Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Ffeit, ffeit, ffeit, ffeit ...

22.12.06
Tipyn bach o anghydfod rhwng Barcelona ac LDU yn Ecuador

Labels: , ,

Damwain yn lladd cefnogwyr Recreativo

20.12.06
Bu farw pedwar o gefnogwyr Recreativo Huelva prynhawn yma wrth i'r bws oedd yn eu cludo i Madrid ar gyfer eu gêm â Real Madrid fod mewn damwain â lori.
Penderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Sbaen i barhau â'r gêm er i swyddogion Recreativo ofyn am ei ohirio, ond cyhoeddod Real Madrid byddai'r arian o'r giât heno 'ma yn cael ei gyflwyno i deluoedd y sawl sydd wedi marw ac wedi anafu yn y ddamwain.



Cafwyd rhyw fath o deyrnged i'r cefnogwyr wrth i Recreativo chwalu'r Merengues 3-0.

Labels: , , , , ,

Y Fatican ar y bêl

Mae Dinas y Fatican yn ystyried sefydlu tîm pêl-droed yn ôl adroddiadau gan wasanaeth newyddion Reuters.

Ond mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Tarcisio Bertone, yn credu mai yn Serie A ddylai'r tîm fod er bod lle iddynt, fel gwlad leiaf y byd, geisio am le yng Nghwpan y Byd!

Labels: , ,

Honk Kong Phooey

12.12.06
Mae adroddiadau ym mhapurau newydd Hong Kong fod Steve McManaman ar fin arwyddo i glwb Hong Kong Rangers. Yn rhyfedd ddigon, wrth chwilio am wybodaeth ar Hong Kong Rangers nes i sylwi fod Steve O'Shaughnessy yn un o'u cyn chwaraewyr!

Labels: , , , ,

Pencampwriaeth Clybiau'r Byd

Mae Pencampwriaeth Clybiau'r Byd wedi dechrau y Siapan gyda'r ddwy gêm agoriadol yn cael eu chwarae ddoe.

Llwyddodd Club America o Mecsico i drechu Jeonbuk Hyundai Motors o Korea er mwyn herio Barcelona, tra bo Al Ahly o'r Aifft wedi sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol yn erbyn Internacional o Frasil wedi iddynt faeddu Auckland City 2-0.

Labels: , , , , , , ,

578 nid 500!

11.12.06
Roedd ffys a ffwdan mawr ddydd Sadwrn diwethaf wrth i'r wasg Seisnig wneud yn fawr o'r ffaith fod y Cymro, Gary Speed, yn chwarae ei 500ed gêm yn Uwchgynghrair Lloegr.
Da iawn fo, mae hi'n gamp aruthrol i Speed ac ydi, mae'n haeddu'r canmoliaeth ... ond ... nid dydd Sadwrn diwethaf ddylai pawb fod wedi bod yn ei longyfarch, wedi'r cwbwl, chwaraeodd Speed 78 o gemau i Leeds yn yr Adran Gyntaf cyn i'r Uwchgynghriar ddod i fodolaeth.

Gallaf ddeall pam fod Sky ac Yncl Rupert yn barod i redeg y fath benawdau, wedi'r cwbwl mae Sky wedi llwyddo i greu eu busnes ar gefn Uwchgynghrair Bêl-droed Lloegr ac mae nhw'n fel petaent yn gwrthod cydnabod bod pêl-droed wedi bodoli cyn 1992, ond rwan mae'r BBC yn ymuno yn y ffolineb.

Roedd pêl-droed yn bodoli cyn i'r clybiau mwyaf yn Lloegr dorri'n rhydd a chreu'r Uwchgynghrair, ac mae un peth yn mynd o dan fy nghroen byth er hynny sef y geiriau "cyntaf yn yr Uwchgynghrair" ... "erioed yn yr Uwchgynghrair" ... "sgôr uchaf yn yr Uwchgyngharir" ac yn y blaen.

