Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Clubs in Crisis

30.1.05
Roedd yn ddiwrnod 'Clubs in Crisis' ar Y Cae Ras ddoe gyda chefnogwyr gwahanol glybiau yn dod i ddangos cefnogaeth i Wrecsam a'r holl glybiau eraill sydd yn wynebu dyfodol ansicr.



Bechod felly wedi cefnogwyr o glybiau Leeds, Bradford, Brighton, Caer, Plymouth, Caerdydd, Bae Colwyn, Grimsby, Newcastle, Gillingham, Burnley, West Ham, Luton, Sunderland, VS Rugby, Arsenal, Everton, QPR a llawer mwy droi fyny yn Y Cae Ras, fod cyn lleied o bobl lleol wedi troi allan i gefnogi'r clwb.

Pe bai Wrecsam yn cyrraedd rownd derfynol Tlws yr LDV yn Stadiwm y Mileniwm fydd pawb yn dod allan i chwilio am docyn - wel dewch i'r CAE Ras hefyd y diawled apathetic!

icWales
Clubs in Crisis

Ooh Aah, Aberta ... we

28.1.05
Mae recordiau pêl-droed yn erchyll - does gen i ddim syniad be' sy'n gwneud i unrhyw un feddwl am hebrwng carfan o bêl-droedwyr i stwidio recordio.
Ond yn bwysicach, mae gen i llai fyth o syniad o beth sydd yn gwneud i rhywun brynu record bêl-droed:
"Ti di gweld adolygiad albym newydd Y Thrills?"
"Do, mae'n edrych yn dda - weles ti'r SFA ar MTV neithiwr?"
"Aye, mae nhw'n wych"
"Be am brynu hwn - can gan 15 o ddynion sydd erioed wedi canu yn eu bywydau gyda geiriau hynod o syml fel 'Glory Glory', 'Ooh Aah' neu 'Chelsea, Chelsea'?"
"Syniad gwych ..."

O Kevin Keegan yn canu 'Back Home' drwodd i John Barnes yn gwneud ei rapio erchyll gyda New Order ac yn sbwylio'r unig gan bêl-droed o safon (er mai can Lloegr oedd hi) mae'n draddodiad fod senglau pêl-droed yn uffernol!

Ac mae cefnogwyr Abertawe wedi ychwanegu at y rhestr felltith heddiw trwy ryddhau record o'r enw New Jack City i glodfori tymor olaf y clwb ar Y Vetch.

BBC News

Mae Bellamy yn d**t

27.1.05
Mae Steve Froggatt, cyn asgellwr Lloegr a Coventry, wedi beirniadu Craig Bellamy gan ddweud ei fod yn ben bach:
"Bellamy has often been labelled as an arrogant and an obnoxious player and I have to agree with that description.

"I played with Craig when I was at Coventry in the 2000/01 season and he was certainly not liked in the dressing room.
"

Wow! Blockbuster o ddyfyniad - be nesaf? bod eira'n oer?

Football365

Nice Beevers

Mae Lee Beevers o Boston wedi ei alw i fewn i garfan dan-21 Cymru gan fod rhieni ei fam yn Gymry, ond o leiaf mae o, mewn cyfweliad â'r Lincolnshire Echo, yn ei ystyried ei hyn yn Gymro.
"I am really looking forward to representing my country because it will be a real honour to do so."

This is Lincolnshire

Toon-tastic

Wrth syrffio'r we 'dwi wedi dod ar draws un o'r safleodd mwyaf doniol 'dwi wedi weld ers tro byd.
Mae perchennog htfc-world yn 'sgwennu adroddiadau gemau Huddersfield Town ar ffurf cartwn a mae nhw'n wych.

