Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

They'll be dancing on the streets ...

24.6.05
... do mae TNS wedi cael eu dymuniad. Bydd y clwb o Lansantffraid yn herio Lerpwl yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Mae ymateb Ken McKenna, rheolwr TNS, yn wych:
"I would have preferred to get someone a lit bit easier so we could still be in when the big clubs like Everton come in in the third round!"

BBC Cymru'r Byd

Neges gan Røvde

20.6.05
Mae cyn golwr Wrecsam, Marius Røvde, wedi gyrru neges o gefnogaeth i'r Ymddiriedolaeth.
Røvde oedd y chwaraewr cyntaf i Wrecsam arwyddo ag arian WINS fel ag yr oedd ar y pryd.

Since I left the club in April 2002, I have followed the club thru media and internet!!
I was very sad to read about the financial problems at Wrexham Football Club, a club which holds very many happy memories for me. I still miss the Fans, players, staff, Joey and the atmosphere in the dressing room!! And I still miss Darren Feguson`s moaning on the training ground!! He always called me the big Norwegian F***!

WST

Hamilton allan

Mae cefnogwyr Wrecsam wedi bod yn brysur dros yr haf yn cadw ymwybyddiaeth trafferthion y clwb yn lygaid y cyhoedd:



Bangor 1-2 Dinaburg

Wedi gwylio Bangor yn colli yn erbyn Dinaburg o Latfia ddoe, mae'n rhaid mi ddweud fod clybiau Cymru'n cael cam anferthol mewn cystadlaethau Ewropeaidd.
O gofio fod Dinaburg eisoes wedi chwarae 12 gêm gynghrair roedd Bangor yn anffodus iawn a petaent wedi chwarae dwsin o gemau eu hunain, byddai'r canlyniad wedi bod yn dra gwahanol.



Methodd Carl Lamb a Paul Roberts gyfleon euraidd i Fangor a roedd yn amlwg bod diffyg gemau yn golygu nad oeddent mor sharp â'u gwrthwynebwyr.

BBC Cymru'r Byd

Savage yn erfyn ar Tosh

12.6.05
Mae Robbie Savage wedi ceisio adeiladu pont rhyngddo ef â John Toshack gan ddatgan ei fod eisiau chwarae dros Gymru unwaith eto.

BBC Sport

Sbaen yn ffodus

9.6.05
Roedd Sbaen yn ffodus iawn i sicrhau gêm gyfartal â Bosnia-Herzegovina yn Valencia nos Fercher wrth i Carlos Marchena, sydd yn chwarae i'r tîm lleol, rwydo yn y funud olaf un.

Mae'n amlwg, hyd yn oed heb weld yr uchafbwyntiau, fod chwaraewr Bosnia, Mirsad Beslija, yn gandryll â'r gôl, gan iddo dderbyn cerdyn melyn a cherdyn coch ym munud olaf y gêm!

fifaworldcup.com

Yr Arianin drwodd i'r Almaen

Llwyddodd yr Ariannin i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2006 â buddugoliaeth 3-1 dros Brasil yn y Stadiwm Monumental yn Buenos Aires nos Fercher.



A roedd dathliadau yn Tehran wrth i Iran sicrhau eu lle hwythau yn yr Almaen â buddugoliaeth 1-0 dros Bahrain.




Hyd yma, mae 5 tîm wedi sicrhau eu lle yn Yr Almaen sef, Yr Ariannin, De Corea, Iran, Saudi Arabia a Siapan.

fifaworldcup.com

Fog-in Torshavn

Methodd canoedd o gefnogwyr Iwerddon â chyrraedd ynysoedd y Faroe ar gyfer eu gêm nos Fercher oherwydd fod maes awyr Torshavn ar gau.
Roedd niwl wedi gorfodi'r maes awyr i gau am ddeuddydd ers i'r tîm ac ychydig o gefnogwyr gyrraedd yno ddydd Llun.

Irish Times

Gôl wych yn Affrica

8.6.05
Does gen i ddim syniad pa bryd ddigwyddodd hyn, ond mae'n sicr werth gwylio'r gôl isod o gêm ryngwladol yn Affrica rhwng Ghana a'r Gambia.

Ghana v Gambia

Carlos yn cael y chop

7.6.05
Azerbaijan yn diswyddo eu rheolwr, Carlos Alberto, wedi'r golled yn erbyn Gwlad Pwyl.
Felly mae wedi mynd o fod yn bencanmpwr y byd â'r tîm gorau erioed i gael y sac gan Azerbaijan mewn 35 mlynedd!

BBC Sport

Lawrence ar dân i Trinidad

6.6.05
Sgoriodd Dennis Lawrence chwip o gôl wrth i Trinidad & Tobago drechu Panama yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006.



FIFA.com

Dyn â chi yng ngharfan Gogledd Iwerddon

4.6.05
Ydi Gogledd Iwerddon mor brin o chwaraewyr â hyn?

Sheffield Wednesday's Chris Brunt has ended up in the Northern Ireland panel after taking his dog for a walk near the team's training ground on Thursday.

Manager Lawrie Sanchez noticed Brunt and invited him to join up with the panel for Saturday's glamour friendly against Germany in Belfast.

