Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Llun sy'n dweud y cyfan

26.2.06
Mae'r llun yma yn dweud y cyfan am y sefyllfa mae Manchester United ynddi ar hyn o bryd:


Mae'r ffaith fod y clwb mor eithriadol o hapus am iddynt ennill Cwpan y Gynghrair yn dweud cyfrolau!

Eto'o yn gwneud protest

Cafwyd bygythiad gan flaenwr Barcelona, Samuel Eto'o nos Sadwrn ei fod yn fodlon gadael y maes wedi cefnogwyr Real Zaragoza ei wawdio â sylwadau hiliol.

Nid dyma'r tro cyntaf i Eto'o ddioddef y fath sylwadau; cafodd Zaragoza ddirwy o 600 Ewro tymor diwethaf wedi gefnogwyr wawdio'r ymosodwr o Cameroon.

Pa bryd mae Uefa yn mynd i gymryd camau yn erbyn La Liga am yr achosion o hiliaeth afiach yma sydd yn bla yn Sbaen? Mae dirwy o 600 Ewro (£408) yn chwerthinllyd ac mae'n hen bryd i'r corff llywodraethol dynnu ei ben allan o'r tywod a chymryd camau yn erbyn un o'u haelodau mwyaf pwerus.

Styc yn yr Aifft

24.2.06
Roeddwn i'n diawlio Air France wrth i mi ddychwelyd o Cairo wedi'r siwrne o'r awyren i'r terminal ym Mharis gymryd fwy o amser na'r siwrne o Baris i Manceinion, ond ymddengys fod rhai o gefnogwyr Nigeria yn dal i fod yn Cairo!

Wigan Athletic - The Movie

Yn ôl y Daily Telegraph, mae cynhyrchydd ffilmiau o America wedi cytuno ar ffi â chadeirydd Wigan Athletic, Dave Whelan, er mwyn troi hanes y clwb yn ffilm!

Lleisiwch eich barn

Mae'r Daily Post wedi galw ar i gefnogwyr Wrecsam sydd yn anhapus â'r ffordd mae eu clwb wedi ei drin i gysylltu â safle we yr independent football review er mwyn lleisio ei barn.

Mae posibilrwydd bydd Y Dreigiau'n diflannu os na all y clwb ddod allan o ddwylo'r gweinyddwyr cyn fis Mehefin.

Mae'r cefnogwyr yn disgwyl clywed barn yr uchel lys ar apêl y perchennog, Alex Hamilton, yn erbyn y penderfyniad i roi les y Cae Ras yn ôl i'r clwb, a thra bo'r mater yn y llysoedd mae'n annhebygol bydd y clwb yn gallu canfod perchenog newydd.

Ronaldo i adael Real?

21.2.06
Mae Ronaldo wedi lladd ar gefnogwyr Real Madrid yn ystod cynhadledd i'r wasg cyn y gêm ag Arsenal gan ddweud nad yw'r cefnogwyr erioed wedi ei hoffi.
Ymddengys na fydd ymosodwr Brasil yn y Bernabeu tymor nesaf a bydd y papurau bellach yn llawn o sibrydion am ei glwb nesaf ... 'sgwn i os eith o yn ôl i Inter Milan gyda Adriano yn mynd y ffordd arall?

Eto'o unwaith eto

16.2.06
Mae Samuel Eto'o wedi ei gyhoeddi fel Chwaraewr y Flwyddyn yn Affrica am y trydydd blwyddyn yn olynol.

Cairo (rhan 3)

14.2.06
Dyma fideo o'r dorf yn Stadiwm Rhyngwladol Cairo tair awr cyn y cic gyntaf o'r rownd derfynol rhwng Yr Aifft a Cote d'Ivoire

A dyma linc i weddill fy lluniau

Cairo (rhan 2)

13.2.06
Roedd fy 'nghyswllt' allan yn Yr Aifft - gwr o'r enw Kareem sy'n gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Yr Aifft - wedi addo tocynnau i'r rownd derfynol a'r gêm 3ydd/4ydd safle ... "Dim problem," meddai. "Rho alwad wedi ti gyrraedd Cairo ac fe drefnwn gwrdd er mwyn i ti gael y tocynnau." Hmmmmm, haws dweud na gwneud, Kareem. Wedi'r Aifft gyrraedd rownd yr wyth olaf nid oedd modd cysylltu â Kareem - 'doedd o ddim yn ateb ei ffôn - gan fod cefnogwyr Yr Aifft wedi deffro a sylweddoli bod eu tîm yn llwyddo.

Felly bu rhaid treulio trwy ddydd Mercher yn ceisio sicrhau tocyn i lloc y wasg ... ac wedi diwrnod cyfan o gerdded o un gwesty i'r llall ac o un ganolfan y wasg i un arall gan grafu, erfyn ac ymbilio, llwyddom i sicrhau'r passes holl bwysig!

Er mwyn sicrhau mynediad i'r rownd derfynol roedd rhaid bod yn y Stadiwm Cenedlaethol erbyn 12:00pm ... chwe awr cyn y gic gyntaf ... a roedd yn anhygoel gweld faint o bobl oedd eisoes wedi cyrraedd cyn i ni gyrraedd, ac erbyn 3:00pm roedd y stadiwm yn orlawn.

[edrychwch ar yr amser ar gloc y stadiwm:]


Roedd y swn yn fyddarol trwy gydol y dydd a chyda'r holl faneri yn cael eu chwifio yn creu golygfa bendigedig, roedd yn brofiad heb ei ail.

Cairo (rhan 1)

Wedi cyrraedd Yr Aifft nos Fawrth, daeth i'r amlwg fod y stadiwm ar gyfer y rownd gynderfynol rhwng Yr Aifft a Senegal yn llawn ers dros bum awr. Roedd rhesiad hir o'r fyddin yn amgylchynu'r maes ac yn atal unrhyw un rhag mynd heibio - hyd yn oed pobl â thocynnau!



Ond, gan nad oedd Yr Aifft yn chwarae, roedd yn hawdd iawn cael mynediad i'r gêm 3ydd/4ydd rhwng Nigeria a Senegal nos Iau ... yn wir, dim ond cerdded i fewn i'r stadiwm oedd rhaid!!

Cliciwch yma i weld a chlywed band Nigeria

Amser maith ...

... ers i mi bostio. Ymddiheuriadau am y diffyg postio ond mae bywyd go iawn wedi bod yn hectic yn ddiweddar!
Wel, be' sydd wedi digwydd ers i mi bostio ddiwethaf? Mae Juan Ugare wedi dod yn ôl i Wrecsam ... eto ... ac wedi dychwelyd i Crewe ag anaf ... eto! Mae Cymru wedi canfod trefn eu gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2008, gan ddechrau â gêm yn y Weriniaeth Siec, mae Chelsea wedi colli am y tro cyntaf yn yr Uwchgynghrair ... ac mae'r Aifft wedi cipio Cwpan Gwledydd Affrica - mwy o hynny yn y man!