Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Bysus yn cyrraedd ar unwaith ...

28.7.05
Wedi disgwyl 10 mlynedd am fuddugoliaeth yng Nghwpan Uefa, mae clybiau Cymru wedi llwyddo i gael dwy mewn un noson!
Sicrhaodd Y Rhyl eu lle yn yr ail rownd ragbrofol er colli 3-2 yn Klaipeda, Lithiwania, â dwy gôl oddi cartref ond llwyddodd Caerfyrddin i chwalu Longford Town o Iwerddon â phedair gôl yn yr ail hanner i ennill 5-1 ar y noson.

Llongyfarchiadau i'r ddau glwb a phob lwc yn y rownd nesaf!

FK Atlantas 3-2 Y Rhyl
Caerfyrddin 5-1 Longford Town

Caerfyrddin Soul Crew ...?

26.7.05
Mae Caerfyrddin wedi arwyddo Craig Hughes sydd yn y carchar am droseddau hwliganiaeth pêl-droed.
Mae Hughes, sydd wedi chwarae dros Y Bari, Cwmbran a Phort Talbot, yn y carchar am iddo ymddwyn yn dreisgar yn ystod ymweliad West Ham â Pharc Ninian llynedd.

BBC Cymru'r Byd

Welodd unrhyw un hyn?

25.7.05
Llwyddodd criw o weithwyr direidus i newid arwydd Manchester United yn Old Trafford wythnos diwethaf!

Yda chi'n anorak?

24.7.05
Wel, mi ydw i, a toes gen i ddim ofn cyfaddef!
Mae safle we newydd wych ar gyfer holl anoraks pêl-droed Cymru, sef y Welsh Football Data Archive. Mae'r safle wrthi'n cael ei gyfieithu, ond cerwch draw am gipolwg.

wfda

Ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau am y diffyg negeseuon yn ddiweddar, ond gyda'r tymor pêl-droed ar fin cychwyn unwaith eto, rwy'n addo gwell gwasanaeth o hyn allan!

Yeah, but, no, but ...

6.7.05

Stevie, ti'n mynd neu'n dod?

Ddoe, roedd Stevie Gerrard yn gadael Anfield er fod y clwb wedi cynnig cyflog o £100,000 yr wythnos i'w capten, gan arwain i nifer o Sgowsars losgi eu crysau efo'i enw ar y cefn.
Heddiw, mae o'n dweud ei fod am aros wedi'r cwbwl gan honni nad oedd wedi dweud ei fod eisiau gadael.
"I never said I wanted to leave in the first place"

hmmmm, 24 awr yn ôl, dyna'r union beth y ddudes di Stevie!

Ysgwn i be' mae'r cefnogwyr losgodd gwerth £50 o grys ddoe y ei feddwl ohonno!

Amseroedd gwell i Stevie

5.7.05
Gyda'r holl sôn am Steven Gerrard yn torri ei galon am adael Lerpwl, dyma lun ohonno mewn aseroedd gwell:


diolch i joni am y llun!

Agur Juan. Eskerrik asko

4.7.05


BBC Cymru'r Byd