Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Ydi Smith yn hooligan?

27.3.06
Yn amlwg nid yw gohebydd y BBC yn ymwybodol beth ydi enw criw hwliganiaid Wrecsam!

Codi'n fuan

24.3.06
Ew, mae wedi bod yn dro byd ers i mi ddiweddaru'r blog, a hynny gan mod i yn codi am 0330 pob bore er mwyn gweithio ar Gemau'r Gymanwlad!
Ac ar un o'r boreau cynnar yma, a chyda neb arall yn y swyddfa, dechreuais feddwl pam nad yw pêl-droed yn cael ei gynnwys yng Ngemau'r Gymanwlad.

Heb law am yr anfantais amlwg o gynnal pencampwriaeth ARALL i bêl-droedwyr y byd, 'dwi'n siwr bod modd ei gynnal fel pencampwriaeth dan-21 heb ormod o drafferth.
Ac er nad ydi record Cymru dan-21 yn rhy dda, 'dwi'n siwr bydde ni'n gallu curo timau fel India, Seland Newydd a Nauru ... wel, os nad eu curo, ella sicrhau ambell i gem gyfartal!

Llwyddiant o'r diwedd

14.3.06
Mae Wrecsam wedi llwyddo, neu'n hytrach, mae Alex Hamilton wedi methu yn ei apêl yn erbyn y penderfyniad i roi perchnogaeth Y Cae Ras i weinyddwyr y clwb.

Savage - pen bach (rhan 367)

8.3.06
Roedd Robbie Savage wedi ffonio gorsaf radio Real Radio nos Lun er mwyn cael dadl â Leighton James oherwydd bod James wedi ei feirniadu ... mae'n werth gwrando ar y ddadl.

Wedi Robbie Savage ymddeol o bêl-droed rhygwladol mae wedi gwneud galwad ffôn ar ôl galwad ffôn i newyddiadurwyr er mwyn cadw ei enw yn y papurau newydd. Wythnos diwethaf, dywedodd Savage nad oedd am barhau â'r ddadl gyhoeddus yma ac ei fod am ganolbwyntio ar chwarae dros Blackburn ... yna, wythnos yma mae wedi cysylltu â Real Radio ac efo BBC Cymru er mwyn codi'r grachan unwaith eto.

Mae ymateb y Western Mail, wedi Savage feirniadu Paul Abbandonato, ddydd Mercher werth ei ddarllen hefyd

Dyslexia?

6.3.06
Diolch i Soccer Weblog am sylwi ar y camgymeriad gan 'kit man' Lloegr ar gyfer y gêm yn erbyn Uruguay wythnos diwethaf.



Sylwch ar rif 21 Crouch ar tu blaen ei grys ... yna sylwch ar gefn y crys!

Llongyfarchiadau Lewin

Llongyfarchiadau i Lewin Nyatanga lwyddodd i chwalu enw Ryan Green o lyfrau hanes Cymru wrth ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i enill cap llawn.



O ran y gêm, mae un peth yn fy mhoeni; mae clywed pobl yn dweud "Roedd yn berfformiad teilwng o gofio pwy oedd ar y maes" yn fy ngwylltio ... dyma ydi'r tîm fydd gennym ni ar gyfer gemau Ewro 2008. Dim ond un chwaraewr sydd i'w ychwanegu at y garfan chwaraeodd nos Fercher - Mark Delaney.
Os yw Craig Bellamy a/neu Ryan Giggs yn anafu neu'n cael eu gwahardd rhyw ben yn ystod y gemau rhagbrofol byth pethau'n edrych yn waeth byth!