i yno er mwyn gwylio

  • golwr Caergybi, Merfyn Williams, yn gwneud camgymeriad erchyll ar ochr ei gwrt cosbi wrth ildio gôl gyntaf Lex.

  • Merf yn gwneud yn iawn am ei gamgymeriad ac arbed y cic o'r smotyn dan sylw.

  • ymosodwr 'profiadol' Hotspur, Nigel Moore, yn rhwydo dwy gôl hyfryd yn yr hanner cyntaf i roi Hotspur ar y blaen

  • perfformiad arwrol gan un o chwaraewyr Lex, arbedodd llu o gyfleon yn yr ail hanner wedi i golwr Lex gael ei hel o' maes


O, na, roeddwn i wedi talu er mwyn ei weld o ...

PAH!



Gyda llaw, Caergybi enillodd 6-2

Labels: , , , ,

Mae Eric yn ôl ...

... yn blogio.

I'r rhai ohonnoch sydd wedi methu rants yr unig gefnogwr Bangor a Chaerdydd o'r Felinheli, wel, mae o yn ôl!

Labels: , ,

Gobeithio am fwy o hyn ddydd Sul ...

16.2.07

Labels: , , ,

Dim côt na Jackett

15.2.07
Mae Kenny Jackett wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe wedi bron i tair blynedd yn y swydd. Wedi llwyddo i sicrhau dyrchafiad efo'r Swans, cipiodd Abertawe Tlws y Gynghrair cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle llynedd. Ond mae Jakett wedi bod o dan cryn bwysau tymor yma gyda diffyg cysondeb ym mherfformiadau'r Swans yn arwain at sawl un yn beirniadu'r rheolwr.

Felly pwy nesaf i'r Swans? Mae Denis Smith ar gael

Labels: , ,

Rhun Owens

14.2.07
Cefais fraw i glywed bod ysgrifennydd CPD Aberystwyth, Rhun Owens, wedi marw yn dilyn brwydr hir yn erbyn cancr. Er na chwrddais i â Rhun erioed, roeddwn wedi siarad ag ef droeon yn rhinwedd fy swydd. Roedd ei gariad a'i angerdd tuag at CPD Aberystwyth yn amlwg ac yn ogystal ag Aber, roedd Rhun yn gefnogwr brwd o bêl-droed yng Nghymru.
Roedd yn barod am sgwrs pob amser ac ar sawl achlysur, cawsom drafodaeth hir a dwys am ddyfodol byd y bêl gron yng Nghymru. Bydd pêl-droed Cymru yn dlotach iawn heb Rhun Owens.

Hoffwn estyn pob cydymdeimlad i'w deulu ei ffrindiau ac i Glwb Pêl-droed Aberystwyth

Labels: , ,

Lloegr 2018?

13.2.07
Mae Gordon Brown wedi bod wrthi eto ... y tro yma, mae o am weld Lloegr yn cynnal Cwpan y Byd 2018 ac wrth ddatgan byddai cefnogaeth i Loegr trwy'r byd i gyd fe roddodd Yr Albanwr ei droed yn ei geg ... eto!

"I have been around the world. I have been in Asia, America and Europe and there is great support for England having it 50 years after we won the World Cup in 1966.

... after we won? Duwcs, mae'n rhaid mi ddweud nad ydw i erioed yn cofio'r Alban yn ennill Cwpan y Byd - efallai ei fod yn cyfeirio at Yr Alban yn trechu'r Saeson 3-2 yn Wembley ym 1967 arweiniodd at y wasg Albanaidd yn galw eu tîm yn 'World Champions'.

Mae'n rhyfedd sut mae Mr Brown yn defnyddio we. wrth sôn am Loegr trwy'r amser ... fyddai hyn unrhywbeth i'w wneud efo'i obeithion i fod y Prif Weinidog nesaf?

Ond roedd gwaeth i ddod, roedd y amlwg nad yw Mr Brown yn llawer o foi chwaraeon pan ddywedodd

"Just think if in 2012 we have the Olympics and then the 2018 World Cup. What a sporting decade to look forward to, the best sporting decade for our country."

