Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Tat Cwpan y Byd

29.6.06
Tra roeddwn allan yn Yr Almaen, roedd yn amhosib prynnu unrhywbeth heb logo neu chyfeiriad at Gwpan y Byd arno tra bod pob ffenest siop wedi ei hardduno â themau pêl-droed, ond, dwi'n credu fod hyn yn mynd rhy bell:

Tampere 'ta Campere?

28.6.06
Ai dyma'r ymgyrch hyrywddo mwyaf camp yn hanes y byd pêl-droed? Mae'r tîm drechodd Caerfyrddin yn Nhlws yr Interoto, Tampere United, wedi cyhoeddi cyfrs o luniau difyr tu hwnt er mwyn hyrwyddo'r tîm sydd yn chwarae ym mhrif adran Y Ffindir, yn eu mysg mae'r llun yma o'r chwaraewr canol cae, Petri Heinanen:



Mae'r gweddill i'w gweld yma!

Profiadau gwych ...

27.6.06
... ymddiheuriadau am beidio blogio am ychydig o wythnosau ... a bod yn onest, mae'n gywilydd nad ydw i wedi blogio trwy gydol pencampwriaeth fywaf y byd pêl-droed!

Beth bynnag, 'dwi wedi dychwelyd o'r Almaen lle bues i ddigon ffodus i gael tocyn i wylio Brasil yn erbyn Siapan - dim ond censored gostiodd y tocyn gan rhyw Sgowsar tu allan i'r Westfalenstadion yn Dortmund.

Roedd yr awyrgylch y y stadiwm yn fendigedig gyda dau neu dri o 'fandiau' yn chwarae cerddoriaeth Samba trwy gydol y gêm ... wel, unwaith bo Ronaldo wedi dod â Brasil yn gyfartal beth bynnag!

Y diwrnod cynt roeddwn wedi bod yn Gelsenkirchen ar gyfer Mecsico v Portiwgal ond roedd yn amhosib prynnu tocyn ar gyfer y gêm. Roedd hyd at 100,000 o Fecsicanwyr wedi heidio draw i'r Almaen ac roeddent yn talu bron i €1000 am docyn!

Y peth gorau am gefnogwyr Mecsico oedd y gwisgoedd - roedd bron i pob un yn gwisgo sombrero a roedd canran uchel ohonynt yn gwisgo masgiau reslo hefyd - roedd fel confensiwn o gefnogwyr El Bandito!

Rwy'n addo 'sgwennu mwy yn y diwrnodiau nesaf, ond am y tro, mae fy lluniau yma

Y gêm brydferth (2)


Mecsico v Portiwgal
Originally uploaded by blogdroed.

Y gêm brydferth (1)

23.6.06

Brasil v Siapan
Originally uploaded by blogdroed.

Tydi pêl-droed yn gêm brydferth?

Ronaldo'n rybish

14.6.06
Mae Robert Kovac wedi datgan bod marcio Ronaldo nos Fawrth wedi bod yn waith hawdd ac mae nifer wedi synnu pa mor dew oedd ymosodwr Brasil.

Mae tîm rheoli Brasil wedi gwadu ei fod wedi dod o hyd i ffatri'r Black Forest Gateau ers bod yn Yr Almaen!

Beckham: babi mam

Mae David Bweckham yn flin â phapur newydd Bild yn Yr Almaen am iddynt feiddio dweud rhywbeth cas am ei fam!

A bod yn onest, doedd yr hyn ddywedodd y papur ddim yn rhy ddrwg:
Gwên fel gwraig fferm, cyn ferch trin gwallt, ffan o Robbie Williams, ac allan ar y 'pull' eto wedi ei hysgaria.

Ffeithiau a Ffigyrau

9.6.06
Mae BBC Cymru'r Byd wedi cyhoeddi rhestr o ffigyrau difyr am Gwpan y Byd, ond mae nhw wedi anghofio crybwyll y nifer o fflagiau San Sior sydd i'w gweld ar strydoedd Aberystwyth, faint o weithiau bydd rhaglen Wales Today yn crybwyll enw'r 'Cymro', Michael Owen a faint o ddyddiau cyn ei gardiau post fydd Dennis Lawrence yn ôl yn Wrecsam!

FA Welsh Not

5.6.06
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystyried newid eu polisi iaith diolch i ymgyrch gan John Pritchard o Gynghrair Caernarfon a'r Cylch.