Yn ogystal â gemau Huddersfield Town mae 'na ddarn ar Cwpan y Byd 1966 a 1970 a'r ffilm Escape to Victory!



htfc-world

Carfan cyntaf Tosh

26.1.05
Dim llawer o syndod yng ngharfan cyntaf John Toshack. Mae pedwar wyneb newydd - David Partridge o Motherwell, Sam Ricketts o Abertawe, Gavin Williams o West Ham a Danny Collins o Sunderland - ond roedd disgwyl i'r pedwar fod yn y garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar.
Y syndod mwyaf i mi yw fod Brian Flynn heb ddewis Mark Jones na Simon Spender o Wrecsam yng ngharfan dan-21 Cymru i wynebu Yr Almaen. Mae'r ddau wedi bod yn wych i Wrecsam a dwi'n ei chael yn anodd iawn i ddeall rhesymeg Flynn o'u gadael allan.

Carfan Cymru: Coyne (Burnley), Crossley (Fulham), Collins (Sunderland), Edwards (Wolves), Gabbidon (Caerdydd), Page (Caerdydd), Partridge (Motherwell), Ricketts (Swansea), Roberts (Tranmere), Weston (Caerdydd), Davies (Tottenham), Fletcher (West Ham), Giggs (Man Utd), Koumas (West Brom), Robinson (Sunderland), Savage (Blackburn), Williams (West Ham), Bellamy (Newcastle), Earnshaw (West Brom), Hartson (Celtic).

Carfan dan-21 Cymru
: Price (Ipswich), Worgan (Rushden), Beevers (Boston), Collins (Caerdydd), Duffy (Portsmouth), Gilbert (Plymouth), Morgan (Wrecsam), Nyatanga (Derby), Fowler (Huddersfield), Ledley (Caerdydd), Pipe (Notts County), Pulis (Portsmouth), Vaughan (Crewe), Birchall (Arsenal), Calliste (Man Utd), Crofts (Gillingham),Davies (Rhydychen), Tolley (Amwythig).

BBC Cymru'r Byd

Achos dathlu (2)

25.1.05
Mae Wrecsam drwodd i rownd derfynol y gogledd o Dlws yr LDV.
Wedi curo Henffordd 2-1 yn Edgar Street, bydd Wrecsam yn herio Oldham Athletic (phew! - llwyddodd y Latics i drechu Tranmere ar giciau o'r smotyn felly mae gennym ni gyfle da o ennill y rownd nesaf!) i geisio ennill lle yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm.

Byddai trip i Gaerdydd yn werth chweil ar ddiwedd tymor gythryblus fel hon ...

BBC Cymru'r Byd

Achos dathlu (1)

Mae Andy Smith, gwr busnes o Surrey, wedi dod i gytundeb â pherchennog CPD Wrecsam, Alex Hamilton, ac mae'n gobeithio prynnu'r Dreigiau o fewn 21 diwrnod.

'Dwi eisiau bloeddio, dawnsio, meddwi, canu ... ond wedi popeth sydd wedi digwydd i Wrecsam yn ystod y dair blynedd diwethaf, 'dwi am ddisgwyl tan fod pob i wedi ei ddotio a phob t wedi ei groesi.

BBC Cymru'r Byd

Dyfarnwr yn betio

Mae dyfarnwr yn yr Almaen wedi ymddiswyddo wedi honiadau ei fod wedi dylanwadu ar ganlyniad gêm yng Nghwpan yr Almaen.
Credir fod Robert Hoyzer, 25, wedi rhoi bet ar ganlyniad y gêm rhwng Hamburg a Paderborn ym mis Awst, gêm welodd SC Paderborn 07, sydd yn chwarae yn y regionalliga nord - y trydydd tier o bêl-droed yr Almaen - yn ennill 4-2.

Ar y Marc

Glory days

Mae Steve McMahon wedi ei benodi'n reolwr newydd ar Perth Glory yn yr A-League yn Awstralia.

