Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Wrecsam mewn sefyllfa Don-jerus

20.3.05
Mae Martin Samuel yn gwneud sylwad difyr yn y News of the World heddiw:
"MK DONS may survive this season in Division Three at the expense of Wrexham, who were deducted 10 points by the Football League for going into administration.

So you can steal another club, screw its fans, move it 100 miles from its traditional home, change the name and nobody bats an eye.

But if you go skint trying to preserve League football in north Wales, they will as good as relegate you for it.

Sounds fair"

Os ydi Samuel a'r cefnogwyr i gyd yn gallu gweld hyn, pa nad yw'r Gynghrair Bêl-droed?

Ar y blaen 2-0 cyn colli 4-2

Cafodd Wrecsam gyfle euraidd i esgyn allan o'r safleodd sydd yn disgyn i Gynghrair Dau ddoe. Roedd Y Dreigiau 2-0 ar y blaen yn Swindon ac ar yr un pryd roedd yr MK Dons yn colli a roedd Torquay yn colli - sefyllfa fyddai'n gadael Wrecsa bwynt uwchben y ddau.

Yn anffodus, colli 4-2 oedd hanes Y Dreigiau a sicrhaidd y Dons bwynt hefyd.

icWales

Tydi Savage ddim fel Pires

17.3.05
... mewn mwy nag un ffordd.
Wedi cael ei adael allan o garfan Ffrainc ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, dywedodd Pires:
"Obviously the national coach does not care about my performances. He has made his choice, I'm clearly not part of it.

"But I will never stop my international career. My love and attachment to the national team are the same."


Efallai dylai rhywun ddangos hwn i Mr Savage.

BBC Sport Online

Gôl ym mhob hemisffer

Llwyddodd Flamengo i rwydo gôl ym mhob hemisffer ddydd Mercher wrth drechu Ypiranga 2-0 yng Nghopa Brasil.
Sut? medde chi ... wel, mae llinell y cyhydedd yn rhedeg ar draws maes Ypiranga!

Reuters

Ia ... mwy o'r prima dona pen felyn

16.3.05
Football 365 unwaith eto - mae nhw'n hoff iawn o gicio dyn tra mae o ar y llawr ...
Can I take this opportunity to say to everyone who has ever dumped me, 'I was going to finish with you anyway. Oh and you were a shambles and I still can't believe you tried to make me put bolognese sauce on my salmon

Football 365

Savage ... ia, fo eto ...

NId oes gan griw Mediawatch Football 365 lawer o gydymdeimlad tuag at Robbie Savage mae'n amlwg:
Poor Robbie Savage, who has been badly mistreated by that nasty John Toshack, tells BBC Wales: "We had fried bananas to start the meals, which no-one's ever heard of. There were no carbohydrates before the game..."
Which is odd because on vegetarian recipe site www.soya.be it says: 'Its high carbohydrate content makes the banana one of the best natural energy sources in the world.'

Football 365

Blokhin yn ymddiswyddo

Oleg Blokhin yn ymddiswyddo fel rheolwr tîm Iwcrain er mwyn canolbwyntio ar ei waith fel Aelod Seneddol!

Football Guardian

Savage ... eto ...

15.3.05
Robbie Savage yn egluro pam fo Cymru wedi methu o dan Mark Hughes:

"Mark crossed every I and dotted every T ..."

Daily Mail

Lee Hughes wedi ei wahardd

Mae Lee Hughes wedi ei wahardd o dîm carchardy Featherstone am iddo ymosod ar ddau chwaraewr yn ystod gêm.
Mae cyn ymosodwr West Brom yn treulio chwe blynedd dan glo am ladd dyn wrth yrru'n beryglus ac ni fydd yn cael chwarae i dîm pêl-droed y carchar am weddill y tymor y dilyn cerdyn coch.
"Hughes apparently lost it when a spectator called him a "bald, junkie bastard" and put one opponent in hospital with a gashed chin before threatening to stamp on another."

Football365

Sparky wedi colli ei farblîs

Tystiolaeth o'r diwedd fod Mark Hughes, cyn reolwr Cymru, wedi colli ei farblîs.
"Yn ystod fy amser i wrth y llyw â Chymru, roeddwn yn ffodus iawn i gael Robbie yn y garfan - ac am bum mlynedd fo oedd y chwaraewr gorau yn y tîm."

BBC Cymru'r Byd

Savage ... mwy o fwydro

Dyma'r prima donna pen felyn yn mwydro ar Sky Sports:

"I can't believe it at the moment. I will miss everything about playing for Wales," he added. "There are a lot of things I won't miss, but it has happened and I am gutted."

Wel, gwna dy feddwl i fyny Robbie bach. Ti am fethu chwarae dros Gymru neu beidio ...?

Sky Sports.com

Savage yn ymosod ar Tosh

14.3.05
Mae Toshack wedi dod o dan y lach gan Robbie Savage am iddo gael ei adael allan o'r garfan diweddaraf.

Mewn cyfweliad â Five Live dywedodd Savage ei fod yn credu fod Tosh yn anghywir i adael allan chwaraewr
"... sydd wedi chwarae dros 240 o gemau yn yr Uwchgynghrair a sydd â 40 cap allan o garfan am resymau pêl-droed."

ac mae'n parhau trwy ddweud
"... os yw'n credu fod digon o dalent ifanc yng Nghymru wel pob lwc iddo."

