Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Gascoine i reoli Newcastle?

31.12.04
Mae G8 - aka Paul Gascoine - eisiau rheoli Newcastle ... naci, nid Newcastle United ond y Newcastle Jets yn yr A-League yn Awstralia!

Football Guardian

Ta-ta 2004

Mae'r Football Guardian, gyda help Reuters, wedi creu rhestr o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau y flwyddyn yn y byd pêl-droed. Yn eu mysg mae'r canlyniad rhyngwladol mwyaf annisgwyl - Groeg yn ennill Ewro 2004? - naci wir, Andorra yn ennill eu gêm gyntaf wrth drechu Macedonia 1-0 sydd yn cipio gwobr Reuters.

Football Guardian

Derby days

27.12.04
Anghofiwch Lerpwl v Everton, yr Old Firm neu'r Superclassico yn Buenos Aires, bues i yn Y derby heddiw - Caernarfon v Bangor.
Mae'r elyniaeth rhng y ddau glwb yn enwog a chyda torf o ymhell dros 1,000 roedd yr Oval yn llawn cyffro, yn enwedig gan fo chantio i'w glywed mewn gêm yn Uwchgynghrair Cymru am unwaith.
Er i Fangor chwalu Caernarfon yn yr hanner cyntaf, llwyddodd David Walsh yn y gôl i'r Canaries i wneud gwyrthiau i sicrhau fod y sgôr yn 0-0 ar yr egwyl.
Er i Les davies roi Bangor ar y blaen, llwyddodd Lee Jones i ddod â'r tîm cartref yn gyfartal o'r smotyn ac yna rhwydodd Mike Bird cic rydd ddadleuol i roi gwên mawr ar wyneb y Cofis.
Dwi'n edrych ymlaen yn arw at fynd i Ffordd Farrar ar gyfer y re-match Ddydd Calan.

Newidiadau yn Brat'fud

26.12.04
Roeddwn i'n mynd i lawr i Valley Parade yn aml iawn yn yr 80au hwyr pan oeddwn yn fyfyriwr yn Bradford. Adeg hynny roedd y Kop tu ôl i'r gôl yn deras anferth tra bo'r ddau deras arall - un tu ôl i'r gôl gyferbyn a'r llall i lawr ochr y maes yn fychan iawn. Yr unig eisteddle oedd yr un i'r dde o'r Kop oedd wedi ei adeiladu yn lle'r eisteddle gafodd ei losgi yn ystod trychineb y tân ym 1985.

Erbyn hyn, wrth gwrs, wedi cyfnod yn yr Uwchgynghrair, mae Valley Parade wedi newid yn gyfan gwbl. Mae'r Kop bellach yn eisteddle dau lawr gyda'r gornel rhwng y Kop a'r brif eisteddle wedi ei llenwi â seddi.



Yn anffodus i'r Bantams, mae'r maes wedi ei adeiladu ar ochr llethr ac felly nid yw'n bosib codi eisteddle mor fawr ar y ddwy ochr arall o'r maes ac o'r herwydd mae Valley Parade yn edrych fel dau ran o ddau wahanol stadiwm!

Y broblem arall yw fod y clwb wedi anghofio nad ydynt yn yr Uwchgynghrair bellach - £18 i fynd i fewn a £2.50 am raglen.



Football Ground Guide

Cwis 2004

23.12.04
1) Pa dîm gollodd yn erbyn Abertawe yn 3ydd Rownd o Gwpan FA Lloegr ym mis Ionawr?

2) Pwy gollodd yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru yn erbyn Y Rhyl ym mis Mai?

3) Pwy sgoriodd goliau Wrecsam yn rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol yn erbyn Y Rhyl ym mis Mai?

4) Pwy sgoriodd gôl agoriadol Ewro 2004?

5) Pa bum chwaraewr enillodd eu cap rhyngwladol cyntaf dros Gymru eleni?

