Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Strachan eisiau Bellers

31.5.05
Mae rheolwr newydd Celtic, Gordon Strachan, wedi datgan ei fod yn gobeithio dwyn perswâd ar Carig Bellamy i aros yn Parkhead.
"I have worked with Craig before. He didn't give us any problems. I have spoken to him already and he is positive, very positive."

The Scotsman

Sêr yr Almaen

30.5.05
Mae clybiau'r Almaen yn cael dangos sêr ar eu crysau am y nifer o bencampwriaethau maent wedi ennill.



Mae Bayern Munich yn gwisgo tair seren am iddynt gipio 10 pencampwriaeth y Bundesliga, Borussia Monchengladbach yn gwisgo dwy am iddynt ennill pum pencampwriaeth a Borussia Dortmund (ymysg eraill) yn gwisgo un seren am gipio tair pencampwriaeth.

Ond yn yr wythnosau diwethaf mae Dynamo Berlin, sydd bellach yn chwarae ym Mhedwerydd Adran Yr Almaen, wedi mynnu gwisgo tair seren i ddathlu'r 10 pencampwriaeth lwyddodd y clwb i ennill yn Nwyrain yr Almaen.

Ond mae'r DfL yn dweud mai dim ond pencampwriaethau'r Gorllewin sydd yn cyfri tuag at y sêr.

Mae perthynas Dynamo Berlin â'r Stasi yn ystod eu cyfnod euraidd yn y 70au ac 80au yn golygu nad oes llawer o gydymdeimlad i'w gael gan gefnogwyr yn Yr Almaen chwaith.

dw-world.de

Streakers

Tydi streakers yn boen!

streaker

Llond bol o gwyno

27.5.05
'Dwi wedi cael llond bol o gwyno gan gefnogwyr Manchester United eu bod wedi dioddef tymor trychinebus.
Be? Gorffen yn drydydd yn yr Uwchgyngrair, cyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr a chyrraedd rowndiau olaf Cynghrair y Pencampwyr ... trychinebus?

Gadewch i mi egluro beth yw tymor trychinebus:
1) Cael eich gorfodi i ddwylo'r gweinyddwyr am i'ch perchennog, sydd am weld y clwb yn cau i lawr, wrthod talu bil Adran Cyllid y Wlad
2) Y Gynghrair Bêl-droed yn anwybyddu rheswm 1) ac yn rhoi dedfryd o 10 pwynt i'r clwb
3) Disgyn i adran isaf y Gynghrair Bêl-droed oherwydd rhesymau 1) a 2)
4) Cael eich gorfodi i adael eich cartref ers 1873 er mwyn i'ch perchennog adeiladu tai a gwneud llond trol o arian iddo'i hyn
5) Gweld eich chwaraewyr gorau yn gadael y clwb oherwydd yr ansicrwydd sydd yn dilyn rhesymau 1) 3) a 4) a pheidio derbyn ceiniog amdanynt gan nad oeddech yn gallu cynnig cytundebau call iddynt, a hynny oherwydd rheswm 1)

dyna beth ydi tymor trychinebus.

Anghredadwy

26.5.05
Beth yw'r peth mwyaf anghredadwy am neithiwr a rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr?
Gôl AC Milan wedi 50 eiliad yn unig?
Clive Tyldsley yn crybwyll buddugoliaeth Manchester United ym 1999 wedi 10 eiliad o'r gêm?
Y ffaith fod Lerpwl wedi dod yn ôl a sgorio tair gôl yn erbyn amddiffyn AC Milan?
Arbediad anhygoel Jerzy Dudek o ergyd Andryi Shevchenko yn y munudau olaf?

Naci ... y ffaith fod gan Harry Kewell fedal enillwyr Cynghrair y Pencampwyr.
Harry blydi Kewell yn bencampwr Ewrop ... anhygoel!

FAW yn wfftio TNS

Mae'r FAW wedi dweud wrth Mike Harris lle ddylai stwffio'i syniad!

BBC Cymru'r Byd

TNS yn cynnig i Uefa

Mae Mike Harris, perchennog cwmni a chlwb pêl-droed TNS, wedi cynnig datrys problem Uefa â Lerpwl.
Mae Lerpwl yn debygol o fethu amddiffyn eu coron yng Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf wedi iddynt orffen tu allan i'r pedwar uchaf yn Uwchgynghrair Lloegr. Ond mae Mike Harris wedi cynnig bod TNS y fodlon chwarae Lerpwl am eu lle yn y rowndiau rhagbrofol o'r gystdaleuaeth.

