Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Caerfyrddin yn flin â Waynne

28.2.05
Mae Caerfyrddin yn flin â Chaernarfon am iddynt beidio chwarae'r bêl allan am dafliad pan oedd un o'u chwaraewyr wedi anafu.

Hosts Carmarthen were unimpressed when Canaries' player/manager Waynne Phillips appeared to ignore the usual protocol when one of his players lay prostrate on the pitch.

With Carmarthen motionless expecting the ball to be put out of bounds, Phillips sent a long ball upfield and, from the resulting throw-in deep inside home territory, [Gareth Davies] netted the winner.

"It was totally out of order but teams in desperate situations sometimes do desperate things," said Carmarthen manager Mark Jones.


Esgusodwch fi, ond ers pa bryd mae'r busnes yma o chwarae'r bêl allan wedi bod yn rhan o'r rheolau?
Mae'n hurt bost fod dyfarnwyr yn gorfodi chwaraewyr i daflu'r bêl yn ôl i golwr y tîm arall ayyb - be sydd yn bod efo'r hen 'bounce ball'?

welsh-premier.com

Gerrard yn amhoblogaidd

Mae cefnogwyr Lerpwl wedi bod yn bytheirio Steven Gerrard ers i'r Cochion golli yn erbyn Chelsea yn rownd derfynol y Cwpan Carling ddoe.
Mae nifer fawr o'r rhai sydd wedi postio ar negesfwrdd 606 yn credu fod Gerrard wedi chwarae'n wael a sgorio gôl trwy ei rwyd ei hun ar bwrpas am ei fod yn ymuno â Chelsea tymor nesaf.
Mae'r peth mor hurt mae'n annhygoel.

606 messageboards

Stadium of Light

27.2.05
Ges i'r pleser o ymweld â'r Stadium of Light yn Sunderland ddoe. Mae'r stadiwm yn annhugoel ac yn sicr yn deilwng o fod yn cynnal gemau yn yr Uwchgynghrair ac mae'r adnoddau i'r wasg yn y stadiwm yn adlewyrchu hynny.
Am y tro cyntaf tymor yma roedd bwyd poeth ar gael yn ystafell y wasg, ac yn well byth, roedd dewis llysieuol ar gael!

Wedi dweud hynny, nid oedd lloc y wasg ei hun yn fawr iawn a roedd rhaid gwasgu fy hun i fewn i fy set drws nesaf i ohebydd radio o Siapan - mae tua wyth gohebydd radio a phapur newydd o Siapan yn dilyn pob gêm Caerdydd er wyn gwylio Junichi Inamoto.
Duw â wyr beth oedd trigolion Sunderland yn ei wneud o'r ddau ohonnom yn sylwebu - un yn Gymraeg a'r llall yn Siapaneaidd!

BBC Cymru'r Byd

Men-onlychester United

23.2.05
Mae Manchester United wedi penderfynnu chwalu eu timau merched aer ddiwedd y tymor.

Football Guardian

Arestio meddyg Milan

Mae meddyg AC Milan edi ei arestio yn dilyn 'digwyddiad' yng ngwesty'r tîm nos Fawrth.
A member of the AC Milan staff
was arrested Wednesday after allegedly exposing himself to
a female employee of a Manchester-area hotel.

Ac mae ffansin y Red Issue yn annog cefnogwyr Manchester United i ddysgu can fach cyn y gêm heno:
I diwn "That's Amore" ...
Rossoneri in town
and their trousers are down
That's Milano ...

Red Issue

Froggitt yn falch

Mae cyn golwr QPR a Millwall, Tony Roberts, neu Froggitt fel ag adnabyddir ef yng Nghaergybi, sydd bellach yn chwarae i Dagenham & Redbridge, yn gobeithio gallu dychwelyd i'r Gynghrair efo'r Daggers.
Mae o hefyd yn son am ei falchder o wisgo crys Cymru mewn erthygl ddifyr ar BBC Sport Online.

BBC Sport Online

Gwaith cartref Souness yn drylwyr

Yn ôl y Guardian, mae Graeme Souness yn awyddus i arwyddo Michael Owen i Newcastle, Ond nid yw'r Albanwr wedi gwneud ei waith cartref yn drylwyr iawn.
"Michael's very very talented, a great centre-forward and he's still young, he's 25"

meddai Sounnes am y chwaraewr 24-mlwydd-oed!