6) Pwy oedd gwrthwynebwyr Y Rhyl yn eu gêm gyntaf erioed yn Ewrop yn ôl ym ms Gorffennaf?

7) Pa ddau dîm gafodd dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru yn 2004?

8) Pwy sgoriodd hat tric mewn dau funud ac 20 eiliad yn erbyn Wrecsam ym mis Chwefror?

9) Pam fod Henning Berg yn dathlu wrth i Gymru a Norwy gael gêm ddi-sgôr ym mis Mai?

10) Pwy oedd chwaraewr y flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2004?


wedi newid cwestiwn 5 gan mod i wedi cofio mwy na'r tri gwreiddiol!

Cwis y Flwyddyn y Guardian

Mae gan y Football Guardian 'Do You Remember 2004' Football Quiz heddiw. Dyma un o'r cwestiynau:

5. When will the media calm down and realise that, while Steven "I'm the man" Gerrard is clearly a footballer of considerable talent, he's not even the best midfielder at his club, let alone in the Premiership/world/universe (as current press-box conformity dictates)?

(a) When hell freezes over.
(b) When those driving man-of-the-match performances, which don't come round quite as often as you'd think, finally veer wildly into the ego-driven, tactic-shredding arena that is David Beckham v Greece.

Football Guardian

Pennawd gwych!

21.12.04
Dyma dudalen ôl y Daily Record heddiw wedi cyhoeddiad rhestr detholion Fifa ddoe:



Ac mae'r papur yn parhau:
WHAT'S THE DIFFERENCE BETWEEN SCOTLAND AND BURKINA FASO?
One's a footballing backwater the other's a country in Africa

Daily Record

Betis yn gandryll

Mae clwb Real Betis yn gandryll wedi iddynt orfod newid eu crysau gwyrdd a gwyn yn y gêm dderby â Sevilla. Roedd y dyfarnwr yn credu eu bod yn rhy debyg i grysau gwyn y gwrthwynebwyr er i'r ddau gymydog chwarae'r gêm danllyd yma yn yr un lliw crysau ers 98 mlynedd!

Be yda chi'n feddwl?


ESPN Soccernet

Simonsen yn cael y sac

Mae Allan Simonsen wedi ei ddiswyddo fel hyforddwr Lwcsembwrg. Mae Lwcsembwrg ar waelod eu grwp rhagbrofol Cwpan y Byd, ond y canlyniad sydd yn siwr o fod yn brifo ym mhencadlys cymdeithas Bêl-droed Lwcsembwrg yw'r golled 4-0 gartref yn erbyn Liechtenstein.

Reuters

Cantona'n contio

Mae Eric Cantona wedi bod wrthi eto. Os nad yw'n ymosod ar gefnogwyr neu'n sôn am wylanod yn chwilio am sardines mae'r Ffrancwr yn rhegi ar y teledu.
Mae MUTV wedi ymddiheuro wedi iddo regi yn ystod phone-in ar y sianel.

Football Guardian

Henrik Larsson ...???

Mae Fifa wedi datgelu pleidleisiau holl hyfforddwyr a chapteiniaid y byd ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn Fifa 2004. Ronaldinho gipiodd y wobr ond mae'n ddifyr gweld dewisiadau Mark Hughes a Gary Speed:

L. M. Hughes
1) Pavel Nedved
2) Roy Makaay
3) Henrik Larsson

Gary Speed
1) Pavel Nedved
2) Samuel Eto'o
3) Luis Figo

Pleidleisiau Fifa

BBC Cymru'r Byd

Llythyr o gwyn

19.12.04
Mae Gwesty'r Ritz wedi cwyno i glwb Newcastle am ymddygiad eu chwaraewyr tra'n aros yn y gwesty, ac ymddengys fod hellraiser Cymru, Craig Bellamy yng nghanol yr helynt.

Football Guardian

fflicio a chicio

Yn ôl Will Buckley yn yr Observer mae Subbuteo yn ffasiynol unwaith eto - i fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol fod o wedi mynd allan o ffasiwn!

