Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Penwythnos Prysur

25.8.06
Roedd yn benwythnos prysur o bêl-droed ar pob lefel i mi dros y Sul. Nos Wener roeddwn yn gweithio yng ngêm agoriadol Uwchgynghrair Cymru rhwng Airbus a'r Seintiau Newydd (neu TNS fel roeddwn i'n dal i fynnu eu galw yn ystod y sylwebaeth!).
Roedd yn noson fudur ym Mrychdyn ac nid oes to ar y 'gantry' ym maes Airbus ... peidiwch byth a dweud bod bywydsylwebydd pêl-droed yn fêl i gyd!



Dydd Sadwrn bues i ac Ifan yn gwylio gêm gyntaf Hotspur Caergybi o'r tymor newydd yng Nghynghrair y Cymru Alliance. Yn anffodus i dre, Mynydd Isaf oedd yn fuddugol 3-1 ac roedd selogion y 'Town End' yn ddigon siomedig â pherfformiad yr hogia.

Y diwrnod canlynol roedd diwrnod mae pob cefnogwr Wrecsam a Chaer yn edrych ymlaen ato - diwrnod y derby fawr rhyngwladol. Ac roedd yn fendigedig gwylio perfformiad y Dreigiau - gyad naw chwaraewr Cymreig ar y maes - yn chwalu'r he elyn o'r ochr arall i Glawdd Offa.

Tair gêm, wyth gôl a dechrau da i'r tymor pêl-droed i mi!

Capten, fy nghapten

16.8.06
Cwestiwn cwis ar gyfer y dyfodol, pwy oedd y pum capten i arwain Cymru yn ebryn Bwlgaria?

Wel, fe ddechreuodd Ryan Giggs â'r band cyn ei basio i Mark Delaney pan gafodd ei eilyddio - wrth i Delaney adael y maes, pasiodd y band i Craig Bellamy - Danny Gabbidon gafodd y band wrth i Bellamy adael y maes - yna 37 eiliad yn ddiweddarach, daeth Gabbidon i ffwrdd gan adael Paul Jones fel ein pumed capten!

Bygythiad i dîm Cymru

13.8.06
Mae ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Collins, yn credu gall achos llys yn Lwcsembwrg fygwth bodolaeth timau cenedlaethol.

Mae Clwb Pêl-droed Charleroi, gyda chefnogaeth y grwp y G14 yn mynd â Fifa i'r llys gan iddynt golli un o'u chwaraewyr ag anaf tra roedd yn chwarae i Morocco.

Mae'r clwb o Wlad Belg am gael iawndal am i Abdelmajid Oulmers golli wyth mis o'r tymor wedi anafu tra'n chwarae yn erbyn Burkina Faso ym mis Tachwedd 2004, ac maent am i Gymdeithasau Pêl-droed dalu cyflogau'r chwaraewyr tra ar ddyletswydd rhyngwladol.

Dywedodd David Collins wrth raglen y Back Page ar BBC Radio Wales (ac sydd yn ymddangos yn Gymraeg ar BBC Cymru'r Byd):

"Pe bawn ni'n gorfod talu unrhywbeth yn debyg i gyflofgau'r chwaraewyr ... ni fyddwn yn gallu chwarae gemau rhyngwladol, byddem yn achosi ein cymdeithas i fynd yn fethdal," meddai Collins, wrth raglen The Back Page ar BBC Radio Wales.

"Byddai pêl-droed rhyngwladol, fel yr ydym ni yn ei adnabod, yn diflannu.

"Byddwn yn mynd mor bell ag awgrymu byddai cymdeithasau fel Lloegr a'r Almaen, dau o'r cymdeithasau mwyaf, yn ei chael yn anodd i barhau."

Mae modd gwrando ar y rhaglen (am wythnos arall) yma - mae'r cyfweliad ar ddechrau'r rhaglen, ac yn swnio'n frawychus os ydych yn gefnogwr brwd o'r tîm cenedlaethol.