Byddwn i byth yn meiddio datgan fod Mike Harris yn chwilio am sylw i'w gwmni trwy wneud sylwadau hurt fel hyn.

BBC Cymru'r Byd

Lerpwl yn bencampwyr Ewrop

Llongyfarchiadau Lerpwl



BBC Cymru'r Byd

Shevchenko yn Aber

24.5.05
Mae Andriy Shevchenko yn datgan mai Ian Rush oedd ei arwr a'i ysbrydoliaeth fel ymosodwr.
Mewn cyfweliad â safle we swyddogol Lerpwl, dywedodd:
"Rush was a terrific striker, one of the best of his time, and I'll never forget receiving a pair of boots from him at a youth tournament in Wales.

"I must have been about 14 and used to love those boots. I was a big admirer of Rush," he told Liverpool's website.


Mae'n rhaid mai yn Aberystwyth oedd y Shevchenko ifanc wedi perfformio i sicrhau pâr o esgidiau Rushie.

Liverpoolfc.tv

Поздравления ЦСКА Москва

18.5.05
Llongyfarchiadau CSKA Moscow!

Y clwb cyntaf o Rwsia i ennill Tlws Ewropeaidd



uefa.com

Escape To Victory II

Mae Pele wedi bod mewn trafodaethau i greu ffilm Escape To Victory newydd yn ôl papur newydd y Scotsman.
Mae Pele, sydd yn Cannes i hyrwyddo ffilm newydd am ei fywyd, wedi crybwyll y syniad efo cynhyrchydd y ffilm gwreiddiol, Freddie Fields.



The Scotsman

Ond y fersiwn orau o Escape To Victory, un mae'r blog yma wedi gyfeirio ato yn y gorffennol, ydi fersiwn HTFC-world:



HTFC-world.com

Wythnos hir

Mae wedi bod yn wythnos hir ers i mi 'sgwennu yn y blog ddiwethaf - ymddiheuriadau am hyn!

Ers i mi 'sgwennu ddiwethaf, mae Southampton, Norwich a Crystal Palace wedi disgyn allan o'r Uwchgynghrair tra bo West Bromwich Albion a Robert Earnshaw wedi llwyddo i aros i fyny. Ond y stori fawr yw fod biliwnydd o America, Malcolm Glazer, wedi prynnu Manchester United.

Yn anffodus, gall gefnogwyr Manchester United weiddi tan eu bod yn groch nad yw Manchester United ar werth, ond y gwirionedd yw fod y clwb yn bendant ar werth.
Os ydy'r clwb (a'r cefnogwyr) wedi mwynhau'r manteision sydd ynghlwm â bod yn plc, yna mae'n rhaid iddynt fod yn barod i dderbyn yr anfanteision.
Yn bersonol, nid rwan ydi'r amser i brotestio a chwyno am Glazer - yr amser i gwyno oedd ym 1991 pan bederfynodd Martin Edwards, y cadeirydd ar y pryd, fod y clwb am gael ei werthu ar y farchnad stoc.

Hefyd, mae angen gofyn pam fod cefnogwyr Manchester United am brotestio yn erbyn Glazer trwy wrthod prynnu unrhywbeth gan noddwyr y clwb; Nike, Vodafone, Budweiser ayyb ond eto'n fodlon gweld Ryan Giggs yn arwyddo cytundeb newydd â'r clwb.

Mae'r cefnogwyr sydd wedi llosgi eu tocynnau tymor, yn bygwth gwrthod mynd i wylio'r clwb, yn mynd i foicotio'r holl nwyddau Manchester United ac am foicotio'r noddwyr yn bobl triw iawn.
Yn anffodus i bobl fel 'Shareholders United' ac 'IMUSA', mae miloedd ar filoedd o 'gefnogwyr' Manchester United sydd yn fodlon cymryd eu seddi yn Old Trafford, sydd yn fodlon gwylio eu gemau ar Sky a sydd yn fodlon prynnu nwyddau o'r MU Megastore.

7 [saith]

11.5.05
Yda ci'n cofio'r videprinter ers stalwm a'r ffordd oedd y boi yn teipio [seven] rhag ofn fo rhywun yn meddwl bod camgymeriad wedi digwydd ...?