Football Guardian

600 sedd yn unig

21.2.05
Mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi tynnu cynlluniau i godi maes â 3,000 o seddi yn ôl.
Bydd y clwb rwan yn cadw at y cynlluniau, gafodd sêl bendith Cyngor Gwynedd yn 2003, ar gyfer stadiwm newydd â 600 o seddi.
Daw'r penderfyniad wedi gwrthwynebiad gan bobl leol i gynlluniau'r clwb i ymestyn yr eisteddle.
Mae hyn yn golygu fod Cyngor Gwynedd yn colli cyfle euraidd i godi stadiwm yn y sir fyddai'n gymwys i gynnal gemau yng nghystadlethau Uefa.

BBC CYmru'r Byd

Carlos i Leeds?

20.2.05
Mae papur newydd y News of the World yn awgrymu fod Carlos Edwards ar fin ymuno â Leeds ... neu West Ham neu Coventry.

Soca Warriors Wrecsam

18.2.05
Roedd cyfweliad efo triawd Trinidad Wrecsam yn y Trinidad Express ddoe yn edrych ymlaen at eu gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae'n syndod gen i nad yw Dennis Lawrence wedi ei ddewis ar gyfer y gemau nesaf yn erbyn Guatemala a Costa Rica dros y Pasg gan mai Lawrence yw un o prif sgoriwyr Wrecsam ac mae'n amddiffynnwr o safon ers dod o dan orychwiliaeth Denis Smith.

Trinidad Express

Ron Burgess yn marw

16.2.05
Mae un o gewri tîm pêl-droed Cymru o'r 1940au a 1950au, Ron Burgess, wedi marw yn 87 mlwydd oed.



BBC Cymru'r Byd

da da, da da, Juan U-gar-te

Llwyddodd Wrecsam i gymryd cam mawr tuag at ymweld â Stadiwm y Mileniwm ym mis Ebrill wrth drechu Oldham 5-3 ar Boundary Park neithiwr.
Roedd yn wych i weld cymaint o gefnogwyr Wrecsam yn gwneud y daith i Oldham - roedd dros 1200 ohonnom ni yno - a roedd yr awyrgylch yn anhygoel.

Roedd y gêm yn arbennig o dda gan fod y ddau amddiffyn yn warthus - mae Craig Morgan yn meddwl ei fod yn llawer gwell chwaraewr nag ydi o ac mae Shaun Pejic wedi colli pob hyder. Ond yn ffodus i ni roedd gennym ni y gwr o Wlad y Basg ...

da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te.
(* i diwn Papa's Got a Brand New Pig Bag gan James Brown)

Sgoriodd yr athrylith o San Sebastián dair gôl - ac fe allai fod wedi sgorio chwech neu saith - a hynny er iddo gael ei eilyddio gyda 20 munud yn weddill o'r gêm.
Yr unig beth anffodus i weddill ymosodwyr Wrecsam yw fod Ugarte mor weithgar ac mae ei gyffyrddiad cyntaf mor dda, mae Chris Llewellyn a Hector Sam yn edrych yn hollol useless yn ei gwmni!
Methodd Llewellyn gyfle hawdd ofnadwy ar ddechrau'r ail hanner - wedi iddo dderbyn pas wych o ganol cae, roedd un am un ar y golwr tua 15 llath allan o'r gôl, ond roedd Llewellyn eisiau un cyffyrddiad yn ormod nes bo'r golwr wedi llwyddo arbed wrth ei draed.

Beth bynnag - Ebrill 10ed, Stadiwm y Mileniwm, gwnewch nodyn yn eich dyddiaduron!

BBC Cymru'r Byd

Ypdêt: diolch i PS am f'atgoffa mai James Brown ganodd y fersiwn gwreiddiol o Papa's Got A Brand New Pigbag

Italian Job

13.2.05
Mae'r stori yma wedi bod o gwmpas ers tro byd, ond yn ôl y Wales on Sunday heddiw mae John Toshack yn mynd i geisio dwyn perswâd ar Carlo Cudicini i droi'n Gymro.
Mae'r Eidalwr yn gymwys i gael passport Prydeinig erbyn hyn gan ei fod wedi treulio pum mlyned yn byw yn Llundain, ac mae hynny'n golygu byddai'n cael cynrychioli un o wledydd Ynys Prydain.
Yn bersonol byddai'n llawer gwell gen i weld Danny Coyne neu Lewis Price o'r tîm dan-21 yn y gôl na'r gwr o Rufain. Nid oes gan Cudicini unrhyw gysylltiad o gwbl â Chymru, ac mae'n debyg mai'r unig dro mae wedi bod yn y wlad yw i ymweld â Stadiwm y Mileniwm â Chelsea.

icWales

Dim angen hyfforddi ...

