Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cymryd y p...

31.1.06
Methodd Roy Keane â dod i'r maes fel eilydd hwyr i Celtic ddydd Sadwrn gan ei fod wedi mynd i'r ty bach!

Keegan yn ymuno â Distillery

Mae Kevin Keegan ar fin ymuno â Lisburn Distillery yng Ngogledd Iwerddon

Gwyliau wedi eu trefnu

28.1.06
Daeth Cymru allan o'r het i wynebu Y Weriniaeth Siec, Yr Almaen, Slofacia, Iwerddon, Cyprus a San Marino yng Ngrwp D o gemau rhagbrofol Ewro 2008, ac mae gen i deimladau cymysg i fod yn onest.
Does 'na 'run taith anturus yn y grwp fel Armenia, Moldova, Belawrws ayyb ac mae'r ffaith fod gemau'n debygol o fod ym Mhrague, Dulyn a Bratislava yn golygu ein bod yn debygol o gael pob 'stag-do' yng Nghymru ar dripiau am y flwyddyn nesaf!
Ond wedi dweud hynny, o leiaf fo'r grwp yn gymharol esmwyth ar y boced ... yn enwedig o gofio fod un gêm oddi cartref yn agosach i fy nhy i na gêm gartref!

Cwpan Gwledydd Affrica

22.1.06
Fyddai'n mynd allan i Cairo i wylio'r wythnos olaf o Gwpan Gwledydd Affrica ond mae'r hwyl wedi cychwyn yn barod yn yr Aifft. Ac ymysg y cyffro a'r pêl-droed mae'r straeon arferol o chwaraewyr yn gwrthod chwarae oherwydd diffyg cyflogau. Y diweddaraf i gwyno yw Lomana LuaLua a'i gyd chwaraewyr â DR Congo.

Merched a Ffwtbol

Wel, wel, wel ... be nesa? Mae merched yn Saudi Arabia yn mynd i gael yr hawl i wylio gêm bêl-droed!

Kings Arms v Victoria Tigers

16.1.06

Kings Arms v Victoria Tigers
Originally uploaded by blogdroed.

Bues i a'r bych yn gwylio Kings Arms Caergybi yng Nghynghrair Sul Gogledd Gwynedd ddoe.
Roedd Vic, Borth yn enill 3-2 pan benderfynom ni adael am ei fod yn rhy oer!!

Cer ona Verona

Mae ymosodwr Cymru, Craig Davies, wedi gwrthod cynnig i ymuno â Verona yn Serie B yn Yr Eidal

Peidiwch a dangos emosiwn ... da chi!

15.1.06
Roedd cerdyn coch Arjen Robben am ddatjlu ei gôl yn erbyn Sunderland ymysg y penderfyniadau mwyaf hurt rydw i erioed wedi weld.
Wedi rhwydo'r gôl roddodd ei dîm ar y blaen, carlamodd Robben at gefnogwyr Chelsea yn y Stadium of Light er mwyn dathlu ... ond penderfynodd y dyfarnwr, Mr CJ Foy o Lannau Merswy, ei fod yn haeddu cerdyn melyn am adael y maes, a cha ei fod eisoes wedi gweld cerdyn melyn am drosedd yn yr hanner cyntaf, cafodd ei hel o'r maes.

Mae hynny'n benderfyniad heb unrhyw fath o synnwyr cyffredin yn gysylltiedig ag o. Wrth gwrs fo chwaraewyr yn mynd i ddathlu goliau - pe na fyddai'r chwaraewyr yn dangos emosiwn, go brin fyddai'r cefogwyr am iddynt fod yn rhan o'u tîm!

Bungs

Bungs ydi gair yr wythnos ... rhyw 10 mlynedd wedi George Graham gael ei wahardd am ddwy flynedd am dderrby taliadau i arwyddo chwaraewyr.

Mae Mike Newell, rheolwr Luton, yn honni fod asiantau pêl-droed wedi cynnig llwgrwobr iddo yntau os fyddai'n arwyddo eu chwaraewyr.
Wrth i nifer yn y byd pêl-droed ddatgan eu siom fod Newell wedi gwneud yr honiadau, mae Kevin Ratcliffe a Denis Smith wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod nhw, hefyd, wedi cael cynnig llwgrwobr yn ystod eu gyrfaoedd.

Mae Newell yn siwr o'i chael yn anodd iawn i brofi ei honiadau, ond mae'n amlwg fod achosion tebyg yn digwydd, er i pob asiant wadu'r cyhuddiadau ... o fath.
Dywedodd un asiant wrth Five Live nad oedd hyn yn digwydd yn y byd pêl-droed ... ond efallai ei fod yn digwydd ar y lefel isaf o bêl-droed lle mae Newell wedi rheoli
Be?? y lefel isaf ... un adran yn is na'r Uwchgynghrair??

