Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Keane yn dweud ei ddweud

31.10.05
Mae Roy Keane wedi bod yn dweud ei ddweud ar sianel deledu MUTV - neu dyna roedd wedi gobeithio ei wneud cyn i Alex Ferguson weld y cyfweliad a mynnu nad oedd yn cael ei ddarlledu.
Yn y cyfweliad, dywedodd Keane:

Na ddylai Liam Miller a Darren Fletcher chwarae i Manchester United byth eto.

Nad yw John O'Shea ddigon da i chwarae dros United.

Mae agwedd Kieran Richardson yn warthus ac y dyliai fod wedi cael ei werthu i West Brom yn yr haf.

Nad yw Alan Smith yn chwaraewr canol cae ac ni ddylai chwarae yn y safle byth eto.

BreakingNews.ie

Torri Calonnau

Mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth yn Tynecastle. Wedi Hearts ymddangos fel eu hod am dorri monopoli yr 'Old Firm' yn Yr Alban a chychwyn y tymor â 12 gêm heb golli daeth y newyddion syfrdanol fod eu rhelwr George Burley wedi gadael y clwb.
Roedd sibrydion wedi bod ers sawl wythnos nad oedd Burley yn hoff o'r perchennog, Roman Romanov o Lithuania, a'r ffordd roedd Romanov yn prynnu chwaraewyr o'i fam-wlad heb ofyn i Burley, ond roedd yn dal yn tipyn o sioc pan ymddiswyddodd y rheolwr.
Yna, heddiw, mae'r cadeirydd, George Foulkes a'r prif weithredwr, Phil Anderton, wedi gadael Tynecastle.

BBC Sport

Edinburgh Evening News

Bergkamp-itis yng Nghaerdydd

Mae dau o chwaraewyr Caerdydd wedi gwrthod hedfan i Norwich gyda gweddill y garfan ... diolch byth nad ydi Caerdydd yn gallu cynrychioli Cymru yn Ewrop bellach!

BBC Sport

TNS wedi ei werthu

Mae cwmni Total Network Solutions, sydd berchen y clwb pêl-droed o'r un enw, wedi ei brynu gan BT. Mae cyn-berchennog y cwmni, Mike Harris, wedi addo fod y clwb pêl-droed yn ddiogel ond byddent yn newid eu henw i Llansantffraid a Chroesoswallt tymor nesaf.

BBC News

Penblwydd hapus Diego

30.10.05
Mae Diego Maradonna yn 45 mlwydd oed heddiw ac mae erthygl ddifyr gan Patrick Barclay yn y Telegraph heddwi i glodfori'r diwrnod arbennig!

Telegraph

Falmer yn cael cefnogaeth

Erthygl ddifyr ga Amy Lawrence yn yr Observer heddiw yn clodfori penderfyniad John Prescott i ganiatau cynlluniau maes Falmer i Brighton & Hove Albion. Mae cefnogwyr Brighton wedi bod yn flaenllaw iawn yn eu cefnogaeth o Wrecsam a'r frwydr ag Alex Hamilton ac mae'n wych gweld y cefnogwyr yn cael eu haeddiant.
Allai'm credu fod cymaint o gefnogwyr Brighton wedi mynd i'r fath drafferth i gefnogi Wrecsam yn ein achos ac mae'n profi fod cyfeillgarwch cefnogwyr pêl-droed yn ymestyn heibio'r elyniaeth rhwng clybiau.

Observer

ClubsInCrisis.com

Best yn gwaethygu

26.10.05
Mae cyflwr George Best wedi gwaethygu yn ôl ei gyn-wraig, Alex.

BBC Northern Ireland

Conn yn ei dweud hi

Erthygl wych gan David Conn yn y Guardian heddiw yn sôn am yr hyn sydd wedi digwydd yn Wrecsam.

Guardian

Modrwy'n broblem

24.10.05
Bu rhaid i chwaraewr â chlwb Perth yn Awstralia gael ei eilyddio heb iddo fynd i'r maes yn erbyn Melbourne gan nad oedd yn gallu tynnu ei fodrwy briodas.