Mae sôn am bêl-droed yn y termau yma yn amddifadu'r gamp o'i hanes. Yda ni fod i gredu nad yw llwyddianau Lerpwl yn y 70au yn berthnasol i bêl-droed heddiw? Beth am gampau Nottingham Forest a Derby County o dan Brian Clough neu Huddersfield Town gyda Herbert Chapman wrth y llyw yn ystod y 1930au? Gadewch i Sky geisio perswadio'r cenhedlaeth o gefnogwyr cadair gyfforddus mai 1992 yw'r flwyddyn holl bwysig yn hanes y bêl gron yn Lloegr, ond rydm ni, gwir gefnogwyr pêl-droed, yn gwybod yn well.

Labels: , , ,

Wags y teras

8.12.06
Roedd erthygl ddifyr yn y Guardian ddoe gan Nicky Campbell yn trafod hiwmor cefnogwyr pêl-droed ac yn arbennig, y chants doniol sydd yn dod o'r teras.

Mae Campbell yn crybwyll yr un gwych gafodd ei gyfansoddi gan gefnogwyr Lerpwl am eu hamddiffynnwr, Djimi Traoré:
"Don't blame it on Biscan,
don't blame it on Hamman,
don't blame it on Finnan,
blame it on Traoré.
He just can't, he just can't,
he just can't control his feet."

ac yr un gafodd ei chyfansoddi yn arbennig i golwr Manchester United, Tim Howard, sy'n dioddef o Tourettes :
"Tim Timminy Tim Timminy,
Tim Tim Teroo,
you've got Tim Howard and he says fuck you!"

Mae'n rhaid dweud, er nad yw'n PC i wneud, bod yr un Tim Howard yn ddoniol tu hwnt. A gwir yw dweud nad yw'r rhan fwyaf o chants doniol yn PC iawn. 'Dwi'n cofio pan gyhoeddodd Andy Goram ei fod yn dioddef o schizophrenia a'r Sadwrn canlynol roedd cefnogwyr Kilmarnock yn morio canu:
"There's only two Andy Gorams"

Daw fy hoff chants i o dripiau Cymru ac mae ambell i gan bizarre wedi cropian i'r repetoire yn ddiweddar. Yn ogystal â "Gwyr Harlech", mae "Pwy Sy'n Dwad Dros y Bryn" a "Dau Gi Bach" wedi cael eu clywed sawl tro ers y gêm yn erbyn Gwlad y Basg!
A chawsom hwyl a sbri yn gwawdio cefnogwr ...erm ... trwm ... yn Hwngari dwy flynedd yn ôl. Roedd y cefnogwr mawr 'ma'n gwisgo trwsus combat felly'n dilyn
"You're the fattest action man"
cawsom
"You're not Hungary any more"
a
"Whale, Whale"

Yna yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm roedd Stand y Gogledd yn eu dyblau wrth i bawb awgrymu penill ar ôl penill o'r gan enwog:
"You can stick your f@#$ing bagpipes up your arse."
Yn dilyn bagpipes a haggis cawsom berlau fel Supergran a Ballamory!
Fel awgrymais yn gynharach, nid yw'r chants yn rhai PC o gwbwl, ond mae'r ffordd mae chant yn cydio ac yn cael ei gario trwy'r teras gan wedill y cefnogwyr yn arbennig.

Labels: , ,

Ynyswyr enwog

6.12.06
Roedd y Guardian Knowledge wedi gofyn am bêl-droedwyr ynysig wythnos diwethaf, wel, wrth gwrs, ni allwn adael i'r eiliad basio heb grybwyll y Monwysyn, Tony Roberts!

Labels: , , ,

Yn hollol, Ian

5.12.06
Dyma'n union oedd gan Ian Wright i'w ddweud am berfformiad Chelsea ar MOTD2 nos Sul:

"Well I think, definitely, in the second half they came out with a better attitude but I think I've seen Chelsea play a few times and they don't really play a lot more. Their tempo's not much more than they started there but they just didn't have the width. They still tried to play the ball to the strength but all the men are in that middle, so that's when they, that's where they're playing all the balls to. Now whether they're mental, I don't know what he means by that, whether they can, the intensity or what, even if they did start sharp, the men are still in the same places so they couldn't get the width. And that's what I couldn't understand."

... hmmmm, ia yn union Ian.

Labels: