Problemau? Pah!
27.9.05Where it all went wrong ydi'r pennawd yn y Guardian ...
The moment they turned on Fergie - the beginning of the end sydd yn yr Independent ...
... ond daliwch eich dwr ... mae Manchester United yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr heno, mae Manchester United yn chweched yn yr Uwchgynghrair ac mae Manchester United yn berchen rhai o chwaraewyr mwyaf talentog y byd pêl-droed.
Os yda chi wir eisiau gweld clwb sydd yn dioddef, dewch i'r Cae Ras lle mae Denis Smith yn gwneud gwyrthiau efo carfan fechan a llond trol o anafiadau. Ewch i wylio Caergrawnt sydd wedi colli eu statws fel clwb cynghrair yn ogystal a gweld eu maes yn cael ei werthu i wr busnes lleol er mwyn codi arian i gadw'r clwb yn fyw. Cofiwch ymweld â Boston lle mae'r cefnogwyr yn cael eu gwahardd o'r maes am leisio barn yn erbyn y cadeirydd ...
... dyma beth yw problemau, dyma beth ydi clybiau pêl-droed sydd angen eu cefnogi - nid rhyw glwb mawr sydd yn meddwl mai methiant ydi gorffen yn drydydd yn yr Uwchgynghrair tra'n cyrraedd rownd yr wyth olaf o Gynghrair y Pencampwyr.