10.2.05
... dim ond cwrw mae'r Albanwyr ei angen!

Dywedodd Barry Ferguson wrth bapur newydd y Daily Record:
"We went out for a meal on Monday night and there were a few beers sunk. I know a lot of people nowadays say we shouldn't drink but it's important we all get together and create a good spirit. There was a great bond at Rangers under Walter. I remember even the foreigners would go out for a few beers with the rest of the squad."

Daily Record

Y gentry

Mae Preston North End yn annog eu cefnogwyr i wisgo hetiau bowler ar gyfer eu gemau am weddill y tymor. Yn ôl y sôn, roedd cefnogwyr y clwb yn gwisgo'r hetiau yn y 70au wedi eu rheolwr, Alan Ball (Snr), eu galw'n 'gentry' wedi gêm yn Halifax.



PNE FC

Neville yn lambastio Nike

Mae Gary Neville wedi beirniadau cwmni Nike am ddefnyddio eu hymgyrch gwrth-hiliaeth newydd, 'stand up, speak up', fel arf marchnata.



Wedi gêm gyfeillgar Lloegr â'r Iseldiroedd neithiwr, dywedodd Neville ei fod yn croesawu'r neges gwrth-hiliaeth gafwyd gan y ddau dîm ar Barc Villa ond bod rhaid bod yn ofalus rhag i'r ymgyrch ddioddef oherwydd bod cwmniau masnachol yn eu defnyddio i gael sylw am ddim.
"We have just got to be aware that it is not cheapened slightly by companies like Nike getting a lot of PR out of it for nothing."

Manchester Online

Stand Up, Speak Up

Cymru 2-0 Hwngari

Mae'n rhaid cyfaddef i mi fod yn eithaf pryderus o weld tîm gymharol ddibrofiad Cymru cyn y gêm neithiwr, ond 'doedd dim angen poeni. Cafwyd perfformiadau canmoladwy gan David Partridge, Sam Ricketts a Danny Collins, pan ddaeth i'r maes, yn eu hymddangosiadau cyntaf yn y crys coch - er mae'n rhaid dweud fod Hwngari yn ofnadwy o sâl, Duw â wyr sut bo gwyr Lothar Mattheus yn uwch na Chymru ar restr detholion Fifa.
Roedd Carl Fletcher yn wych yng nghanol cae hefyd ac mae'n sicrhau bydd gan Toshack gur pen pleserus wrth geisio dewis ei ganol cae ar gyfer y gêm nesaf ag Awstria.
Roedd hefyd yn berfformiad arwrol o gofio mai dau chwaraewr o Uwchgynghrair Lloegr ddechreuodd y gêm neithiwr - er fod dau arall yn chwarae yn Uwchgynghrair yr Alban - a bod y capten, Robert Page, ond wedi chwarae 72 munud o bêl-droed i dîm cyntaf Caerdydd tymor yma.

Cymru: Coyne, Edwards (Weston 49), Page, Partridge (Collins 64), Gabbidon, Ricketts, Davies, Fletcher, Robinson (Stephen Roberts 92), Bellamy, Earnshaw (Gareth Roberts 75).

Eilydd: Jones.

Goliau: Bellamy 63, 80.

Hwngari: Kiraly, Bodnar, Gyepes, Juhasz, Dragoner, Lipcsei (Kovacs 67), Korsos (Rosa 65), Hajnal (Leandro 58), Torghelle, Gera, Huszti, Vanczak (Kenesei 82).

Eilyddion: Szucs, Stark, Vanczak, Vincze.

Cerdyn Melyn: Dragoner.

Torf: 16,672

Dyfarnwr: C Richmond (Yr Alban).


lle mae pawb?


pam fo'r golwr yn gwisgo pyjamas?

