... mewn bywyd cefnogwr pêl-droed!
Wel ymddiheuriadau am y diffyg postio ers pythefnos, ond cefais 10 diwrnod digon dymunol yn teithio i fyny ac i lawr yr A470 yn ogystal â thaith hyfryd i Vienna yn y canol.
Mae ein gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd ar ben, ond hey ... roedd hynny'n wir ers i ni fethu sicrhau mwy na dwy gêm gyfartal yn erbyn Azerbaijan a Gogledd Iwerddon o dan Mark Hughes.
'Dwi'n hoffi beth rwy'n weld o dan Toshack ac er ein bod wedi colli'r ddwy gêm ag Awstria roedd y gwahaniaeth rhwng y ddau berfformiad yn ddigon i mi gredu fod Toshack yn gwybod be' mae o'n ei wneud.
Roedd ei hyblygrwydd i newid y patrwm erbyn nos Fercher, a'i fodlonrwydd i ofyn i rhai o'r sêr i eistedd ar y fainc yn chwa o awyr iach. Ond beth oedd yn fwy calonogol oedd bod Hartson a Page y fodlon eistedd ar y fainc heb unrhyw ffys na ffwdan (cymer sylw Mr Savage!).
Oddi ar y maes cefais fy siomi ar yr ochr orau â rhai agweddau o Vienna. Nid oedd mor ddrud ag oeddwn wedi tybio cyn hedfan allan a roedd ambell i far digon dymunol yn bodoli yn y ddinas.
Penderfynom ymgartrefu mewn bar bach gyferbyn â'n gwesty am sawl awr pob bore cyn mentro i'r ddinas. Roedd perchennog y bar wrth ei fodd ein gwed yn cyrraedd - 12 o Gymry sychedig yn lle'r hen ddyn â'i gi oedd yn pendympio dros ei pilsner.
Roedd y croeso yn ymestyn at schnapps yn rhad ac am ddim pob hyn a hyn felly gallwch ddychmygu y cyflwr oedd ar yr hogia wrth i ni adael ei far pob bore!

Yr un peth drwg am Vienna oedd fod canran helaeth o benau bach wedi teithio - mae hyn wastad yn broblem pan fo Cymry'n teithio mewn niferoedd sylweddol a chyda 1,700 wedi heidio draw i Vienna roedd yn anorfod bod
idiots yn debygol o fod yno.
Yn ffodus, rydym wedi dysgu erbyn hyn i osgoi'r llefydd mwyaf poblogaidd mewn sefyllfaoedd tebyg h.y. unrhyw far Gwyddelig!
Bydai'n ychwanegu rhai o'm hoff ganeuon yn y man, ond mae hyn yn llawn digon am y tro neu byddwch yn cael sioc farwol o ddarllen cymaint o rwdlan wedi pythefnos heb yr un neges!