Arsenal 7 [seven]-0 Everton

7-0?
Champions League? You're 'avin' a laugh!

20 mlynedd ers tân Bradford

Ar 11 Mai 1985, roedd torf o dros 11,000 wedi mynd i Valley Parade i ddathlu'r ffaith fod Bradford City wedi sicrhau dyrcahfiad i'r hen Ail Adran. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd maith byddai'r Bantams yn chwarae pêl-droed ar yr un lefel â'u gelynion pennaf, Leeds United.
Ond ychydig funudau cyn yr egwyl roedd stwmpyn sigaret o dan y brif eisteddle wedi cynneu tân yn yr holl sbwriel oedd wedi ymgasglu yno ac o fewn pedwar munud roedd y brif eisteddle yn wenfflam a chollodd 56 o gefnogwyr eu bywydau gyda dros 200 yn dioddef anafiadau difrifol.

Roeddwn i'n fyfyriwr yn Bradford rhyw ddwy flynedd wedi'r tân, a byddwn yn mynd i wylio'r Bantams yn eithaf aml. Tra'n cerdded trwy'r ddinas ar fy ffordd i Manningham Lane a Valley Parade byddwn yn oedi ger cofgolfn y drchineb ym mhrif sgwar y ddinas ac eleni, wrth i mi ymweld â Valley Parade am y tro cyntaf ers sawl tymor, es i draw i weld y cofeb newydd sydd wedi ei godi ger y brif eisteddle newydd.

Byddaf yn gwneud pwynt o ymweld â'r cofeb a phob tro byddwn yn sefyll a chofio'r sawl fu farw byddai dagrau yn dod i'm llygaid, nid am fy mod yn adnabod unrhyw un gafodd eu lladd yn y tân ond am ei fod mor hawdd meddwl 'fe allai hyn wedi digwydd i mi'.

Ar y bore arbennig yma roedd 56 o bobl wedi gadael y ty llawn cyffro, llawn hwyl gan eu bod yn mynd i wylio eu tîm, gan eu bod yn mynd i ddathlu bod y tîm wedi sicrhau dyrchafiad .. ond ddychwelodd yr un o'r 56 yn ôl adref.




Football Guardian
Times Online
Independent

Hen Wlad Amhrán na bhFiann

9.5.05
Cafodd y dorf oedd wedi ymgasglu ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru yn Stebbonheath, Llanelli goblyn o sioc pan chwaraewyd yr anthem genedlaethol.

Yn lle Hen Wlad Fy Nhadau cafwyd Amhrán na bhFiann, The Soldier's Song, anthem Iwerddon.

Da iawn chi Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r peth yn hollol gywilyddus!

Yr esgus yw fod tâp wedi ei greu ar gyfer gêm yn y gorffenol oedd yn cynnwys anthem Iwerddon a Chymru a nad oedd y person chwaraeodd y tâp yn ymwybodol mai anthem Iwerddon oedd y cyntaf ar y tâp.

Tâp ...? Tâp ...? Pam goblyn oedd y gymdeithas bêl-droed yn chwarae tâp? Rwy'n siwr bod rownd derfynol Cwpan Cymru, o gofio holl hanes y gystadleuaeth, yn haeddu gwell na thâp amaturaidd ar yr uchelseinydd.

Rwy'n siwr fod y Gymdeithas Bêl-droed, gyda'r holl arian gan Sky yn gallu fforddio talu am fand pres - band Llu Awyr St Athan sydd yn gwneud y job yn Stadiwm y Mileniwm.

Fel arbrawf rwyf wedi teipio 'brass band Llanelli' yn Google ac mae'r canlyniadau yn dangos bod o leiaf dau fand pres yn y dref - rwy'n siwr byddent wedi bod yn falch o gael y fraint o chwarae'r anthem.


BBC Cymru'r Byd

Ffigyrau'r tymor

8.5.05
53: Nifer o gemau weles i

24: Nifer o feysydd fues i

162: Nifer o goliau weles i

24: Goliau Juan Ugarte
  • 5: v. Hartlepool
  • 4: v. Chesterfield
  • 3: v. Oldham
  • 3: v. Stockport
  • 2: v. Peterborough
  • 1: v. Caer
  • 1: v. Hartlepool
  • 1: v. Henffordd
  • 1: v. Torquay
  • 1: v. Hwlffordd
  • 1: v. Swindon
  • 1: v. Southend
6: Nifer o chwaraewyr rhwng y pyst i Wrecsam
  • Andy Dibble
  • Matt Baker
  • Scott Green (v. Sheff Wed wedi Dibble anafu!)
  • Xavi Valero
  • Michael Jones
  • Ben Foster

Gêm olaf y tymor

... ond ai dyma fydd y gêm olaf ar Y cae Ras?