Reuters

Beckham heb ddysgu gwers

Cafodd David Beckham ei hel o'r maes tra'n chwarae dros Real Madrid ddydd Sul a hynny a glapio'n sbeotlyd yng ngwyneb y dyfarnwr ... yr union beth wnaeth Wayne Rooney i Manchester United a chael ei ddangon o'r maes.
Ydi hyn yn glwy Seisnig?

BBC Sport

Cofio Johnny Haynes

23.10.05

Fans at the memorial
Originally uploaded by Gina X.

Dyma lun oddi ar flickr o gefnogwyr Fulham yn talu teyrnged i Johnny Haynes

1-0 i fyny a tri munud i fynd ...

Allai'm credu'r peth. Doedd ond un tîm yn y gêm efo Mark Jones a Danny Williams yn athrylith yng nghanol cae - roedd Darren Ferguson ymhobman a roedd Foy a Walters yn edrych yn fygythiol ... ond eto, rhywsut neu gilydd colli oedd hanes Wrecsam diolch i ddau gamgymeriad amddiffynnol erchyll yn y tri munud olaf.

icWales

Haleliwia!

20.10.05
HALELIWIA!

BBC Cymru'r Byd

Mae'r arwr yn dychwelyd



BBC Cymru'r Byd

Cwpan Mickey Mouse

19.10.05
Mae Wrecsam allan o'r Cwpan Mickey Mouse (Tlws yr LDV) wedi colli 4-3 yn Blackpool ar ôl amser ychwanegol. Duwcs annwyl, pwy sydd eisiau ennill cwpan o'r fath beth bynnag, eh?

BBC Cymru'r Byd

Johnny Haynes

18.10.05
Mae Johnny Haynes, y chwaraewr sydd yn enwog am fod y cyntaf i ennill £100 yr wythnos, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.



Reuters

Taking Liberties

Mae'r Stadiwm Newydd/Morfa wedi cael enw newydd. Mae cwmni Stadco wedi gwerthu'r enw i gwmni Liberty Properties PLC, felly o heddiw ymlaen bydd yn cael ei adnabod fel Stadiwm Liberty ... ych-a-fi!

BBC Cymru'r Byd

Giggs yn cyrraedd cant

Os yw Sir Alex yn ei ddewis i chwarae yn erbyn Lille heno, bydd Ryan Giggs yn chwarae ei 100ed gêm yn Ewrop i Manchester United.



uefa.com

Abel yn methu prawf cyffuriau

Mae amddiffynnwr Middlesbrough, Abvel Xavier, wedi methu prawf cyffuriau. Yn ôl y Guardian heddiw, mae Xavier, yn ddiarwybod i Middlesbrough, yn cymryd cyffur sydd wedi ei fewnforio o America ar gyfer rhyw feirws neu'i gilydd. Os mae hyn yn wir, yna mae'r boi yn dwp!

Guardian

Hang on Anatoliy!

15.10.05
Mae Anatoliy Timoshchuk, capten Shaktar Donetsk, yn sôn am y profiad o fod wedi cyrraedd Cwpan y Byd gyda Iwcrain, yn ei golofn ar tribalfootball.com.
Ond yn ei erthygl mae'n dweud:
George Best, Ryan Giggs, Eric Cantona - without doubt, they are great footballers - they are the symbols of their countries, but this is the decision of destiny, that they haven't felt the happiness of participating in a World Cup, they haven't felt the spirit of this tournament, which we can name - "The best of the best".
It doesn't matter what titles they have, what titles they won during their professional career, they will not have tasted the unique experience of a World Cup.

Aros am eiliad Anatoliy, mae gan Ryan hyd at Dde Affrica a 2010 cyn dy fod yn gallu datgan y fath ystadegyn!

tribalfootball.com

cronfa.com

Wrth chwilio am rhywbeth hollol wahanol, llwyddais i ddod ar draws safle we sydd â lluniau o phob math o berlau o'r byd pêl-droed Cymreig.
O gap Billy Meredith i bosteri sy'n hysbysebu gemau Cymru, mae'n sicr werth pori trwy'r lluniau.


