Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

'Da ni eisau ennill ... ond ...

31.8.05
Mae John Hartson yn cyfaddef nad yw'n disgwyl i Gymru ennill gan fod y tîm wrthi'n ailadeiladu o dan John Toshack.

BBC Cymru'r Byd

Ond mae Simon Davies wedi cyfaddef nad yw ei reolwr ag Everton, David Moyes, eisiau ei weld yn dychwelyd i Barc Goodison oni bai fo Cymru wedi ennill!

"He's a proud Scot and has told me, in no uncertain terms, to make sure I report back to Everton with a win under our belt," smiled Davies.

"It's a bit demeaning, Celts just wanting to beat the English like that. But I know exactly what he means!"

Western Mail

Owen y Geordie

30.8.05
Wel, wel, wel ... mae Michael Owen wedi arwyddo i Newcastle.
Wedi sylwi mai ef oedd y pumed dewis yn Real Madrid ac wedi deall nad oedd gan Lerpwl unrhyw ddiddordeb ei arwyddo, mae'r ymosodwr, sydd yn chwilio i chwarae dros unrhyw glwb er mwyn sicrau ei le yn nhîm Lloegr, wedi mynd i Newcastle.

Felly, wedi gadael Lerpwl "er mwyn enill pethau" mae wedi treulio tymor ym Madrid welodd y clwb yn ennill dim byd tra bo Lerpwl yn ennill Cwpan Ewrop ac mae wedi dychwelyd i glwb sydd heb enill unrhywbeth ers 1969!

Efallai bod y ffaith fo'r ffenestr drosglwyddo yn prysur ddirwyn i ben yn golygu fod Owen wedi gorfod gwneud penderfyniad sydyn ac mai dyna'r eglurhad dros iddo ddewis ymuno â chlwb sydd allan o Ewrop, wedi casglu un pwynt hyd yma yn ystod y tymor a sydd yn cael ei reoli (yn honedig) gan y prima donna, Alan Shearer, ac nid y rheolwr, Graham Souness - gwd mwf, Michael!

Football Guardian

Ta-Ta Collina

Mae dyfarnwyr mwyaf amlwg y byd, Pierluigi Collina, wedi ymddeol o ddyfarnu wedi cymdeithas dyfarnwyr yr Eidal gwestiynnu ei gytundeb â chwmni Opel, sydd hefyd yn noddi AC Milan.

BBC Sport

Tartan Red

Tydw i ddim yn siwr os wyf wedi cyfeirio at y wefan yma o'r blaen, ond mae Tartan Red, cefnogwr Wrecsam sy'n byw yn Yr Alban, yn codi arian at ymchwil i Friedreich's Ataxia, clefyd sydd wedi ei weld yn defnyddio cadair olwyn ers 1993.
Mae Tartan Red yn ceisio ymweld â chymaint o feysydd pêl-droed â phosib mewn tymor, gan gychwyn â meysydd Yr Alban.

Tartan Red on Tour

FCUM yn fyw na Bury

29.8.05
Mae FC United of Manchester, y clwb â sefydlwyd fel protest gan gefnogwyr wedi Malcolm Glazer brynnu Manchester United, yn chwarae eu gemau cartref yn Gigg Lane, Bury.
Ar gyfer eu gêm gartref cyntaf yn y Moore & Co. Construction Solicitors League, Adran 2 yn erbyn Padiham, roedd torf o 2498 o bobl yn gwylio.

Penwythnos diwethaf, dim ond 2468 drodd allan i wylio Bury yn erbyn Wrecsam ar yr un maes!

FC United of Manchester
Cefnogwyr FCUM

G'day

27.8.05
Mae'r A-League newydd wedi cychwyn yn Awstralia gydag Adelaide United yn trechu'r Newcastle Jets 1-0 yn y gêm gyntaf.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Awstralia yn ceisio magu mwy o ddiddordeb ym mhêl-droed y wlad ac wedi creu cynghrair gyda seiliau tebyg iawn i'r MLS yn America.
Mae yna uchafswm i'r cyflogau mae clybiau yn cael dalu ac mae'r gymdeithas wedi rheoli'r niferoedd o 'sêr' sydd yn y gynghrair gan eu rhannu rheng y clybiau i gyd.