Fox Sports

Cymry plentynaidd

Pam fod rhaid i Gymru fod mor ddibynol ar chwaraewyr mor blentynaidd?
Yn gyntaf mae Robbie Savage yn taflu ei degannau allan o'r pram nes bo'r Mark Hughes neis 'na yn dod â dwmi newydd iddo ac yn symud ei 'sand pit' i Barc Ewood.

Rwan mae Craig Bellamy yn ffraeo efo'i reolwr yn Newcastle wedi'r Cymro ddod â nodyn i Sounness yn dweud ei fod wedi aghofio ei wisg PE gan fod o wedi cael llond bol o fod 'last pick'.

BBC Cymru'r Byd


Protest yn Hale Barns

23.1.05
Hale lle ...?
Roedd cefnogwyr Wrecsam wedi teithio i Hale Barns, pentref ar gyrion Manceinion a chartref y perchenog amhoblogaidd, Alex Hamilton, fore Sadwrn.
Roedd y brotest wedi ei threfnu gan aelodau'r ffansin, Dismal Jimmy, er mwyn lleisiau eu barn ynghylch penderfyniad Mr Hamilton i daflu'r clwb pêl-droed oddi ar Y Cae Ras fis Gorffennaf.



BBC Cymru'r Byd

Paid a cwyno Lennie

Mae rheolwr Caerdydd, Lennie Lawrence, yn cwyno bod ei chwaraewr canol cae, Junichi Inamoto, yn debygol o golli gêm yr Adar Gleision â West Ham ar 6 Chwefror gan fod Siapan yn herio Gogledd Corea mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd ar 9 Chwefror.

Sori Lennie, ond pan nes ti gymryd Inamoto ar fenthyg roeddet yn gwybod ei fod yn chwaraewr rhyngwladol - mae'n siwr fod y ffaith ei fod yn chwaraewr rhyngwladol wedi bod y rhan o'r rheswm dy fod wedi ei arwyddo.

Dwi'n casau'r rheolwyr 'ma sy'n anfodlon gadael i'w chwaraewyr gynrychioli eu gwledydd os yw'r chwaraewyr yn digwydd dod o Affrica neu Asia ... ydy'r gwledydd ma'n llai pwysig na gwledydd Ewrop?

icWales

Juan-two-three-four Ugarte!

22.1.05
Gwych! Dyna'r unig air i ddisgrifio perfformiad y gwr o Wlad y Basg, Juan Ugarte, i Wrecsam brynhawn yma. Llwyddodd Ugarte i rwydo pedair gwaith i'r Dreigiau wrth iddynt chwalu Chesterfield 4-2 yn Saltergate.
Yr ateb perffaith wedi'r grasfa 5-1 gan Tranmere wythnos diwethaf.
Dyma'r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Saltergate, maes Chesterfield - y maes efo lloc yr wasg lleiaf yn y byd.

Unwaith roeddwn yn fy sêt roedd yn amhosib symud - roedd rhaid anghofio ceisio mynd i'r ty bach, roedd rhaid anghofio trio mynd i boced fy nghot i nol beiro sbâr gan fod pethau mor gythreilig o dyn yno. Yn wir mae hi mor gyfyng yn lloc yr wasg Chesterfield, roedd rhaid i mi ofyn i ohebydd Radio Derby symud dim ond i mi gael newid fy meddwl.

BBC Cymru'r Byd

Haeddu slap

21.1.05
Yda chi wedi cael llond bol o'r ffrae rhwng Arsene ac Alex? Rhowch slap i'r ddau ar y safle we yma ...

slapthemanager.com

Oriel Wahanol

20.1.05
Mae'r Gallery ar safle we Football Guardian wedi canolbwyntio ar y gôl nad oedd wythnos yma. Dyma fy ffefryn:



Football Guardian

Blydi Cheek!

19.1.05
Dwi wir yn gobeithio bydd Bouremouth yn cael stîd go iawn gan Burnley yng Nghwpan FA Lloegr. Mae cadeirydd Bournemouth wedi cwyno eu bod wedi colli cyfle i wneud arian gan mai Burnley nid Lerpwl byddent yn herio yn y rownd nesaf.