BBC Cymru'r Byd
Sporting Life

Awstria'n colli

9.2.05
Llwyddodd Cyprus i drechu Awstria, gwrthwynebwyr nesaf Cymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, ar giciau o'r smotyn yn Nicosia nos Fawrth.
Wedi gêm gyfartal 1-1, llwyddodd y tîm cartref i ennill 5-4 ar giciau o'r smotyn a chyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth pedair gwlad ar yr ynys rhwng Y Ffindir, Latfia, Awstria a Chyprus.

The World Game

Dyfodol disglair?

8.2.05
Mae'n rhaid dweud fod perfformiad tîm dan-21 Cymru yn erbyn tîm dan-21 Yr Almaen yn drychinebus. Roedd yr Almanewyr yn gryfach, yn dalach, yn gyflymach ac â llawer mwy o sgiliau ar y bêl - roedd yr Almaenwyr yn edrych fel pêl-droedwyr!
Dim ond Joe Ledley a Lewis Nyatanga - sydd ond yn 16-mlwydd-oed - oedd yn edrych fel chwaraewyr fydd yn debygol o chwarae i'r tîm llawn yn y dyfodol.

Giggs, Savage,Hartson, ?? yn gapten

Mae Ryan Giggs a Robbie Savage wedi tynnu allan o garfan Cymru ac mae amheuaeth mawr os fydd John Hartson yn holliach, felly pwy fydd y capten nos fory?
Simon Davies fyddai'n cael fy mhleidlais i ...

BBC Cymru'r Byd

Tîm Cymru

Pwy fydd tîm Cymru, ac yn bwysicach, pwy fydd yn yr amddiffyn.
Mae safle we'r BBC yn caniatau i chi ddewis eich XI i wynebu Hwngari a dyma un awgrymiad gen i:



Pick your Wales XI

Cymru v Hwngari ar y we

7.2.05
Chwi flogwyr sydd yn darllen dramor, cofiwch bo modd gwrando ar sylwebaeth fyw o'r gêm rhwng Cymru a Hwngari ar y we:

Cymru v Hwngari ar BBC Cymru'r Byd

Roberts yn y garfan

Mae amddiffynnwr canol Wrecsam, Stephen Roberts, wedi ei alw i fewn i garfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar â Hwngari nos Fercher.
Mae Roberts wedi bod yn gawr i Wrecsam ar brydiau eleni ond mae cryn gwahaniaeth rhwng delio ag ymosodwr Peterborough, Stockport a Doncaster Rovers a delio ag ymosodwyr rhyngwladol.

Ond gyda Mark Delaney wedi anafu, James Collins yn chwarae i'r tîm dan-21 a chyda Danny Gabbidon a Gavin Williams yn annhebygol o fod yn ffit, mae'n profi nad oes llawer o ddyfnder i'n carfan.

BBC Cymru'r Byd

Chwech rhwng y pyst

Rwyf wedi gweld chwe chwaraewr gwahanol rhwng y pyst i Wrecsam tymor yma ... ia CHWECH!
Wedi dechrau'r tymor efo Andy Dibble daeth Matt Baker i fewn wedi Dibs ddioddef anaf.
Pan ddychwelodd Dibble i'r tîm gadawodd Baker i ymuno â'r MK Dons, ond dioddefodd Dibble anaf arall yn Hillsbrough yn erbyn Sheffield Wednedsay. Erbyn hynny roedd Wrecsam wedi defnyddio eu heilyddion i gyd felly aeth y chwaraewr canol cae, Danny Williams, i'r gôl.
Daeth y Sbaenwr, Xavi Valero, i fewn ar gytundeb o fis ond roedd yn golwr trychinebus a chafodd ei eilyddio ar hanner amser yn Chesterfield gyda'r golwr 17-mlwydd-oed, Michael Jones, yn cymryd ei le.
Bellach mae Valero wedi gadael y clwb ac mae Ben Foster wedi ymuno ar fenthyg o Stoke.
Ond rwan mae Jones wedi torri ei fraich ac mae posibilrwydd byddaf yn gweld fy seithfed golwr rhwng y pyst i'r clwb ...

BBC Cymru'r Byd

'Dwi wrth fy modd yn Fiorentina Birmingham

3.2.05
Mae Walter Pandiani yn mynd i'w chael yn anodd bod yn ffefryn yn St Andrews wedi ei gyfweliad cyntaf ers ymuno o Deportivo la Coruna.
"I wanted to go to Fiorentina but Deportivo - maybe on purpose - took time sending the fax, and I am in Birmingham - just where I didn't want to be."