Mae pob Albanwr da yn ymybodol bod Glasgow yn ceisio sicrhau Gemau'r Gymanwlad yn 2014 ac mae Lloegr a Chymru yn cynnal Cwpan Criced y Byd yn 2019 ... ond wrth gwrs, pêl-droed sy'n sicrhau pleidleisiau ynde Mr Brown?

Labels: , , , , , , ,

Clwb Pêl-droed Caerydd?

8.2.07

Labels: , ,

Trais Yr Eidal yn broblem cymdeithasol

'Dwi wedi bod yn esgeulus braidd efo'r blog o gofio bod cymaint wedi digwydd yn y byd pêl-droed ers i mi 'sgwennu diwethaf.

Cafwyd golygfeydd treisgar yn Yr Eidal wrth i ddarbi Sicily weld plismon yn cael ei ladd wrth iddo geisio rhwystro "cefnogwyr" Catania a "chefnogwyr" Palermo rhag ymladd yn erbyn ei gilydd.

Wrth gwrs, mae unrhyw un fu ym Milan yn 2003 yn gwybod yn iawn pa mor wan yw'r heddlu yn y wlad pan mae'n dod i atal trais yn y meysydd pêl-droed, ond mae'n amlwg bod y sefyllfa wedi mynd yn hurt bost erbyn hyn.

Yn anffodus, mae'r broblem yn Yr Eidal yn mynd yn llawer dyfnach na phêl-droed. Er nad yw grwpiau'r 'ultras' yn Yr Eidal yn berffaith, byddai'n annheg eu beio nhw yn gyfan gwbwl am y trafferthion yn Sicily, yn yr un modd, byddai rhywun ddim yn beio'r grwpiau gwrth-Globaleiddio i gyd am y terfysgaeth welodd protestiwr yn cael ei ladd yn ystod cynhadledd G8 yn Genoa yn 2001.

Mae'r bobl sydd yn ystyried 'ultras' fel hwliganiaid yn debygol o fod yr un bobl oedd yn credu bod pob cefnogwr pêl-droed yn y 70au ac 80au yn hwligan ... ac fel un safodd ar sawl teras yn canu caneuon yn erbyn tîm a chefnogwyr y gwrthwynebwyr, byddwn i'n ystyried hynny'n sarhaus dros ben.

Nid yw plismona yn swydd barchus iawn ym meddwl nifer o Eidalwyr ifanc. Mae'r tâl yn drychinebus o isel ac mae'r hyfforddiant yn chwerthinllyd. Dim rhyfedd, felly, nad yw'r plismyn yn poeni'n ormodol am grwpiau o gefnogwyr pêl-droed yn taflu poteli, seddi a baneri tuag at y meysydd pêl-droed ...

... ac ar y llaw arall, gan fod y tâl mor isel a'r hyfforddiant mor chwerthinllyd, nid yw'n syrpreis pan fo'r plismyn yn cael gwared ar rwystredigaethau'r swydd trwy gnocio pen ambell i gefnogwr pêl-droed.

Wrth gwrs, nid yw Ffederasiwn Pêl-droed Yr Eidal yn gallu dylanwadu ar y broblem yma yng nghymdeithas Yr Eidal ac maent wedi dewis ail agor hanner dwsin stadiwm sydd yn cyrraedd rhyw safon diogelwch newydd.

Y chwe stadiwm fydd yn cael agor eu drysau'r penwythnos hwn yw Stadiwm Olympaidd Rhufain, Stadio Luigi Ferraris Genoa, Stadio Artemio Franchi Siena, Stadio Sant'Elia Cagliari, Stadio Renzo Barbera Palermo a Stadio Olimpico Torino.

Bydd rhaid i'r gweddill, gan gynnwys y San Siro ym Milan, gwblhau gwaith cynnal a chadw er mwyn cyrraedd safonau diogelwch cyn cael agor eu drysau unwaith eto, ac mae'n rhaid i Celtic ddisgwyl er mwyn clywed lle bydd eu gêm nhw yn erbyn AC Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal.