Poster yn hysbysebu gêm Georgia v Cymru

cronfa.com

Euskal Herria v Cymru

Mae Cymru ar fin cyhoeddi gêm ym mis Mai yn erbyn XI Gwlad y Basg. Yn amlwg mae dylanwad John Toshack wedi bod yn bwysig iawn yn dilyn ei gyfnod wrth y llyw â Real Sociedad ac mae Cymdeithas Bêl-droed Sbaen wedi rhoi sêl eu bendith i'r gêm.

Euskadiko Futbol Federakundea

Canlyniadau Euskadiko

¡Bengala!


¡Bengala!
Originally uploaded by WR276.

Llun yr wythnos oddi ar flickr.
Cefnogwyr Ecuador yn dathlu wedi iddynt sicrhau eu lle yng Nghwpan y Hyd 2006

Ewro 2008

14.10.05
Mae uefa wedi cyhoeddi rhestr y detholion ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2008.
Bydd Cymru ym mhot pump pan ddaw'r enwau alla o'r het yn Y Swistir fis Ionawr.

Pot 1
Gwlad Groeg
Yr Iseldiroedd
Portiwgal
Lloegr
Y Weriniaeth Siec
Ffrainc
Sweden

Pot 2
Yr Almaen
Croatia
Yr Eidal
Twrci
Gwlad Pwyl
Sbaen
Romania

Pot 3
Serbia & Montenegro
Rwsia
Denmarc
Norwy
Bwlgaria
Iwcrain
Slofacia

Pot 4
Bosnia-Herzegovina
Iwerddon
Gwlad Belg
Latvia
Israel
Yr Alban
Slofenia

Pot 5
Hwngari
Y Ffindir
Estonia
CYMRU
Lithuania
Albania
Gwlad yr Iâ

Pot 6
Georgia
Macedonia
Belarws
Armenia
Gogledd Iwerddon
Cyprus
Moldofa

Pot 7
Liechtenstein
Azerbaijan
Andorra
Malta
Ynysoedd Faroe
Kazakhstan
Lwcsembwrg
San Marino

Byddwn i wrth fy modd â Sweden, Croatia, Rwsia, Bosnia, Macedonia, Kazakhstan a chan bod un grwp o wyth gallwn ychwanegu Ynysoedd Faeroe i'r rhestr hefyd.

uefa.com

Bahrain ... gwlad gyfoethog!

13.10.05
Nid bod fi'n awgrymu dim efo'r pennawd cofiwch, ond mae rhywbeth mawr o'i le efo'r hyn ddigwyddodd i Uzbekistan.
Yng nghymal cyntaf y gêm ail gyfle rhwng Bahrain ac Uzbekiatan, llwyddodd yr Uzbeks i ennill 1-0 ond roeddent yn gandryll â'r dyfarnwr wedi iddo wneud camgymeriad dros benderfyniad ar gic o'r smotyn. Gyda'r Uzbeks 1-0 ar y blaen cawsant gic o'r smotyn ac er i Server Djeparov rwydo, rhoddodd y dyfarnwr o Siapan, Toshimitsu Yoshida, gic rydd i Bahrain am i un o'r Uzbeks gamu i fewn i'r cwrc cosbi.
Yn ôl y rheolau, fe ddylai Uzbekistan fod wedi cael cyfle i gymryd y gic eto, ac o'r herwydd aeth Uzbekistan ger bron Fifa i alw am i'r gêm gael ei ddiddymu gyda Uzbekistan yn cael sgôr o 3-0 - ond mynodd Fifa bod y gêm gyfan yn cael ei ailchwarae.
Yn y gêm ailchwarae, llwyddodd Bahrain i sicrhau gêm gyfartal 1-1 ac wedi gêm ddi-sgôr yn yr ail gymal yn Bahrian nos Fercher, mae Uzbekistan allan!