Mae llygedyn o obaith i'r clwb wedi'r gweinyddwr gymryd camau cyfreithiol i herio dilysrwydd y gorchymyn i adael Y Cae Ras gan y perchennog, Alex Hamilton.

BBC Cymru'r Byd

Gutted

3.5.05
Hollol, hollol gutted ...

BBC Cymru'r Byd

Juan-tastic

Mae Juan Ugarte wedi sefydlu record newydd am y nifer o goliau oddi cartref mewn tymor i Wrecsam.
Ac wedi ei hat-trick yn erbyn Stockport ddydd Sadwrn mae yn ail ar restr recordiau'r clwb am y nifer o hat-tricks mewn tymor - Tommy Bamford sydd efo'r record gyda phump yn nhymor 1933-34, mae gan Juan bedwar hat-trick.

Any spare change, guv ...?

David Beckham sydd yn ennill y nifer fwyaf o gyflog yn y byd pêl-droed yn ôl adroddiad yng nghylchgrawn France Football.
Yn ôl pob sôn mae'r hen golden-balls yn ennill £17m y flwyddyn mewn cyflog ond mae hefyd yn casglu £12.25m o'i gytundebau hysbysebu.

Mae hynny'n gyfatebol i £55.65 pob munud!

Reuters

Lerpwl neu Everton?

2.5.05
Pe bai Lerpwl yn ennill Cwpan y Pencampwyr tymor yma ond eto'n methu sicrhau eu lle yng nghstadleuaeth tymor nesaf trwy orffen ymysg y pedwar uchaf yn Uwchgynghrair Lloegr, a ddylent gael amddifyn y gwpan tymor nesaf?

Dyna'r cwestiwn mawr sydd yn poeni cefnogwyr Everton ar hyn o bryd. Mae'r Toffees yn edrych fel cipio'r pedwerydd safle yn yr Uwchgynghrair ac thrwy wneud hynny, sicrhau eu lle yn Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf ... ella.

Ni fyddai hyd yn oed y kop-ite mwyaf un llygeidiog wedi rhagweld byddai'r Cochion yn cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth, yn enwedig o gofio eu perfformiadau trychinebus yn y gynghrair. Ond pwy, erbyn hyn, fyddai'n betio yn erbyn Benitez â'i dîm yn mynd yr holl ffordd i Istanbul?

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi gwrthod datgan pwy fyddai'n cael cystadlu yn Ewrop tan bo'r tymor wedi dod i ben - mae'n debyg bod y dynion yn Soho Square yn gobeithio bod Chelsea yn trechu Lerpwl nos Fawrth.

Yn bersonol mae'n rhaid mi ddweud mai Lerpwl fyddai'n cael fy mhleidlais i. Mae'n rhaid bod ennill prif dlws Ewrop yn werth mwy na gorffen yn bedwerydd yng nghynghrair Lloegr.

Ond efallai bydd Uefa yn gwneud bywyd pawb yn Lerpwl yn haws trwy ymestyn gwahoddiad i'r ddau dîm - mae llywydd Uefa, Lennart Johansson, wedi crybwyll bod hynny'n bosib ... ond petawn i yn David Moyes, ni fyddwn yn dal fy ngwynt!

BBC Sport

Buddugoliaeth haws na nos Fawrth!

1.5.05
Doedd neb yn sôn am dair gôl gan Ugarte wedi Wrecsam drechu Stockport gan fod buddugoliaeth Torquay yn golygu eu bod allan o'n gafael. Mae ein meddyliau bellach yn troi at Oldham wedi iddynt golli yn erbyn Chesterfield a bydd rhaid dechrau â buddugoliaeth nos Fawrth dros Brentford.



Moblog

Apêl gan gefnogwyr Celtic

Mae cefnogwyr Celtic wedi rhoi fideo at ei gilydd o goliau Craig Bellamy yn cael eu dangos gyda Hen Wlad Fy Nhadau yn canu yn y cefndir, er mwyn annog y clwb i brynnu'r Cymro!

Celtic Action