BBC NI

Alberto'n gwylltio'n gacwn

Ar brynhawn lle mae pawb i'w gweld yn gwirioni efo'r Llewod, penderfynias mai eistedd o flaen Sky Sports2 efo llond oergell o gwrw oedd y peth gorau i'w wneud heddiw.
Wedi gwylio'r Alban yn straffaglu i drechu Moldova 2-0 cawsom y gêm rhwng Azerbaijan a Gwlad Pwyl.
Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol 3-0, canlyniad sydd yn eu hesgyn i frig Grwp 6, ond y digwyddiad mwyaf doniol o'r prynhawn oedd ymateb rheolwr yr Azeri, Carlos Alberto, i drydedd gôl yr ymwelwyr.
Roedd Alberto'n gandryll gan ei fod yn credu fod Maciej Zurawski yn camsefyll.
Wedi ffrae a hanner efo'r dyfarnwr cynorthwyol, bu rhaid i'w hyfforddwyr ei ddal yn ôl rhag ymosod ar y dyfarnwr. A chan nad oedd yn gallu cyrraedd y dyfarnwr, taflodd Alberto ddwrn i wyneb y pedwerydd swyddog!
Cafodd cyn seren Brasil ei hel i'r eisteddle, ond yn lle camu i'r seddi tu ôl i'r fainc, mynodd Alberto gerdded ar draws y maes i'r eisteddle gyferbyn gan wneud arwyddion anweddus tua'r dyfarnwr!

Reuters

Reit, Iwerddon v Israel sydd nesaf ar yr amserlen ...

Dim anthem

3.6.05
Mae llywodraethwr New Jersey, Richard J. Codey, wedi cwyno na chafodd anthem genedlaethol America, y Star Spangled Banner, ei chwarae cyn y gêm rhwng Lloegr a Columbia nos Fawrth.

"The failure to play our national anthem was disrespectful not only to us as a the host, it was disrespectful to our country, the teams, the sport and all involved. This shouldn't happen in New Jersey, and it shouldn't happen anywhere."


Wel diolch byth na fydd Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn America am rhai blynyddoedd eto, neu fydd y gemau i gyd yn gorfod dechrau'n hwyrach na'r disgwyl!

SanDiego.com

Hwlffordd wedi symud

2.6.05
Mae Hwlffordd wedi symud yn ôl safle we Everton.
Mae safle swyddogol y clwb yn dweud fod eu chwaraewr diweddaraf, Simon Davies, yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'w gartref yng ngogledd Cymru:

The 25-year-old is looking forward to hero status when he goes back to North Wales with many Evertonians delighted that the Blues have signed one of their local boys.

diolch i Chris am y linc!

Everton FC

Bathodyn newydd

1.6.05
Cystadleuaeth The Gallery ar Football Guardian wythnos diwethaf oedd dylunio bathodyn newydd i Manchester United.
Dyma fy ffefryn:


Football Guardian

Ugarte i Gaerdydd Crewe

Mae'r Crewe Chronicle yn credu bydd Juan Ugarte o Wrecsam yn arwyddo i Crewe Alexandra wedi Swindon Town wrthod cynnig rheolwr yr Alex, Dario Gradi, am yr ymosodwr, Sam Parkin.

Crewe Chronicle

Cole i fod y Bosman nesaf?

Mae rhai o gyfreithwyr Ashley Cole, gafodd dirwy o £100,000 am ei ran yn y ddadl drosglwyddo â Chelsea, yn credu fod ganddo le i apelio.
Mewn gwrandawiad yn Llundain, cafodd Chelsea ddirwy o £300,000 ac eu rheolwr, Jose Mourinho £200,000 am drafod cytundeb â Cole tra ei fod yn parhau o dan gytundeb ag Arsenal.

BBC Sport

Ond mae cyfreithwyr Cole yn dadlau dylai fod gan Cole yr un hawl â phob person arall i siarad ag unrhyw gyflogwr newydd heb cael ei gosbi. Ac mae'n debyg byddai Llys Cyfiawnder Ewrop yn cytuno.

Byddai hyn yn gallu bod yn drychinebus i glybiau pêl-droed ac unwaith eto, y clybiau bychain sydd yn mynd i fod ar eu colled, nid y clybiau cyfoethog.

The Scotsman

Trafferthion yn Barça

Llai na pythefnos wedi Barça gipio La Liga mae'r trafferthion 'i fyny grisiau' yn y Nou Camp wedi dod i'r amlwg.
Mae'r cyfarwyddwr, Jordi Mones, ymddiswyddo gan ladd ar y llywydd Joan Laporta a'i ddisgrifio fel unben.
Yn ôl prif bapur newydd chwaraeon y ddinas, Diario Sport, mae cyfarfod brys o'r cyfarwyddwyr i drafod yr hyn sydd wedi digwydd ac i geisio dwyn perswâd ar yr is-lywydd, Sandro Rosell, sydd yn ystyried ymddiswyddo hefyd.
Cafodd Laporta, sydd yn ôl llawer yn cael ei ddylanwadu'n ormodol gan cyn arwr y Nou Camp, Johan Cruyff, ei ethol y 2003 gyda'r addewid y byddai'n arwyddo David Beckham.

Reuters

Diario Sport