Ariannin 1978
31.5.06Y gystadleuaeth cyntaf rwy'n ei gofio go iawn yw'r Ariannin ym 1978.
Rwy'n cofio lluniau o fws Yr Alban yn torri i lawr cyn iddynt gyrraedd eu gwesty gan fod holl gefnogwyr pêl-droed lleol wedi troi allan i'w croesawu a roedd injan y bws wedi gorboethi!
Rwy'n cofio David Coleman yn gwneud adroddiad hir a chymleth (i fachgen 7 mlwydd oed) am y coup militaraidd oedd wedi golygu nad oedd Johan Cruyff yn fodlon teithio i'r wlad>

Ond fwy na dim byd arall, rwy'n cofio'r holl ticker tape yng ngemau'r Ariannin a'r bechgyn ifanc yn gwneud triciau efo peli pêl-droed cyn y gemau ac yn fwy na dim, fy hoff chwaraewr ar y pryd, Mario Kempes (roedd gen i grys Valencia melyn, coch a glas efo Kempes ar y cefn!).
'Dwi'n credu mai dyma'r rheswm pam fy mod yn tueddu i gefnogi'r Ariannin yng Nghwpan y Byd yn hytrach na Harlem Globetrotters y byd pêl-droed, Brasil.