Efallai fod gan Savage bwynt am fod yn ddigon da i'r garfan, ond nid dyma'r math o bethau ddylai chwaraewr fod yn ddweud am ei gyd-chwaraewyr. Yn bersonol, mae'n swnio fel chwaraewr sydd ag ego bregus iawn.

BBC Sport Online

Prima donna pen felyn yn ymddeol



oops, naci nid fo, ond ...



BBC Cymru'r Byd

Ymosodwr yn rhy dew

10.3.05
Mae Albion Rovers o Drydydd Adran Yr Alban yn ceisio rhyddhau eu hymosodwr, Mark Yardley, gan honni ei fod yn rhy dew.

Dywedodd Yardley fod yr honiadau'n hurt: "Ydw rwyf yn rhy dew ond mae'r clwb yn dweud fy mod yn 20 stôn ac mae hynny'n nonsens!"

Reuters

Dirwy i Di Canio

Yda chi'n cofio hyn?



Cafodd Di Canio ddirwy o 10,000 Ewro am wneud yr arwydd ffasgaidd yma ar ddiwedd gêm ym mis Ionawr.

Football Guardian

Wrecsam yn cyrraedd Caerdydd

9.3.05
Woooohooooo!!
Wedi trechu Oldham 1-0 ac ennill 6-3 ar gyfanswm goliau mae Wrecsam drwodd i rownd derfynol Tlws yr LDV yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae'n anodd ceisio egluro i unrhyw un sydd ddim yn gefnogwr Wrecsam, ond wedi'r tymor cythryblus rydym wedi ddioddef ar Y Cae Ras mae'n deimlad gwych.



BBC Cymru'r Byd

Fflag i Juan

7.3.05
Rwyf wedi prynnu baner newydd heno yn barod i gyfarch Juan Ugarte - arwr diweddaraf Wrecsam.



Rwyf bellach yn ceisio canfod rhywun all gyfieithu "Rho'r bêl yng nghefn y rhwyd, Juan" i Euskadi i'w roi ar ganol y faner!

Barthez yn gwrthod chwarae

6.3.05
Yn ôl Reuters, roedd fabien Barthez wedi gwrthod chwaae i Olympique Marseille yn erbyn St Etienne nos Sul wedi iddo gael ei daro gan rhywbeth ddaeth o'r dorf.
Dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd ...

Reuters

20 ffaith ddifyr

I ddathlu cyfarfod blynyddol y Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol - y corff sydd yn penderfynu ar ddefau'r gêm brydferth - mae Fifa wedi cyhoeddi 20 ffaith nad oeddech yn ymwybodol nad oeddech yn ei wybod am bêl-droed!
Referees attempted to catch up with play around the turn of the century decked in black trousers, blazer and bow tie!


Fifa.com

Juan yn y penawdau

Wedi ei berfformiad annhygoel yn Hartlepool, mae Juan Ugarte wedi denu sylw yn ypapurau led led Ewrop.
Yn arwyddocaol, mae Ugarte yn un o brif straeon papur pêl-droed Sbaen La Marca, felly mae'n debygol fod Wrecsam am gael brwydr i'w gadw ar Y Cae Ras ar gyfer tymor nesaf.

Ond mae'r Wales on Sunday angen mynd yn ôl i'r ysgol ar gyfer gwersi daearyddiaeth.
Yn ôl eu gohebydd, Nick Hartland, mae Juan yn "Spanish matador" ac yn "Mediterranean assassin" - bechod mai gwr o Wlad y Basg ydi Ugarte!

La Marca

Juan - two - three - four - FIVE!

Annhygoel!
Dyna'r unig air i disgrifio'r gêm rhwng Wrecsam a Hartlepool ar Barc Victoria ddoe - blymin annhygoel.
Sgoriodd Juan Ugarte bum gôl gyda Mark Jones yn casglu un arall wrth i'r Dreigiau ennill o 6-4 yn erbyn Hartlepool.
Cyn ddoe dim ond Luton a Hull (y ddau dîm ar frig yr adran) oedd wedi sgorio mwy na dwy gôl ar Barc Victoria, ond llwyddodd Wrecsam i chwalu'r record yna â pherfformaid gwych llawn cymeriad.

BBC Cymru'r Byd

Penblwydd hapus Joseph Patrick Jones

4.3.05
Penblwydd hapus Joey Jones - 50 heddiw.



arwr!

Dim Cantona

3.3.05
Mae Crystal Palace wedi dweud bydd unrhyw un â masg Eric Cantona yn cael ei daflu allan o Barc Selhurst ddydd Sadwrn - 10 mlynedd i'r diwrnod ers i'r Ffrancwr ymosod ar Matthew Simmons.

BBC Sport Online

Rinus Michels

Mae Rinus Michels, yr hyfforddwr oedd yn gyfrifol am Total Football wedi marw yn 77 mlwydd oed.
Michels oedd rheolwr Yr Iseldiroedd yn ystod Cwpan y Byd 1974 a Phencampwriaethau Ewrop 1988 yn ogystal â chipio Cwpan Ewrop ag Ajax ym 1971.

Football Guardian