Fifa

Cyfle olaf Trinidad

12.10.05
Bydd Trinidad y herio Mecsico heno tra bo Guatemala yn herio Costa Rica gyda un yn unig o'r gwledydd yn camu ymlaen i gêm ail gyfle Cwpan y Byd.
Bydd y tîm sydd yn gorffen yn bedwerydd yng Ngrwp CONCACAF - mae America, Mecsico a Costa Rica eisoes wedi sicrhau eu lle yn Yr Almaen trwy orffen ymysg y tri uchaf - yn chwarae gêm ail gyfle yn erbyn Bahrain neu Uzbekistan am le yng Nghwpan y Byd.
Pob lwc i amddiffynnwr Wrecsam, Dennis Lawrence!

worldsoccernews.com

Mwy o siom i Price

11.10.05
Mae'n debygol na fydd Lewis Price yn gwella mewn pryd i wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru nos Fercher felly bydd rhaid i ni ddioddef Calamity Jones unwaith eto ...

... o diar!

BBC Cymru'r Byd

Yr Ali Dia Eidaleg

Yda chi'n cofio 'cefnder' George Weah, Ali Dia, yn sicrhau cytundeb misol â Southampton o dan reolaeth Grahame Sounness? Ond wrth gwrs, nid cefnder George Weah oedd Dia, a doedd o ddim yn llawer o bêl-droediwr chwaith!
Wel mae Eidalwr ifanc wedi bod yn ceisio sicrhau cytundeb â rhai o glybiau arfordir y gogledd tra'n honni ei fod yn seren ifanc o'r Eidal.

BBC News

Lluniau Belfast

10.10.05
Mae fy lluniau o'r penwythnos yn Belfast yn fyw bellach.

flickr

Gôl Giggs

Mwynhewch!

cliciwch yma

Gog Iwerddon 2-3 Cymru

Wel am benwythnos swreal!
Roedd pob gyrrwr tacsi yn cwestiynnu ein dewis o westy ar y nos Iau, sef y Park Avenue Hotel yng Ngorllewin Belfast, sydd yn ardal unoliaethol iawn, ond roedd i'w weld yn ddigon parchus ... tan i ni yrru rownd y gornel a gweld graffiti mawr yn clodfori Jim Grey. Does ryfedd eu bod wedi eu synnu wedi ni ofyn am y Park Avenue ac yna ein clywed yn siarad Cymraeg! Ond, wedi dweud hynny, wrth adael y gwesty fore Gwener er mwyn ymuno â gweddill yng Ngwesty'r Europa, llwyddom i gyfarfod Roy Walker - "say what you see", "good answer" yn dadlau dros £25 oedd ar ei fil.

Roedd pob taith tacsi fel cwis wrth i ni geisio darganfod o ba gymuned daw'r gyrrwr cyn pasio barn ar unrhywbeth! Cawsom un gyrrwr oedd wrth ei fodd yn llad ar John Hartson - "f****ng Papist b*****d" ac yna "I f****ng hate the Celtic c**t" - cyn pasio'i gerdyn i ni a chynnig 'deal da' ar daith i'r maes awyr fore Sul ... diolch, ond dim diolch, Dave!

Nosd Wener cawsom noson od yn yr RUC Club - go iawn!. Noson oedd wedi ei drefnu gan gefnogwyr Norn Iron oedd hwn a chawsom wahoddiad gan ffrind o Belfast.
Wedi ennill (a llowcio) potel o vodka a chyfarfod tîm pêl-rwyd Heddlu Sir Gaerhirfryn, bu rhaid i ni adael yn gynnar wedi i gefnogwr penboeth Gogledd Iwerddon fynnu ein bod ni'n Brits - doedd ein dadl ni ddim yn dal dwr yn ôl pob sôn a doedd nhw ddim yn or hoff o'n caneuon am "Georgie Best" ac "Intensive Care"!!

Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn wych ar adegau ac yn erchyll ar adegau eraill, ond cawn fwy am hynny yn y man ...

Bore da o Belfast

7.10.05
Bore Da!
Dwn i ddim os ga'i gyfle i bostio o Belfast eto, ond rwyf wedi bod yma ers ddoe yn paratoi ar gyfer y gêm fawr fory - roedd angen dod yn gynnar er mwyn arfer efo'r gwahaniaeth amser ayyb, mae'n waeth pan mae rhywun yn hedfan tua'r gorllewin medda nhw!!