BBC Dorset

Bootham Kit-Kat Crescent

Mae Clwb Pêl-droed York City wedi newid enw eu maes i'r Kit-Kat Crescent yn dilyn cytundeb â chwmni Nestle-Rowntree sydd â'u pencadlys yng Nghaerefrog.

Allai ddim dioddef yr holl noddi enwau meysydd pêl-droed 'ma. Er enghraifft, yda chi'n gwybod lle mae'r meysydd yma:
Fitness First Stadium,
Earth Stadium,
Saunders Honda Stadium,
Kingston Communications Stadium.

Hurt bost.

BBC Sport

Gwers i Djimi

Rhywbeth efallai dylai Djimi Traore gymryd cip arno cyn ei gêm nesaf i Lerpwl ...

BBC Sport Academy

O Kingz i Knights

Mae'r Auckland Kingz wedi newid eu henwau i'r New Zealand Knights. Mae'r tîm o Seland Newydd, sydd yn chwarae yn yr A-League yn Awstralia, yn gobeithio bod newid eu henwau yn mynd i wella eu perffomiadau ar y maes!

The World Game

Baggio i Boca?

Mae clwb pêl-droed Boca Juniors yn ceisio dwyn perswâd ar Roberto Baggio i roi'r gorau i'w ymddeoliad ac arwyddio i'r clwb o Buenos Aires.

TheWorldGame

Hunter wrth y llyw

Mae cyn amddiffynnwr Wrecsam, Barry Hunter, wedi cymryd yr awenau â Rushden & Diamonds wedi'r rheolwr, Ernie Tippett, adael y clwb.

Football Guardian

Man On!!

18.1.05
Mae tîm pêl-droed Prydain wedi ennill y fedal aur yn y Deaflympics - Gemau Olympaidd i bobol byddar.

BBC Sport

Gwahanwyd yn y Groth

Mae safle we DangerHere yn credu fod Robert Earnshaw yr un ffunud â Harry Osborn o lyfrau comic Spiderman.



DangerHere

Paid a chwarae efo hwnna ...

Doedd Ryan Nelsen ddim y ymwybodol ei fod wedi ei ddewis i chwarae ei gêm gyntaf dros Blackburn ddydd Sadwrn gan ei fod wedi mynd i'r ty bach tra roedd Mark Hughes yn cyhoeddi'r tîm.
Pan ddaeth yn ôl roedd Hughes wrthi'n enwi'r eilyddion a roedd Nelsen yn siomedig gan ei fod yn credu ei fod wedi methu allan ar le ar y fainc!

Tribal Football

Dynes ydi Billy!

Ymddengys fod Billy the Fish (gweler Billy the Fish isod) yn ferch!
Roedd staff clwb pêl-droed Carlisle wedi galw'r pysgodyn aur ganfyddwyd ar Burnden Park yn Billy, ond mae'n debyg mai Judy ydi enw iawn y pysgodyn!

BBC Sport

Diflas

'Dwi wedi diflasu'n llwyr ar y ffrae rhwng Alex Ferguson ac Arsene Wenger. Mae golygyddion chwaraeon y tabloids wedi gwirioni'n lan ar y ddadl di-bwrpas yma, gyda tudalenau ar dudalenau yn cael eu gosod i Fergie gael rhedeg ar Wenger cyn i reolwr Arsenal danio brawddeg haerllug yn ôl tuag at Old Trafford.

Tydw i heb gael gwybod os mai tad Alex neu tad Arsene yw'r mwyaf o'r ddau ...

The Sun

Handbags yn y Riverside

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhuddo clybiau Middlesbrough ac Everton o fethu rheoli eu chwaraewyr wedi'r 'handbags' yn stadiwm Riverside dros y Sul.


