Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Le Foot

21.9.06
Bydd dim byd yn ymddangos am wythnos - 'dwi'n mynd i Ffrainc am wythnos

au revoir

Hartson yn ôl?

Mae sibrydion llu bod John Hatson ar fin dychwelyd i garfan rhyngwladol Cymru. Roedd ymosodwr West Brom wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol am resymau teuluol pan roedd yn byw yn Glasgow ac yn chwarae i Celtic, ond wedi iddo symud yn ôl i Loegr, mae'n debyg ei fod yn cael mwy o gyfle i weld ei deulu.
Mae'r modd mae Hartson a John Toshack wedi delio â'r sefyllf yma yn atgyfnerthu fy marn fod Toshack yn iawn i anghofio am Robbie Savage a Ben Thatcher. Mae'n amlwg mai Toshack ydi'r boss - ni chafodd Hartson ei gynnwys yn y gafan cyntaf wedi iddo gyhoeddi ei bod ar gael - ond yn wahanol i'r ddau arall, ni chafodd Hartson yr hyff a dweud wrth Tosh lle i sticio'i garfan.
Oce, nid yw Hartson cystal chwaraewr ag yr oedd o, ond mae'n opsiwn arall yn y llinell flaen i Gymru ac rwy'n falch ei fod wedi penderfynu dychwelyd. Bydd ei brofiad yn yr ystafell newid yn gaffaeliad i'r nifer fawr o fechgyn ifanc sydd yno ar hyn o bryd ... ac mae'n rhoi esgus i chwarae "Big John" ar yr uchelseinydd yn Stadiwm y Mileniem unwaith eto!

Hotspur Caergybi 2-1 Lex XI

18.9.06

Hotspur Caergybi 2-1 Lex XI
Originally uploaded by blogdroed.

Bues i'n gwylio Hotspur Caergybi yn rownd gyntaf Cwpan Cymru ddydd Sadwrn. Er mynd lawr i 10-dyn, llwyddodd Hotspur i drechu Lex a sicrhau gêm â Llangefni yn yr ail rownd.

Accrington Stanley ... who are they?

14.9.06
Wel, mam bach, mae Wrecsam yn gwybod yn iawn pwy ydi Accrington Stanley erbyn hyn wedi clli 5-0 yn y Crown Ground neithiwr. Ond cyn i mi ladd ar yr unarddeg chwaraewr oedd â'r cheek i alw eu hunain yn bêl-droedwyr neithiwr, gadewch i mi geisio disgrifio maes Accrington Stanley.
Dim ond un eisteddle sydd yn y maes, ond mae ei alw'n brif eisteddle yn mynd mymryn yn bell - dim on wyth rhes o seddi sydd yn yr eisteddle! Mae dau deras tu ôl i'r naill gôl; un i'r cefnogwyr oddi cartref - roedd 799 o gefnogwyr Wrecsam wedi gwneud y daith i Sir Gaerhirfryn neithiwr, ac un arall i'r Stanley Ultras - fel cafodd y cefnogwyr cartref eu disgrifio gan ohebydd Radio 2BR "you're listening to Accrington Live on 99.8FM" ar sawl achlysur.
Mae'r llif oleadau yn warthus gyda nifer o fannau tywyll iawn ar y maes, yn wir, byddai Stanley'n ei chael yn anodd sicrhau eu lle yn y Cwpan Cenedlaethol ar sail cryfder eu goleadau!
Mae 12 sedd yn lloc y wasg Accrington Stanley, ond neithiwr roedd gan 17 o ohebwyr docyn i eistedd yno a bu rhaid i ambell i ohebydd eistedd yng nghanol cefnogwyr Stanley.

Ond beth am y perfformiad? Wel, roedd Wrecsam yn drychinebus gyda pob un o'r pum gôl yn siomedig tu hwnt a chyda'r golwr, Mike Ingham, ar fai am o leiaf pedwar o'r pump.
Wedi dod â record 100% Swindon i ben ddydd Sadwrn, roedd dyn yn disgwyl llawer gwell yn erbyn tîm oedd wedi cipio un buddugoliaeth y unig cyn y gêm neithiwr.
'Doedd yr un chwaraewr yn dod allan o'r gêm ag unrhyw fath o glod ond mae'n rhaid dweud bod yr amddiffyn yn siomedig tu hwnt.

Serie A yn ôl

12.9.06

Turin, Piazza Bernini
Originally uploaded by mirkocorli.

Marwolaeth ar gae pêl-droed

10.9.06
Bu farw amddiffynnwr Hinckley United, Matt Gadsby, yng nghanol eu gêm yn Conference North brynhawn ddoe.

Trasedi sydd yn rhoi pêl-droed yn ei gyd-destyn

Stori'r BBC

Gary Mills - uffar o foi!

Ymddiheuriadau bod yr anecdôt isod yn Saesneg, ond roedd wedi ei bostio ar negesfwrdd rwy'n fynychu ac rwy'n credu ei fod yn haeddu sylw:

I was stood next to the opposition dugout during the Droylsden/Alfreton match today.

About ten minutes from time Droylsden striker Jody Banim was involved in a minor scuffle wuth an Alfreton defender as the ball was running out of play. No arms were raised but the defender threw himself to the ground, clutching his face.

Despite the howls from the home crowd the referee seemed to fall for this and asked for Banim to go to him. As he had his back to me I could see he was reaching for the red card.

