Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Pam Luther blydi Vandross?

28.11.05
Tydw i ddim yn adnabod yr un person sydd â record Luther Vandross yn eu casgliad, ond eto, mae pob chwaraewr pêl-droed wedi gwirioni'n lan ar y boi. 'Dwi'n cofio yr hen Focus On yn Shoot! ers stalwm, lle roedd pob chwarer yn hoffi Steak and Chips, yn gyrru Ford Capri ac yn gwrando ar gerddoriaeth Phil Collins neu Luther Vandross!

Wel, mae Chelsea wedi rhyddhau CD newydd o hoff ganeuon y chwaraewyr ac mae John Terry yn cadw'r traddodiad yn fyw trwy ddewis can gan yr Americanwr. Ond o leiaf mae ei ddewis yn fil gwaith yn well na dewis Arjen Robben, mae'r gwr o'r Iseldiroedd wedi dewis The Final Countdown gan Europe!

Murlun George Best

27.11.05

CIMG0507
Originally uploaded by blogdroed.

Murlun George Best tu allan i Barc Windsor, Belfast

Grove Park 4 Barry 0


Grove Park 4 Barry 0
Originally uploaded by The Linnets.

Llun yr wythnos oddi ar llifiad flickr y Linnets

George Best 1946 - 2005

26.11.05



In 1969 I gave up women and alcohol - it was the worst 20 minutes of my life.
- George Best

O Bratislava i Vienna ...

21.11.05
Yda chi'n cofio'r cwestiwn ynghylch y gemau agosaf rhwng dau dîm o wledydd gwahanol yng Nghwpanau Ewrop?
Wel, ymddengys mai Inter Bratislava v Rapid Vienna yw'r ateb, gyda'r ddau glwb yn teithio 55km yn unig ar gyfer y gêm oddi cartref.

Guardian Knowledge

5-pob-ochr unrhyw un?

17.11.05
Gyda pedair awr cyn y cic gyntaf, dim ond saith o chwaraewyr Nigeria oedd wedi cyrraedd Bucharest ar gyfer eu gêm gyfeillgar â Romania nos Fercher!
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Nigeria wedi anghofio trefnu gêm a bu rhaid iddynt gysylltu â'r chwaraewyr ar frys.
Erbyn y cic gyntaf roedd Nigeria wedi dod o hyd i 11 chwaraewr - un ohonynt yn chwarae'n broffesiynol â chlwb ym mhrifddinas Romania!

ThisDayonline

Dennis ar ben y byd

Rhwydodd Dennis Lawrence unig gôl y gêm wrth i Trinidad & Tobago sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd. Da iawn Dennis - reit, pob Cymro glan gloyw i gefnogi Trinidad & Tobago!

Ar y Marc

Gôl wych Jonah

15.11.05
Diolch i Løvgreen am y linc i gôl Mark Jones yn erbyn Rhydychen Sadwrn diwethaf ... mwynhewch.

Gôl Mark Jones

Stadiwm Kassam

14.11.05

Stadiwm Kassam
Originally uploaded by blogdroed.

Galwch fi'n hen ffasiwn, ond onid ddylai pob stadiwm cael pedair ochr?
Dyma Stadiwm Kassam, Rhydychen ... a maes parcio'r archfarchnad drws nesaf!

Pob lwc Dennis

10.11.05
Mae Dennis Lawrence ar drothwy creu hanes i Glwb Pêl-droed Wecsam trwy ddod y chwaraewr cyntaf yn hanes y clwb i chwarae yng Nghwpa y Byd

Ar y Marc

Gemau oddi cartref agos

7.11.05
Mae'r Guardian Knowledge eisiau gwybod beth yw'r gêm agosaf rhwng dau dîm o wledydd gwahanol yn un o gwpanau Ewrop - a rwy'n credu mod i'n gwybod yr ateb!
Pan heriodd Wrecsam Manchester United yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1990/91, dim ond 52.54 milltir oedd rhaid i'r nail dîm deithio i'r gêm oddi cartref.
Wrth gwrs, roedd TNS wedi defnyddio'r Cae Ras i herio Lerpwl yng ngemau rhagbrofol Cynghrair y Pencapwyr eleni sydd yn golygu taith o 40.97 milltir i'r Cochion, ond nid dyma cartref swyddogol TNS ac mae 63.85 milltir rhwng Anfield a'r Dreflan yn Llansantffraid.

Guardian Knowledge

Glantraeth 2-5 Y Rhyl

5.11.05

Glantraeth 2-5 Y Rhyl
Originally uploaded by blogdroed.

Roedd yn anhygoel fod y gêm yma yng Nghwpan Cymru wedi mynd yn ei blaen heddiw gan fod maes Glantraeth yn un o fwd!

Caewch eich cegau

Mae'r ffrae hurt 'ma rhwng Arsene Wenger a Jose Mourinho yn hollol, hollol hurt, diflas a phlentyniadd - caewch eich cegau, plis!

BBC Sport

Tony Blair ar Football Focus

Roedd ein hoff ac annwyl prif weinidog ar Football Focus ar BBC1 heddiw ... mae'n siwr ei fod yn ceisio profi ei fod yn ddyn y bobl unwaith eto, ond roedd ei atebion mor arwynebol, roedd yn amlwg nad oedd wir yn gwybod am beth roedd yn sôn.

Hefyd, roedd John Motson a Mark Lawrenson mor di-asgwrn cefn yn eu cwestiynau, methodd y ddau â phwyso'r PM ar yr un cwestiwn call ofynwyd ar y rhaglen, sef pam nad oes posib dychwelyd i ddyddiau teras a sefyll mewn gemau pêl-droed.

Football Focus