The Telegraph

Newcastle Jets 0-1 Adelaide United

SportsAustralia

Clybiau cerddorol

Mae Blog-droed wedi llwyddo cyfrannu at y Guardian Knowledge wythnos yma. Roedd un cwestiwn wythnos diwethaf yn gofyn am enwau bandiau oedd wedi eu hysbrydoli gan bêl-droed, llwyddodd Blog-droed i hysbysu'r Guardian am y band Cymraeg, Ian Rush.

Guardian Knowledge

Bore da o Norwy

24.8.05
Rwyf yma yn Stavanger gyda'r Rhyl ond mae gen i fynediad i'r we ... diolch yn fawr BBC Cymru ... a rwyf wedi bod yn cadw viking-flog ar gyfer safle we Ar y Marc.

Mwynhewch!

Ar y Marc

Tymor newydd, agweddau newydd

21.8.05
Mae blog OleOle, sydd yn galw ei hyn yn flog i'r cefnogwr pêl-droed meddylgar, wedi dod i fyny efo'r disgrifiad yma o Uwchgynghrair Lloegr eleni:

Chelsea is the new Arsenal
Arsenal is the new Man Utd
Man Utd is the new Arsenal
Liverpool is the new Tottenham
Tottenham is the new Newcastle
Newcastle is the new Blackburn
Blackburn is the new West Brom
Middlesbrough is the new...Middlesbrough
The rest are just the same as each other.


OleOle

Cau dy geg Sparky

19.8.05
Mae'n hen bryd i Mark Hughes gau ei geg pan mae'n dod i dîm rhyngwladol Cymru. Yn gyntaf mae Hughes, benderfynodd gerdded allan ar Gymru er mwyn ymuno â Blackburn Rovers llynedd, yn galw ar i John Toshack ddweud ei ddweud ar sefyllfa Robbie Savage, yna mae'n beirniadu Cymru am beidio gadael iddo wybod fod Craig Bellamy wedi anafu.

Yn gyntaf, nid lle Toshack ydi gwneud sylw ar Savage - mae'r pen bach pen felyn wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol felly nid oes modd i Toshack ei ddewis. Nid yw Savage wedi codi'r ffôn ar Toshack i ymddiheuro nac i ddweud ei fod bellach ar gael i Gymru, felly problem Savage ydi hyn i gyd, nid Toshack.

Mae Toshack yn gwadu cyhuddiad Hughes fod tîm meddygol Cymru heb gysylltu â thîm meddygol Blackburn ac mae'n ymateb yn reit flin i sylwadau Hughes.
"If we can just turn the clock back to the Italy game (in 2003) when the Newcastle people absolutely slated Mark Hughes about the Bellamy injury," said Toshack of the time Newcastle claimed Bellamy was not fit to play in Milan.

"I phoned Mark and told him 'don't waste your energy on this, don't let it worry you; you're perfectly within your rights, just send Newcastle a fax with the Fifa rules'."

Nid oedd Mark Hughes cystal rheolwr i Gymru ac mae'n hoffi meddwl a rwy'n credu fod ei sylwadau diweddar yn dangos ei fod yn ddyn chwerw iawn sydd â fendeta yn erbyn Toshack yn dilyn ei sylwadau yn y wasg yn ystod teyrnasiad Hughes.

BBC Sport

Wythnos o wyliau

Ymddiheuriadau am y diffyg postio ers rhai dyddiau ond rwyf wedi bod ar wyliau yn Llundain ... ia ... dwi'n gallu clywed yr ochenaid o'r fan hyn ... methais gêm Cymru â Slofenia!
Dim fy newis i oedd mynd ar wyliau yr wythnos yma ond roedd rhaid i ni fynd i briodas felly doedd gen i ddim dewis ond methu gêm rhyngwladol gartref am y tro cyntaf ers 1993 ... ond yn ôl pob sôn roedd yn gêm ddelfrydol i'w methu!
Roedd hefyd yn fonws cael bod yn llundain ar y noson cafodd yu Saeson eu chwalu 4-1 gan Denmarc!