Ac yn ôl adroddiad yn yr Observer heddiw, nid yr asiantau yn unig sydd ar fai am yr hyn sydd y mynd ymlaen, ond rheolwyr a chadeiryddion hefyd ... does ryfedd felly nad yw Newell wedi derbyn llawer o gefnogaeth ymysg ei gyd-reolwyr.

Sven a'r 'Fake Sheikh'

Mae'r News of the World wedi defnyddio eu Fake Sheikh ac yn honni eu bod wedi profi fod Sven Goran Eriksson, rheolwr Lloegr, yn bradychu Lloegr, ond tydw i ddim wir yn gweld y stori nag unrhyw gamymddwyn ga Eriksson.

Tydi o fawr o stori fod rheolwr rhyngwladol ag un llygaid ar y dyfodol a'r swydd nesaf - wedi'r cwbwl tydi swydd rheolwr pêl-droed ddim ymysg y swyddi mwyaf diogel yn y byd!
Ac nid yw'n syndod mawr os yw'r sneaky Swede (sic) eisiau cyflog tebyg i'r hyn mae Jose Mourinho yn ei ennill.

Stori di-ddim gan bapur newydd sydd â diddordeb mewn gwerthu papurau yn unig ydi hon.

Gyrfa Thierry Henry ar ben

Mae o wedi malu ei goes yn ôl pob sôn ... trueni

Alan Knill - Cymru Un

10.1.06
Mae cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Alan Knill, wedi ei benodi'n reolwr ar Rotherham. Cafodd Knill un cap dros Gymru y erbyn Yr Iseldiroedd yn ôl ym 1989 gan farcio Marco van Basten. Colli fu hanes Cymru, o 1-0 gyda Ruud Gullit yn rhwydo wedi 83 munud ond wrth edrych trwy enwau tîm Yr Iseldiroedd - Van Aerle, Koeman, Rijkaard, Wouters, van Basten a Gullit - roedd yn ganlyniad da i Gymru, ond ni chwaraeodd Knill dros Gymru byth eto.

The Global Game

4.1.06
'Dwi wedi sôn am wefan The Global Game o'r blaen, ond mae rheswm arall dros wneud heddiw wedi blogdroed ennill y gystadleuaeth ffotograffiaeth ddiweddaraf!

Schwarzenegger yn gwylltio!

Roedd swyddogion yn ninas Graz wedi ystyried newid enw Stadiwm Arnold Schwarzenegger mewn protest wedi cyn seren Hollywood, sydd bellach yn yn Lywodraethwr ar dalaith California, wrthod achub bywyd Stanley 'Tookie' Williams.
Yn dilyn dienyddiad Williams cafwyd protestiadau yn ninas Graz, ger ei dref enedigol o Thal, gyda nifer yn galw am i enw stadiwm y ddinas gael ei newid. Ond mae Schwarzenegger wedi achub y blaen ar y cyngor gan wrthod yr hawl i'r ddinas ddefnyddio ei enw ar y stadiwm ac mewn unrhyw lenyddiaeth sydd yn hyrwyddo'r ddinas.

San Jose Houston Earthquakes

Och a gwae, mae'r San Jose Earthquakes wedi symud o San Jose i Houston! Dyma un peth sydd yn hollol, hollol hurt am chwaraeon yn America - y gallu i symud timau o ddinas i ddinas - ac, yn ôl y llyfrau hanes, y Houston Earthquakes fydd bellach wedi ennill Cwpan yr MLS yn 2001 a 2003 ac nid y San Jose Earthquakes.

Mae'r clwb, oedd yn gartref i George Best am gyfnod yn ystod yr 1980au cynnar ac sydd hefyd wedi meithrin talent fel Landon Donovan ac Eric Wynalda yn diflannu diolch i'r llythyr yma gan bennaeth yr MLS, Donald Garber.

O.N.

Sut mae Americanwyr i fod i fagu cefnogaeth yn eu clybiau pa fo dyn mewn swyddfa ben arall y wlad yn gallu gwneud penderfyniad i'w symud o ddinas yn California i ddinas yn Texas ... a mae nhw'n cwyno nad yw'r gamp yn llwyddo yn y wlad!

Dyma fi a fy mrawd yn Spartan Stadium ar gyfer y gêm gyfeillgar rhwng Cymru ac America ym mis Mai 2003:
usa35