Cawsom ni dyddiau os nad wythnosau o hwyl yn chwarae pencampwriaethau Cwpan y Byd yn ty ni yn ystod gwyliau'r haf. Roedd pawb yn cael dau dîm - er 'dwi byth yn cofio gorfod chwarae yn erbyn fi fy hun - a roedd oriau o baratoi cyn dechrau chwarae.

Roedd angen troi tîm Lerpwl yng Ngwlad Belg neu Cymru, roedd Bob Latchford ac Andy Gray o dîm Everton yn trawsnewid i fod yn Paolo Rossi a Claudio Gentile a roedd angen perswadio fy mrawd bach fod Saudi Arabia yn dîm da ac eu bod nhw'n chwarae yn lliwiau Celtic!!
Yna, wedi tynnu'r enwau allan o'r het, roedd angen smwddio'r maes a defnyddio sellotape i'w sticio i'r bwrdd yn y dining room. Byddai'n cymryd tua awr i osod yr eisteddle a'r holl gefnogwyr (a hyd yn oed yn fwy os oedd y ci yn neidio yn erbyn y bwr!) cyn chwilota trwy drôrs y gegin i chwilio am fatris ar gyfer y llif oleadau.

Yna ... roeddem ni'n gallu dechrau chwarae ...!

Observer

Mam Robinho'n rhydd

17.12.04
Mae Marina de Souza, mam ymosodwr talentog clwb Santos, Robinho, wedi ei rhyddhau fore Gwener.
Roedd hi wedi ei dal yn wystlon am 40 diwrnod.

Football Guardian

Y Barri'n ddi-gartref?

16.12.04
Mae'n debyg fod Y Barri yn mynd i orfod gadael Parc Jenner gan fod y cyngor eisiau codi rent o £42,000 y flwyddyn ar y clwb.
£42,000?? Mae Wrecsam yn cwyno fod £30,000 y flwyddyn o rent yn afresymol heb son am glwb sydd yn chwarae o flaen torfeydd yn eu degau yn hytrach nag yn eu miloedd!

BBC Cymru'r Byd

Rhosyn ymysg y drain

Mae clwb pêl-droed Celeya ym Mecsico wedi arwyddo merch i chwarae ym mhrif adran Mecsico.
Yn ôl Fifa, cymdeithas bêl-droed Mecsico fydd yn penderfynu os bydd Maribel Dominguez - sydd wedi sgorio 42 gôl mewn 43 ymddangosiad i dîm merched cenedlaethol Mecsico - yn cael chwarae yn y gynghrair.

BBC Online

Go home!

Mae Uefa yn ceisio cyfyngu'r nifer o dramorwyr sydd yng nghlybiau pêl-droed Ewrop.
Byddai'r rheolau newyd yn golygu bod rhaid i bob clwb gael uchafswm o 25 chwaraewr - gyda pedwar ohonynt wedi dod i fyny o dimau ieuenctid y clwb.
Byddai'n rhaid i bedwar chwaraewr arall fod wedi dod i fyny trwy dimau ieuenctid o fewn yr un gymdeithas bêl-droed.
Mae hyn yn golygu bydd llawer llai o Saeson yn cael chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ac fe all fod yn hwb i bêl-droedwyr ifanc Cymreig.

BBC Sport

Dim soccer ydi'r gair!

Mae Cymdeithas bêl-droed Awstralia am newid eu henw o'r Australian Soccer Association i'r Football Federation Australia.
Daw'r penderfyniad er mwyn defnyddio'r un enw a gweddill y byd meddai pennaeth yr ASA.
Wel dim ond America a de Cymru sydd ar ôl i'w perswadio bellach

Reuters

Dim awyrenau

Mae chwaraewyr Caerwysg wedi eu gwahardd rhag gwneud 'stumiau hedfan awyren os ydynt yn sgorio yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr.
Mae Caerwysg wedi eu noddi gan gwmni awyren Flybe ac maent yn rhoi £1,000 i unrhyw chwaraewr sydd yn gwneud 'stumiau hedfan ar ôl sgorio, ond mae cefnogwyr Manchester United yn poeni fod hyn yn amharchus i'r rhai bu farw yn namwain awyren Munich ym 1958.