So could Alfreton manager - and, lest we forget, European cup winner - Gary Mills. Mills quite openly said to those in the crowd around him that no contact had been made and that his player was shamming. As the referee waited for Banim to join him Mills shouted to get his attention, and when he did so said that "if you send this player off I'll withdraw my number 4 (the player involved) and we'll play with ten men."

The referee clearly took this on board, went to his other pocket and gave Banim a yellow.

Brasil nuts

Roeddwn i wedi penderfynnu byddai Ifan yn cael mynd i gêm oddicartref Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a chyda'i fam yn mynnu na chafai'r bych fynd i Teplice, bu rhaid iddo fodloni ar White Hart Lane, Ronaldinho a Brasil!

Roedd y gêm yn un od ar y maes ac yn yr eisteddle. Roedd seddi'r Cymry'n llawn o grysau Cymru ond acenion Cockney mawr ... "Dad, be' ddudodd y boi na?" gofynnodd Ifan wedi rhyw foi ofyn os oedd o'n cefnogi "Wiles" ... "Wêls ydi o yn Saesneg 'de dad, ddim Wiles ..." Wrth gwrs roedd pocedi o wynebau cyfarwydd i'w gweld - rhai o Glwb 1927 Llundain yn amlwg, Rhys Boore a Jerry Jones, Tommie a Tal o griw Porthmadog, Richard Green a chriw Pwllheli ac roedd hogia'r Twthill o Gaernarfon yn eistedd o'n blaenau ... wel, am yr hanner cyntaf beth bynnag!
Ond roedd llond y lle o dwristiaid hefyd ... gofynnodd un boi tu ôl i mi "Which one's Giggs then?" a dyma'i fêt yn ateb "Number 10 of course" ... Simon Davies oedd rhif 10, ac erbyn i'r boi ofyn y cwestiwn roedd Giggs wedi hen adael y maes!

Beth bynnag, roedd ambell i beth positif i ddod o'r gêm - awch Giggs, gallu Gareth Bale ac aeddfedrwydd Lewin Nyatanga yw'r tri amlycaf, ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, beth wir oedd pwynt y gêm yma?

Brasil v Cymru


Brasil v Cymru
Originally uploaded by blogdroed.

Ifan yn gobeithio gall Craig Bellamy rwydo gôl gysur hwyr i Gymru

Czech mate

3.9.06
Roeddwn i'n ddigon blin cyn y gêm neithiwr gan nad oeddwn i wedi gallu teithio i Teplice - rwyf wedi methu tair o'r bedair gêm oddi cartref olaf erbyn hyn a hynny wedi rhediad o 16 gêm oddi cartref yn olynol.

Ond mae'n rhaid dweud bod y modd collwyd y gêm yn Teplice neithiwr yn golygu mod i hyd yn oed fwy blin! Roeddwn wedi disgwyl cweir go iawn - tyda ni'n griw optimistaidd fel cefnogwyr Cymru - ond wedi gwrthsefyll ymosodiadau cynar Jan Koller a Tomas Rosicky, roedd aeddfedrwydd ein amddiffyn ifanc yn arbennig a roeddwn i wedi dechrau credu bod modd ennill y gêm.

Cafodd Craig Belamy gyfleoedd euraidd i roi Cymru ar y blaen, ond yn anffodus roedd ymosodwr Lerpwl yn wastraffus a bu rhaid talu'n ddrud wrth i'r Sieciaid fynd ar y blaen yn hwyr yn y gêm â gôl hynod ddadleuol.

Roedd penderfyniad Tosh i ddod â Cotterril ac Earnshaw i'r maes yn syth wedi'r gôl yn profi ei fod yn reolwr dewr, a bu bron i'r penderfyniad dalu ar ei ganfed wrth i'r ddau gyfuno i greu gôl i Gynmru.

Yn anffodus llwyddodd Lafata i sgorio ei ail gôl yn hwyr yn y gêm a sicrhau fod Cymru'n dod adref yn waglaw.


Jones - dibynadwy iawn ond ei gicio'n siomedig ar brydiau - 7/10
Delaney - yn amlwg ddim yn gwbl ffit, ond yn gryf ar y dde 6/10
Ricketts - ildio meddiant yn rhy hawdd ar brydiau ac ddim yn dod yn ôl ddigon cyflym wedi gwrthymosod 6/10
Gabbidon - ei gêm gorau dros ei wlad - arbennig yng nghanol yr amddiffyn 8/10
Collins - ambell i dacl holl bwysig yn profi ei fod â'r gallu 8/10
Nyatanga - aeddfed ac arbennig 8/10
Robinson - taclo fl corgi ond yn cael trafferth ymdopi â Rosicky 6/10
Fletcher- cyfuno'n dda yng nghanol cae ond eto, yn methu ymdopi â Rosicky 6/10
Davies - y gorau rwyf wedi gweld Davies yn chwarae ers tro byd. Cyfuno'n arbennig efo Giggs a Bellamy 8/10
Bellamy - gweithgar tu hwnt ond methodd ddau gyfle euraidd 7/10
Giggs - profodd Giggs fod yn gallu chwarae cystal dros ei wlad ag y mae dros ei glwb 8/10

Eilyddion
Ledley - digon distaw ac heb law am ei gyfyrddiad cyntaf fe aeth ar goll 6/10
Cotterill - edrych yn addawol ac yn amlwg ar ben y byd wedi symud i Wigan ac fe greodd y gôl 7/10
Earnshaw - gweithgar iawn unwaith daeth i'r maes a chyfunodd yn dda â Cotterril i greu'r gôl 7/10