Alla'i weld ei bwynt, ond mae'n rhyfedd iawn ei fod yn cyfaddef!

Sporting Life

Newcastle yn methu cau ceg

Beth bynnag yw eich barn am Craig Bellamy a'i ffrae â Newcastle United, mae ymddygiad Graeme Souness a Terry McDermott ers i Bellamy adael i ymuno â Celtic yn warthus.
Ddoe daeth Souness allan i fychanu Bellamy gan ddweud nad oedd yr ymosodwr "ddigon da" i chwarae i Newcastle a heddiw mae McDermott wedi dweud fod cymaint o gasineb tuag at Bellamy ym Mhac St James ei fod wedi ei synnu.

Mae'r datganiadau yma yn amhroffesiynol, amharchus ac, yn fy meddwl i, yn warthus. O leiaf mae Bellamy wedi cau ei geg ers galw Souness yn gelwyddgi.

Souness ar BBC Sport

McDermott ar BBC Sport

Luis Fernando Montoya

Mae un o hyfforddwyr gorau Colombia yn ddifrifol wael wedi iddo gael ei saethu gan ladron wrth iddo geisio amddiffyn ei wraig.
Arweiniodd Luis Fernando Montoya, rheolwr Once Caldas, ei clwb i'r Copa
Libertadores a'r Gwpan Rhyng-gyfandirol llynedd, ond bellach mae wedi ei barlysu am wedill ei oes.
Daeth y digwyddiad ychydig ddyddiau wedi iddo ymddeol er mwyn treulio mwy o amser gyda'i deulu.

Diolch i Rhys am adael i mi wybod am y stori drist yma.

BBC World

Dim lle i Inamoto

Tydi hyfforddwr Siapan, Zico (ia, y Zico), heb ddewis chwaraewr canol cae Caerdydd, Junichi Inamoto, ar gyfer eu gêm â Gogledd Corea yng Nghwpan y Byd 2006 wythnos nesaf.
Mae'n rhaid nad yw Zico yn rhannu barn Sam Hammam ar faint a phwysigrwydd yr Adar Gleision.

BBC Sport

Carlos yn cael ei ddewis

Mae asgellwr Wrecsam, Carlos Edwards, wedi ei ddewis yn nhîm Trinidad & Tobago ar gyfer eu gêm gyntaf o rownd rhagbrofol olaf o Gwpan y Byd 2006 yn erbyn America.
Ond y newyddion mawr i Trinidad yw bod Dwight Yorke yn ymuno â'r garfan am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Ydi ymosodwr Birmingham yn gweld cyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd?

Trinidad Express

Hype, hype ... hyper value!

1.2.05
Tydw i ddim yn un sydd yn disgyn am yr holl heip sydd gan Sky fel arfer, ond mae'n rhaid dweud bod y gêm rhwng Arsenal a Manchester United heno yn wych.
Roedd popeth yn y gêm, o'r pantomime villains - Wenger, Ferguson ac yna, yn y diwedd, Silvestre, i'r eiliadau o athrylith gan Bergkamp, Ronaldo, O'Shea a Rooney.

Prin iawn ydi'r gemau yn Uwchgynghrair Lloegr fyddai'n eistedd i lawr a'i gwylio o'r dechrau hyd y diwedd, ond 'dwi mor falch mod i wedi gwneud hynny heno.

BBC Sport

Bellamy y Celt

Felly mae Craig Bellamy wedi ymuno â Celtic ar fenthyg hyd at ddiwedd y tymor.
Mae'n rhaid mi gyfaddef fod gen i bechod braidd dros yr holl feirniadaeth mae Bellamy wedi ddioddef wedi ei ffrae â Graeme Souness.
Does gen i fawr o feddwl o Souness. Roedd gwerthu ei stori i bapur newydd y Sun pan yn reolwr ar Lerpwl - papur oedd cefnogwyr Lerpwl yn foicotio oherwydd eu straeon am Hillsbrough - yn profi nad oes gan Sounness lawer o egwyddorion.

Dwi'n cyfaddef nad yw Bellamy ymysg y chwaraewyr mwyaf peniog sydd o gwmpas, ond dwi'n gobeithio bydd yn mwynhau ei bêl-droed o dan Martin O'Neill, a bod ei bartneriaeth â John Hartson yn elwa Cymru.

BBC Cymru'r Byd