Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim derby i Wrecsam

28.12.05
Ni fydd cyfnod prysur y Nadolig mor brysur i Wrecsam eleni gan fod y gêm â Chaer wedi ei ohirio. Mae hyn yn bechod garw gan fod y gemau â'r clwb sydd yn llechu dros y ffin yn rhai gwych - hon oedd yr un gêm roedd pob cefnogwr Wrecsam yn chwilio amdano wedi cyhoeddi'r gemau yn ôl ym mis Gorffennaf.
Mae'r gêm rhwng y ddau glwb yn ôl ym 1995 yn un fydd yn aros yn y cof am amser maith. Cafodd ei chynnal ar Noson Sant Ffolant o flaen torf enfawr a roedd y gêm ar dân o'r eilaidau agoriadol gyda dwy gic gosb ac un cerdyn coch yn y pymtheg munud agoriadol!
Fe orffennodd Caer y gêm â 9-dyn ond er hyn cawsant gôl hwyr i sicrhau gêm gyfartal 2-2 - gêm dderby go iawn!

Ymddiheuriadau

21.12.05
Ymddiheuriadau am y diffyg postio - prysurdeb Nadolig.

Keane yn keen ar Celtic

14.12.05
Mae'n debyg fod Roy Keane ar fin arwyddo i Celtic yn ôl BBC Scotland, ond pam ar y ddaear fyddai clwb sydd allan o Ewrop ac wedi colli cyfle i ennill cryn dipyn o arian, gyflogi chwaraewr sydd yn amlwg wedi gweld dyddiau gwell ac ar gyflog llawer iawn uwch na gweddill y garfan ...

... oni bai ei fod yn cael ei ystyried fel y rheolwr nesaf ...?

CPD LLanfair PG

Ai Clwb Pêl-droed Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllantysiliogogogoch sydd â'r enw hiraf yn y byd pêl-droed?
Wel, naci yn ôl y Guardian Knowledge gan fod NAC Breda yn hirach os ydych yn gwybod am beth mae'r NAC yn sefyll!

DiCanio wrthi unwaith eto

13.12.05
Mae Paolo DiCanio wedi bod yn dwat unwaith eto - efallai eich bod yn cofio ei arwydd ffasgaidd arweiniodd at ddirwy o bron i 10,000 Ewro ... wel yn amlwg tydi'r boi heb ddysgu dim.

Dros y Sul, roedd wrthi unwaith eto wedi iddo gael ei eilyddio yn erbyn Livorno:



Ac er ei fod yn siwr o ddweud mai ceisio gwylltio cefnogwyr Livorno oedd o - mae'n amlwg o'r llun isod beth yw gwleidyddiaeth ultras Livorno - mae gan DiCanio ormod o hanes o ddweud a gwneud pethau sydd yn profi ei fod yn gefnogwr o wleidyddiaeth asgell dde.

Dennis i herio Lloegr

11.12.05
Mae Trinidad & Tobago wedi dod allan o'r het i herio Lloegr yng Nghwpan y Byd, felly bydd amddiffynnwr canol Wrecsam, Dennis Lawrence, yn gorfod ymdopi â Wayne Rooney a Michael Owen yn Yr Almaen!

Dav ar y dôl

5.12.05
Yn ymuno efo Gazza yn y ciw dôl, mae Peter Davenport, sydd wedi ymddiswyddo o Fangor. Mae cefnogwyr Bangor wedi colli amynedd efo Davenport ers rhai wythnosau, ond gyda arian yn brin ar Ffordd Farrar bydd yn ddifyr gweld faint o newid, os unrhyw newid, fydd ymysg y chwaraewyr o dan unrhyw reolwr newydd.

Paul Gasc-gone

Mae Gazza, neu G8 fel maen hoffi galw ei hun dyddiau yma, wedi gadael Kettering Town wedi pump wythnos yn unig wrth y llyw! Mae'r clwb yn chweched yng Ngynghrair Conference y Gogledd wedi colli 3-1 yn erbyn Barrow ddydd Sadwrn.
I ddwyn dyfyniad o'r wythnos diwethaf ... "Where did it all go wrong, Paul?"

St James' Park, Newcastle

4.12.05

St James' Park, Newcastle
Originally uploaded by poity_uk.

Llun yr wythnos oddi ar flickr.

Centre-half yn nhîm y byd

Mae wefan bêl-droed wych The Global Game wedi dewis blogdroed i fod yn centre-half yn nhîm blogs y byd. Mae'n amlwg nad yw the global game wedi fy ngweld yn chwarae pêl-droed!