Mae sôn bod Milan am chwarae'r gêm yn Ffrainc neu'r Swistir yn hytrach na thu ôl i ddrysau caeedig y Giuseppe Meazza, ond nid yw Internazionale, sydd hefyd yn dal i fod yn Ewrop, wedi gwneud unrhyw sylw am eu gêm nhw â Valencia.

Y peryg mwyaf i bêl-droed Yr Eidal yw'r ffaith bod nifer o 'wybodusion' y edrych tua Lloegr am yr ateb i'w problemau. Gyda'r Uwchgynghrair yn arwyddo cytundebau teledu am arian hurt a chyda sêr y byd pêl-droed yn ysu i chwarae yno, mae'n apelio'n fawr iawn at ambell i Eidalwr.

Ond mae pêl-droed yr Eidal yn parhau i fod yn gêm i'r werin; mae prisiau tocynnau'n gymharol rhad o'u cymharu â'r £50 i £60 sydd y rhaid ei wario am docyn yn Stamford Bridge, Old Trafford neu'r Emirates.

Ac heb yr werin, mae pêl-droed yn Lloegr wedi colli ei ffordd yn fy marn i ... seddi gwag oherwydd prisiau gwallgof ac amseru hurt, diffyg awyrgylch mewn meysydd identikit ac antiseptig a llond trol o chwaraewyr dwy a dimau yn cael eu talu cyflogau astronomaidd ... nid dyma'r model i'w ddilyn.

Labels: , , ,

Clwb 92 ... ypdêt

5.2.07
Rydw i yn un o'r pobl trist sydd yn 'casglu' caeau pêl-droed - dyma fy rhestr hyd yma ...
Cynghreiriau Lloegr
Abertawe
Accrington Stanley
Blackburn
Blackpool
Bolton Wanderers
Boston
Bradford City
Bristol Rovers
Burnley
Bury
Caer
Caerdydd
Carlisle
Chestefield
Coventry City
Crewe Alexandra
Crystal Palace
Darlington
Derby County
Doncaster Rovers
Everton
Grimsby Town
Hartlepool United
Henffordd
Huddersfield Town
Leeds United
Lerpwl
Leyton Orient
Macclesfield Town
Manchester City
Manchester United
Mansfield
Middlesbrough
Milton Keynes Dons
Northampton
Notts County
Oldham Athletic
Peterborough United
PNE
QPR
Rochdale
Scunthorpe
Sheffield Wednesday
Stoke City
Tranmere Rovers
Walsall
Watford
West Bromwich Albion
Wigan
Wolverhampton Wanderers
Wrecsam
Wycombe Wanderers

Meysydd oedd yn arfer bod yng Nghynghreiriau Lloegr
Halifax
Rhydychen
Rushden & Diamonds
York City

Meysydd tu-allan i Gynghreiriau Lloegr
Casnewydd
Kettering Town
Leigh RMI
Merthyr Tydfil

Meysydd Uwchgynghrair Cymru
Aberystwyth
Airbus UK
Bangor
Caerfyrddin
Caernarfon
Caersws
Cei Connah
Derwyddon Cefn
Porthmadog
TNS Llansanffraid
Y Barri
Y Drenewydd
Y Rhyl
Y Trallwng

Meysydd tu allan i Gymru a Lloegr
America
San Jose Earthquakes
Azerbaijan
FC Shamkir
Tofiq Bahramov Republican Stadium
Belarws
Dinamo Minsk
Croatia
NK Varteks
Denmarc
FC Lyngby
Ffindir
FC Haka
HJK Helsinki
Gogledd Iwerddon
Windsor Park, Belfast
Gwlad Pwyl
Stadion Wojska Polskiego
Hwngari
Stadiwm Ferenc Puskas, Budapest
Iseldiroedd
PSV Eindhoven
Latfia
Skonto Riga
Norwy
Ullevaal Stadion
Viking Stadion
Rwsia
Lokomotiv Moscow
Sbaen
San mames, Bilbao
Serbia
Novi Sad
Red Star Belgrade
Swistir
FC Zurich
Wcrain
Dinamo Kiev
Republianski Stadium, Kiev
Yr Alban
Kilmarnock
Yr Eidal
Pavia
San Siro

a Stadiwm y Mileniwm

Labels: , ,