BBC Sport

Lladd golwr Benin

17.1.05
Mae golwr tîm dan-20 Benin wedi ei lofruddio gan cefnogwyr blin wedi ei dîm golli eu gêm agoriadol o Bencampwriaethau dan-20 Affrica yn erbyn Nigeria.

Reuters

200 heb fod allan

16.1.05
Mae Marc Lloyd-Williams, neu Jiws i'w ffrindiau, wedi cyrraedd carreg filltir go arbennig wedi iddo rwydo gôl rhif 200 (... a 201) ddydd Sadwrn.

BBC Cymru'r Byd

Billy the Fish yn Carlisle!

14.1.05
Mae Clwb Pêl-droed Carlisle yn chwilio am berchnogion dau bysgodyn aur sydd wedi nofio i Burnden Park yn ystod y llifogydd diweddar. Mae'r clwb wedi penderfynu galw un o'r pysgod yn Billy fel teyrnged i'r golwr enwog o gomic Viz.

Ar y Marc

Y Traeth ... go iawn!

10.1.05
Dwi'n gwybod mai'r Traeth ydi enw cae Porthmadog ond mae hyn yn hurt:


welsh-premier.com

Di Canio yn gwneud arwydd ffasgaidd

9.1.05
Mae Paolo Di Canio mewn dwr poeth yn Yr Eidal am iddo wneud arwydd ffasgaidd wedi ei dîm, Lazio, drechu eu cymdogion a'u gelynion pennaf, Roma o 3-1.
Mae ultras Lazio yn enwog am fod yn asgell dde a roedd Mussolini, cyn arweinydd ffasgaidd Yr Eidal, yn gefnogwr brwd o'r clwb.



Mae Di Canio ei hun yn gefnogwr brwd o Lazio ac mae'n amlwg ei fod yn ymwybodol iawn o'r hyn oedd yn ei wneud.

BBC News

Technoleg ... mwy

Yn dilyn y ddadl am y "gôl na fu", mae blog y Londonist wedi cael syniad gwell ar y defnydd o dechnoleg ddylai cael ei gyflwyno i'r byd pêl-droed:

Saliva DNA testers at every seat. Prove you were spat on by El Hadji Diouf and win a prize.

A large Totaliser above the big screen at Stamford Bridge that shows how much money Roman Abramovich has made in the last minute.

A microchip in Robbie Savage's brain that allows Sky Sports Interactive viewers to run 30,000 volts through him when he acts like a twat.

Londonist.com

Chwyldro Cymreig

7.1.05
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn crybwyll newid syfrdanol i reolau camsefyll y byd pêl-droed. Mae'r FAW yn pwyso i newid y rheolau fel bo chwaraewr yn camsefyll dim ond os yw yng nghwrt cosbi'r gwrthwynebwyr.

'Dwi'n cofio arbrawf yma yng Nghymru rhai blynyddoedd yn ôl lle nad oedd ymosodwr yn camsefyll os oedd y bêl wedi ei phasio o'i hanner ei hun - yn amlwg nid oedd yn lwydiant gan fod y rheol heb ei fabwysiadu!

Football Guardian

Tri chynnig i 'Gymro'?

Roedd cyfnod Bobby Gould wrth y llyw i Gymru yn hunllefus i'r cefnogwyr, wel dychmygwch cael y ffwl fel rheolwr ar eich clwb deirgwaith ...

Mae Gould eisoes wedi rheoli Coventry ddwywaith ac mae wedi datgan ei ddiddordeb yn y swydd wedi Peter Reid ymddiswyddo ddoe.

Football Guardian

Dim sioc

6.1.05
Cafwyd penderfyniad gan y Panel Apêl yn Llundain nad oeddent am wyrdroi'r defryd o 10-pwynt yn erbyn Wrecsam am iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Nid oedd yn benderfyniad annisgwyl - byddwn wedi fy synnu'n arw petai'r dedfryd wedi ei wyrdroi - ond mae'n siomedig i wybod fod y clwb y gorfod parhau yng ngwaelod yr adran.