Yn ôl y son ar strydoedd Belfast neithiwr, mae Tosh wedi dewis tîm "diddorol"

Martin yn dewis County nid Cymru

5.10.05
Mae chwaraewr dan-21 Cymru, Dan Martin, wedi tynnu allan o garfan Cymru er mwyn canolbwyntio ar sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf Notts County.
Daeth y cyhoeddiad ar safle we swyddogol Notts County gyda dyfyniadau gan eu rheolwr, Gudjon Thordarson, felly mae'n amlwg i mi fod y gwr o Wlad yr Iâ wedi dylanwadu'n fawr ar ei bederfyniad.

nottscountyfc.co.uk

Dearyddiaeth dodgy Michael

Mae Michael Owen wedi dweud nad yw eisiau byw dramor byth eto. Mewn cyfweliad â Radio Five Live, dywedodd Owen
"I had a good time in Madrid, both on and off the pitch but I missed the UK weather, I missed the food, the Premiership and being around English people."

Ti'n byw yng Nghymru, Michael, y twpsyn!

BBC Sport

O diar ...

Mae un o sêr Manchester United yn cael ei gyhuddo o dreisio merch yn Llundain, yn ôl y tabloids heddiw.

Red Issue

Celf neu nonsens?

4.10.05
Rwy'n ymwybodol iawn fod pawb yn gweld rhywbeth gwahanol yn y byd celf ... ond mae'n rhaid dweud fod y posteri ar gyfer Cwpan y Byd 2006 yn crap!

Mae rhifau 2 a 10 yn arbennig o hurt ... yn fy nhyb i wrth gwrs!

Der Spiegel

Gabs yw chwaraewr y flwyddyn

Danny Gabbidon yw Chwaraewr y Flwyddyn y byd pêl-droed Cymreig - tydw i ddim yn siwr pam mai Cymru yw'r unig wlad sydd yn anrhydeddu'r chwaraewyr pob mis Hydref ...!

Beth bynnag, mae safle we Ar y Marc yn chwilio am ymateb i'r penderfyniad.

Ar y Marc

Mecsico'n fuddugol

3.10.05
Mecsico oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Cwpan dan-17 y Byd yn Peru, felly gallwn ni edrych ymlaen at dîm cryf i herio America yn Adran Concacaf?

BBC

George Best yn sâl ... eto.

Mae George Best wedi ei gludo i uned gofal ddwys oherwydd problemau â'i arenau

Football Guardian

Llenyddiaeth a Pêl-droed

Rwyf wedi dod ar draws safle we Footbal Poets, diolch i The Global Game a'u dewis o XI blog pêl-droed rhyngwladol.
Dyma esiampl o'r llenyddiaeth sydd ar gael:
A Question of Nationality

Holland had a full back called Israel,
Mike England was captain of Wales.
Alan Brazil played for Scotland and
Matt Holland is one of the Gaels.

Peter Goulding

Prysor a Lovgreen ... lle mae'ch cynnigion?

Football Poets

Dim ots am Gymru gan Uwchgynghrair Cymru ...

Gyda Cymru'n herio Gogledd Iwerddon yn Belfast ddydd Sadwrn, byddai rhywun yn meddwl buasai clybiau Uwchgynghrair Cymru'n symud eu gemau i'r nos Wener neu brynhawn Sul er mwyn osgoi gorfod cystadlu â'r gêm.
Ond na, er fod y gynghrair wedi gweld torfeydd yn disgyn tymor yma, bydd pump o gemau'r gyngharir yn mynd yn eu blaenau brynhawn Sadwrn.

Hwlffordd v Rhyl
Porthmadog v Caersws
Port Talbot v Cei Connah
Bangor City v Caerfyrddin
Y Drenewydd v Quins y Grange

Pam ar y ddaear fod hyn yn digwydd? Byddai gemau ar brynhawn Sul yn siwr o ddenu gwell torf i'r meysydd na gêm fydd yn cystadlu â Chymru ar y teledu.

Paffio yn Pacistan

1.10.05
Bu rhaid dod â rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Merched Pacistan i ben yn gynnar oherwydd bod y ddau dîm yn cwffio!

BBC News