Yn ôl safle we'r G14, un o'u tri nod yw To promote and improve professional football in all its aspects and safeguard the general interests of the member clubs.. Mae'r datganiad yma yn awgrymu nad yw'r clybiau yn malio dim am neb ond nhw eu hunain.

Wrth gwrs, ni ddylai hyn fod yn syndod i unrhyw gefnogwr pêl-droed â hanner brên - ers sefydlu Uwchgynghrair Lloegr a Chynghrair y Pencampwyr, mae'r clybiau mwyaf wedi mynd yn fwy a mwy barus.

Mae'r clybiau yn yr Uwchgynghrair wedi creu sefyllfa lle mae'r clybiau llai yn gorfod byw ar friwsion ariannol. Ers torri'n rhydd, mae'r Uwchgynghrair wedi sicrhau eu cytundebau teledu eu hunain.

Ond mae'r sefyllfa wedi gwaethygu i'r clybiau yn yr is-gynghreiriau wedi clybiau'r Bencampwriaeth - na chafodd llawer o gydymdeimlad gan eu brodorion yn yr Uwchgynghrair - wneud union yr un fath â chytundeb teledu'r Gynghrair Coca Cola gan sicrhau eu bod hwy yn cael y canran uchaf o arian y cytundeb gyda chlybiau Adran Un a Dau yn gorfod bodloni ar ganran fechan iawn o'r arian.

Mae'r math yma o straeon yn fy ngwneud yn drist iawn am ddyfodol pêl-droed. Rwyf eisoes wedi fy niflasu gan fformat Cynghrair y Pencampwyr ac mae'r Uwchgynghrair yn troi' syrffedus gyda'r 'haves' a'r 'have-nots' yn alwg ar ddechrau pob tymor.

Ac mae straeon fel yr un bo rhai o glybiau'r G14 am weld cyn-bencampyr Ewrop yn cael lle yng BNghynghrair y Pencampwyr heb orfod mynd trwy'r gemau rhagbrofol yn gwneud y sefyllfa'n waeth.

Os nad ydych yn cytuno efo mi, rwy'n awgrymu eich bod yn prynnu a darllen llyfr arbennig David Conn, The Beautiful Game?: Searching the Soul of Football - ac os ydych yn cyuno efo mi, rwy'n awgrymu bo chi'n darllen y llyfr hefyd!

Got, got, need, need, need

10.8.06
Rwyf newydd ddod ar draws safle we arbennig Craig Cullen sydd â holl sticeri Panini 1984 a 1985. Mae hefyd wedi rhoi'r chwaraewyr sydd â steil gwallt trychinebus gyda'u gilydd yn ogystal â'r rhai â locsyn a mwstash!

Gêm gyntaf y tymor

8.8.06
'Dwi wei dechrau dyddiadur y tymor ar safle we Ar y Marc. Mae croeso i chi adael sylwadau yno!

Dwy gêm - 4 pwynt - Wooooooooohoooooooooo!

Cefnogwyr cul yn Glasgow

4.8.06
Mae golwr Celtic, Artur Boruc, yn wynebu achos llys am iddo groesi ei hun cyn gêm rhwng Celtic a Rangers!
Mae'r awdurdodau wedi derbyn cwynion gan gefnogwyr Rangers wedi'r eilydd o golwr wneud yr ystym crefyddol tra'n cynhesu ar ochr y maes yn Ibrox ym mis Chwefror.

Mae culni rhai o gefnogwyr Rangers yn anhygoel - pwy ar y ddaear fyddai'n meddwl bod Pabydd o Wlad Pwyl wedi croesi ei hun er mwyn cythruddo Protestaniaid penboeth Rangers ...?

Brasil v Ariannin ... yn Llundain

2.8.06
Bydd Brasil yn herio Ariannin ar faes newydd Arsenal ar 2 Medi yn ôl safle we Cymdeithas Bêl-droed Brasil