Rwyf newydd ddychwelyd o Lithiwania a gêm ail gymal Y Rhyl â Suduva, a dyna'r rheswm dros y diffyg postio dros yr wythnos diwethaf ... doedd dim modd cysylltu â'r we fyd eang yn Kaunas, yn wir, roedd yn amhosib cysylltu â'r BBC yng Nghardydd diolch i fethiant Lithuania Telecom!
Dydd MawrthBu rhaid i mi adael Sir Fôn am 0200 er mwyn ymuno â thîm Y Rhyl ym maes awyr Manceinion a dal awyren i Amsterdam. Wedi awr yn yr Iseldiroedd cawsom ein hunain ar awyren fechan i Riga, Latfia lle roedd bws a phum awr o siwrne yn ein disgwyl er mwyn cyrraedd Kaunas.
Roedd pawb yn falch o gyrraedd y gwesty nos Fawrth er mwyn cael tipyn bach o gwsg, ond yn anffodus, roeddwn digon effro i golli llwyth o Litas ar y roulette yng nghasino'r gwesty!
Dydd MercherCawsom ymweld â stadiwm FK Suduva ym Marijanpole am y tro cynta ac roedd siom enfawr yn fy nisgwyl - nid oedd y linell ISDN sydd ei angen i ddarlledu yn gweithio ... bu rhaid disgwyl am beirianydd o Lithuania Telecom, ac wedi pedair awr o drafod gyda'r naill yn deall iaith y llall, bu rhaid i mi adael am y gwesty heb lwyddo i ddarlledu.
Dydd IauBu rhaid i mi fynd i'r stadiwm erbyn 1300 brynhawn Iau (5 awr cyn y cic gyntaf) er mwyn ceisio sortio'r llinell ISDN - yn anffodus, ni ddaeth y peirianydd tan 1530 felly am ddwy awr a hanner bu rhaid i mi wrando ar cd Lithuanian-pop yn chwarae drosodd a throsodd ar yr uchelseinydd ac yna am ddwy awr a hanner arall bum yn croesi pob bys a chyffwrdd pob darn o bren wrth i'r peirianydd geisio trwsio'r llinell ISDN ... ond ni weithiodd a bu rhaid i mi wneud pob darllediad ar y ffôn!
Yn anffodus i'r Rhyl, roedd y dyfarnwr i'w weld yn anwybyddu taclo ffyrnig y tîm cartref a roedd y Cymry'n mynd yn fwy fwy rhwystredig.
Ildiwyd dwy gôl gynnar ac roedd hynny'n golygu bod mynydd o dasg yn wynebu'r Rhyl. Cafwyd llygedyn o obaith wrth i Andy Moran rwydo gôl yn yr ail hanner, ond methodd Alex Hay, Marcus Orlick a Lee Hunt gyflon euraidd i ddod â'r Rhyl yn gyfartal.
Ond cafwyd cwmwl du enfawr ar y gêm pan glydwyd Chris Sharp i'r ysbyty wedi iddo dorri dau asgwrn yn ei goes - pob dymuniad da i Sharpy a gobeithio ei fod bellach ar ei ffordd adref.