Clic Clic

13.8.05
Mae safle we Ar y Marc, sydd, ynghyd â gweddill safleoedd we Radio Cymru, ar ei newydd wedd, yn gofyn i gefnogwyr yrru lluniau o gemau a meysydd pêl-droed wrth iddynt ymweld â hwy yn ystod y tymor.
Mae'r casgliad wedi dechrau yn barod:



Ar y Marc

Colli parch

12.8.05
Wedi gêm Y Rhyl â Viking FK o Norwy yn ail rownd rabrofol Cwpan Uefa nos Iau, welodd Y Norwyaid yn ennill 1-0 roeddwn yn rhan o'r sgrym o ohebwyr oedd yn ceisio cyfweld Roy Hodgson, rheolwr yr ymwelwyr.
Ond roedd sylwadau cyn reolwr Blackburn, Inter Milan a'r Swistir yn warthus wrth iddo ladd ar dactegau 'kick and rush' Y Rhyl.
Yn un peth, nid oedd Y Rhyl wedi mabwysiadu'r fath dactegau a roedd yn anodd dweud pa un o'r timau ar y maes oedd yn dîm llawn-amser a pha dîm oedd yn rhan-amser.
Roedd Hodgson yn ragrithiol iawn wrth gofleidio John Hulse a'i longyfarch cyn mynd o flaen y wasg a lladd ar ei dactegau.

BBC Cymru'r Byd

Blydi Notts County ...

10.8.05
Y funud olaf un ... yn erbyn llif y chwarae ... efo Dennis Lawrence ar y llawr wedi anafu ... a dylai David Pipe fod wedi ei hel o'r maes ...

Blydi Notts County.

BBC Cymru'r Byd

shhhhh! peidiwch â dweud wrth neb

8.8.05
Oherwydd argyfwng yn Amsterdam lle nad oes digon o heddlu, bydd Ajax yn chwarae eu gêm gyntaf o'r tymor mewn lleoliad cudd!

Reuters

Anghredadwy!

Mae anodd credu fod y stori yn wir, ond llwyddodd ffans Hull i greu awyrgylch hyll yn eu stadiwm eu hunain wrth wawdio ffans QPR ddydd Sadwrn â chaneuon afiach:

"You're just a town full of bombers"

"Not enough Londoners died"

ThisIsHull

McGuigan yn rhydd i chwarae

7.8.05
Mae Uefa wedi penderfynu fod golwr Y Rhyl, Gerard McGuigan, yn ddieuog o waedu'n afreolus wedi'r cwbwl.

BBC Cymru'r Byd

Ni ar y brig!

6.8.05

Mae'r ci yn cyfarth ...

... ond mae'r carafan yn mynd yn ei flaen!

Athrylith o ddyfniad gan Jose Mourinho ac un sydd wedi mynd â bryd criw Ar y Marc!

Gwrandewch ar Ar y Marc

Wrecsam 2-0 Boston

Woohooo ... y dechrau perffaith i'r tymor yn yr adran isaf!
Roedd pryderon byddai Boston (nid Massachussetts) â'u henwau 'mawr'; Noel Whelan a Julia Joachim, yn ormod i dîm gymharol newydd Wrecsam ond, na, nid dyna ddigwyddodd.

Cafwyd chwip o gôl gan Mark 'seren y dyfodol' Jones a llwyddodd Lee Roche i sgorio gôl hawdd uffernol yn dilyn gwaith gwych i lawr yr asgell chwith gan Dean Bennett.
Tarodd Jon Walters y postyn yn ogystal â dod yn agos eithriadol i rwydo ar sawl achlysur yn ystod y gêm a chafodd Mike Ingham brynhawn hawdd rhwyng y pyst i'r Dreigiau.

Ar sail perfformiad heddiw, 'dwi bron ag edrych ymlaen at y daith erchyll ar draws gwlad i Nottingham a Notts County nos Fawrth.

BBC Cymru'r Byd

Uefa'n cyhuddo McGuigan

Mae Uefa wedi cyhuddo Gerard McGuigan o ymddwyn yn amhriodol am iddo daro dwrn chwaraewr FK Atlantas efo'i drwyn ac o waedu'n afreolus ar faes pêl-droed ...

BBC Cymru'r Byd

Pennawd gorau'r tymor ...

5.8.05
... yn barod!

ESPN