Pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2008 roedd nifer fawr yn hyderus byddai Cymru'n gallu herio'r Almaen a'r Weriniaeth Siec am yr ail safle yn y grwp.
"Os ydy nhw'n ildio pwyntiau yn erbyn eu gilydd ac os ydym ni'n cipio pwyntiau oddi cartref y erbyn y ddau, pwy â wyr?" oedd y gri. "Byddem ni'n siwr o gipio chwe phwynt yn erbyn Cyprus," meddai pawb gan anghofio'r golled yn Limassol llai na dau fis ynghynt.
Pam ein bod ni'n meddwl bod gwledydd dwyrain Ewrop a gweldydd yr hen Undeb Sofietaidd yn hawdd eu curo? Oes neb yn cofio Moldova 3-2 Cymru, Georgia 5-0 Cymru, Belarw 2-1 Cymru, Armenia 2-2 Cymru neu Azerbaijan 1-1 Cymru?
Roedd yr un agwedd yn amlwg cyn y gêm â Slofacia wythnos diwethaf. "Duwcs fe ddylwm ni guro rhain." Pam? pam ar y ddaear ein bod ni'n meddwl bod tîm sydd â chwarewyr o bedwaredd adran cynghrair Lloegr yn debygol o drechu tîm sydd â chwaraewyr o FC Nuremburg, Lokomotiv Moscow, Zenit St Petersburg a Rangers yn eu mysg?
Mae’n anodd dweud hyn, ond y gwir amdani yw mai gwlad fechan di-bwys ydi Cymru yn y byd pêl-droed. Ydi, mae’n wir bod modd creu sioc nawr ac yn y man - fe lwyddodd y tîm i guro’r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm yn 2002 ac fe drechwyd Yr Almaen a Barc yr Arfau yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 1992, ond mae’n rhaid cofio beth oedd canlyniadau’r ddwy gêm oddi cartref – chwalwyd Cymru 0-4 ym Milan a threchwyd tîm Terry Yorath 1-4 yn Nuremburg.
Pumed detholyn yn y grwp yw Cymru, tu ôl i’r Almaen, Y Weriniaeth Siec, Iwerddon a Slofacia, felly oni fyddai gorffen yn bedwerydd yn y grwp yn lwyddiant ...?