Wrecsam - adroddiad ar y tymor
30.4.06Mae'r adran isaf yn adran cythreilig o sâl, ond mae'r ffaith i ni fethu â churo timau fel Amwythig, Caer, Notts County, Stockport a Torquay yn profi nad yw ei tîm ni hanner ddigon da.
Mae Danny Williams wedi bod yn gawr tymor yma a roeddwn yn hynod o falch ei weld yn cael gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ddoe.
Ac mae Mark Jones yn llawn haeddu'r wobr gyfatebol i chwarewyr ifanc, er mae'n deg deud ei fod wedi cael diweddglo gymharol siomedig i'r tymor.
Ond beth am y tymor newydd? Pa chwaraewyr ddylai fod yn aros? Pa safleoedd ddylai Denis Smith fod yn ceisio eu cryfhau?
Wel, os caw ddechrau â'r golwyr - mae Mike Ingham wedi profi yn golwr ddigon dibynadwy ond mae Michael Jones, yr eilydd ifanc, yn edrych yn addawol tu hwnt, felly mae'r bois rhwng y pyst yn iawn.
O ran yr amddiffyn, mae Shaun Pejic a Dennis Lawrence wedi cael tymor boddhaol ac mae Mike Williams - y chwaraewr ifanc o Fae Colwyn - wedi profi ei fod ddgon da i gmu i'r adwy pan fo angen. Byddai rhyddhau Dave Bayliss yn fawr o golled ond mae angen amddiffynnwr canol arall er mwyn rhyddhau Danny Williams i fynd yn ôl i ganol cae.
Ac wrth sôn am ganol cae, mae Williams a Jones yn llawn haeddu eu llefydd tymor nesaf. Mae Andy Holt, wedi cyfnod o anafiadau, wedi disgleirio ar yr asgell chwith, ond mae Simon Spender a Lee Roche wedi ei chael yn anodd i greu yr un argraff ar yr asgell dde. Prin iawn mae Matt Crowell wedi disgleirio ac am y tro cyntaf erioed, nid wyf yn credu byddwn wedi colli rhyw lawer ar Darren Ferguson eleni.
Ond mae un seren ddisglair, a chawsom gyfle i'w weld yn erbyn Rhydychen ddoe, Matty Done. Mae'r bachgen ifanc yma wedi creu cryn argraff arnaf i ddoe gyda'i rediadau campus a'i ddiffyg ofn o'r gwrthwynebwyr.
Yn ôl pob sôn mae Lerpwl ar ei ôl, ond gobeithio bydd Denis Smith yn gallu cadw ei afael arno.
Yn y llinel flaen mae Wrecsam wedi cael trafferthion eleni. Heb law am goliau Mark Jones a Matt Derbyshire, oedd ar fenthyg o Blackburn, symol iawn yw record sgorio'r Dreigiau tymor yma.
Roedd Lee McEvilly yn edrych yn addawol iawn unwaith iddo ddod i afer â chwarae'n llawn amser eto wedi cyfnod ag Accrington Stanley, ond mae wedi dioddef dwy anaf hir-dymor.
Mae Jon Walters yn gweithio'n galed iawn, ond mae angen iddo fod ychydig llai gonest a bod ychydig yn hunanol yn y cwrt cosbi.
Felly byddai sicrhau amddiffynnwr, chwaraewr canol cae, asgellwr dde ac ymosodwr ar gyfer y tymor newydd yn fendigedig!








