Mae'n rhaid mi gyfaddef mod i wedi poeni na fyddai cefnogwyr pêl-droed yn gogledd yn troi allan ar gyfer y gêm gyfeillgar â Liechtenstein. Roedd pob math o sibrydion mai 700 o docynnau yn unig oedd wed eu gwerthu ac mai ychydig droes fil oedd y Gymdeithas Bêl-droed yn digwyl i'r Cae Ras.
Ond mae'n amlwg nad oes genyf ddigon o ffydd, gan er mai gêm dibwys yn erbyn tîm sydd rif 161 ar restr Fifa oedd hon, roedd 8,752 ar Y Cae Ras neithiwr.
Ar y maes, cafwyd perfformiad canmoladwy iawn gan Gymru. Roedd dwy gôl odidog Jason Koumas werth pris y tocyn ar ben eu hunain a chafwyd perfformiad ac ymateb campus gan Steve Evans ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad - roedd yn braf gweld chwaraewr rhyngwladol yn cymeradwyo pob cornel o'r stadiwm cyn gadael am ei gawod!
Yr unig beth sydd yn creu rhwystredigaeth yw diffyg Craig Bellamy i greu neu sgorio mwy o goliau. Mae ei ddawn yn amlwg ac fe berodd loes i Liechtenstein drwy'r nôs, ond er ei gyflymder a'i allu amlwg, nid oedd ei bas yn llwyddo i ganfod cyd chwaraewr hanner digon amal. Yn amlwg nid yw ei bartneriaeth yn y linell flaen gydag Earnshaw yn gweithio - roedd y ddau yn treulio cryn dipyn o amser yn cwyno am ddiffyg pas neu ddiffyg rhediad gan y naill neu'r lall. Roedd gwell dealltwriaeth rhwng Bellamy â'r eilydd, Chris Llewellyn, ond, er ei gôl hwyr, nid yw Llewellyn yn ddigon da i chwarae ar y lefel rhyngwladol.
Labels: bellamy, cymru, evans, koumas, liechtenstein, llewellyn, pêl-droed, rhyngwladol