The Football League

Seagulls yn Rhif 1?

Mae Attilla the Stockbroker wedi recordio can gyda chefnogwyr Brighton & Hove Albion sydd yn galw eu hunain yn Seagulls Ska. Mae'r grwp yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ym mrwydr y clwb i gael stadiwm newydd.

BBC Sport

Pellegrino'r sosej

Mae gan chwaraewr newydd Lerpwl Mauricio Pellegrino ffugenw digon difyr yn ôl safle we swyddogol Lerpwl:
"In Spain, the tall Pellegrino was nicknamed 'El flaco', meaning skinny. Back in Argentina he has the more imaginative description of 'El longanizas' - which is a long pork sausage."

Yn anffodus, nid yw'n egluro pam fo Pellegrino'n cael y fath ffugenw!

Liverpoolfc.tv

Savage yn hogyn drwg!

5.1.05
Mae Robbie Savage wedi gorfod ymarfe ar ben ei hun heddiw wedi iddo ofyn yn swyddogol am gael gadael Birmingham City.
O'r herwydd nid oedd yng ngharfan Steve Bruce neithiwr ar gyfer y gêm â Bolton a bydd yn gorfod chwarae i'r ail dîm yn erbyn ail dîm Newcastle yn Sollihull Borough nos fory.

Telegraph Sport

Gwyliau yng Nghairo?

Mae'r dyddiadau ar gyfer Pencampwriaeth Affrica 2006 wedi eu cyhoeddi gyda'r gystadleuaeth yn dechrau ar Ionawr 20ed a bydd y rownd derfynol yn Stadiwm Cenedlaethol Yr Aifft yng Nghairo ar Chwefror 10ed.

ESPN Soccernet

Gôl neu beidio?

Dim ond un testun sgwrs sydd heddiw - sut ddiawl fethodd y dyfarnwr â'i gynorthwydd â gweld fod ergyd Pedro Mendes wedi croesi llinell gôl Roy Carroll?



Mae pwnc llosg mawr y dydd yn golygu fod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr y fodlon, gyda chaniatâd Fifa, i arbrofi â thechnoleg fideo ar y llinell gôl.
Byddai hyn yn syniad gwych, yn fy marn i.

Eiliad neu ddau fyddai wedi gymryd i swyddog â sgrîn fideo i ddweud "gôl" yng nghlust y dyfarnwr neithiwr - mae'r dyn yn y canol eisoes yn gwisgo darn clust i glywed gan ei gynorthwydd - ni fyddai hynny yn amharu dim ar lif y chwarae a byddai'n sicrhau na fyddai'r fath anghyfiawnder yn digwydd eto.

Yn ôl y dyfarnwr cynorthwyol, byddai wedi gorfod bod â "chyflymder Linford Christie" i gyrraedd y man cywir a gwneud penderfyniad cadarn neithiwr.
"I could not have guessed because you have to be 100% sure on such important decisions.

Sydd ddigon teg mae'n siwr, ond nid yw'n lawer o gysur i gefnogwyr Spurs!

Sky Sports News

Football Guardian

Assyriska'n uno'r Assyriaid

2.1.05
Mae clwb pêl-droed Assyriska wedi codi calon pobl o dras Assyriaidd led led y byd wrth cipio lle yn Uwchgynghrair Sweden.

Mae'r Assyriaid yn dod yn wreiddiol o ardal hanesyddol Mesopotamia rhwng afonydd Euphrates a Tigris yn y Dwyrain Canol ond maent wedi eu gorfodi i adael yr ardal wedi blynyddoedd o drais o dan Ymerodraeth Twrci.

Mae'r clwb wedi cael negeseuon yn eu llongyfarch o bedwar ban byd.

Football Guardian