Football Guardian

Sawl gêm?

15.12.04
Roeddwn i'n credu mod i'n gwneud yn dda i wylio cymaint o gemau mewn tymor, ond mae David Barber sydd yn 'sgwennu colofn i safle we Cymdeithas Bêl-droed Lloegr eisoes wedi gweld 94 gêm tymor yma!

Os 'dwi'n cyfri gêm y King's Arms v Marquis Rhosybol, 'dwi wedi gweld 26 gêm hyd yma tymor yma.

TheFA.com

Scum, Scum, Scum, Scum

13.12.04
Yda chi'n gwybod o lle mae'r gair scum yn dod? Wel, mae Ian Ridley, yn ei erthygl am elyniaeth rhwng clybiau pêl-droed yn yr Observer ddoe, yn gwybod.
Mae cefnogwyr Portsmouth yn galw cefnogwyr Southampton yn scum oherwydd i streic yn noc Portsmouth gael ei dorri gan aelodau o'r South Coast Union Men o Southampton.

Difyr, de?

Observer

Rooney'n ennill gwobr

Mae Wayne Rooney wedi ei ddewis yn chwaraewr gorau dan-21 yn Ewrop. Mae'r wobr yn dod gan bapur newydd Tuttosport yn Yr Eidal, oedd wedi holi 30 o newyddiadurwyr.
Mae'r papur yn gobeithio fydd y wobr yn cael ei hystyried fel fersiwn ifanc Chwaraewr y Flwyddyn Ewropeaidd.

Sporting Life

Gosod cynsail peryglus

Bu rhaid i Real Madrid wagio Stadiwm y Bernebeau cyn diwedd eu gêm â Real Sociedad neithiwr wedi papur newydd yng Ngwlad y Basg dderbyn rhybudd gan ddyn oedd yn honni ei fod yn rhan o'r grwp terfysgol, ETA.

Wrth gwrs mae hyn yn creu cynsail peryglus wrth i unrhyw granc allu creu trafferthwch lu wrth ffonio â bygythiadau bomb os yw eu tîm yn colli, neu hyd yn oed os ydynt am weld timau eraill yn cael eu trafferthu.
Mae'n anodd iawn gwybod beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau - cafwyd galwad yn rhybuddio am ddyfais ffrwydrol cyn gêm Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr ddwy flynedd yn ôl.
Penderfynodd Real ac Uefa mai peidio ildio i'r terfysgwyr fyddai'r peth gorau ac aeth y gêm yn ei blaen.

Football Guardian

Soccer Spain

Trafferth ym Mrasil

Yn ôl adroddiad gan Reuters roedd 'na cryn dipyn o ymladd rhwng cefnogwyr clybiau pêl-droed Brasil dros y Sul, ond hefyd roedd cryn dipyn o gefnogwyr am gosbi perfformiadau sal eu tîm eu hunain.
Mae'r linnell yma yn yr adroddiad yn creu darlun swrea iawn:
Police in Sao Paulo said they had apprehended around 200 flip-flops which Palmeiras fans had intended to throw at their own team

Reuters

Amser od am gerdyn coch?

12.12.04
Cafodd Diego ei hel o'r maes yn ystod y ciciau o'r smotyn ar ddiwedd y gêm yn ystod Cwpan Clybiau'r Byd rhwng Porto a CD Once Caldas o Colombia yn Yokohama heddiw!

'Dwi wedi clywed am ddyfarnwyr yn gyrru chwaraewyr o'r maes yn ystod yr egwyl neu hyd yn oed cyn i'r gêm ddechrau, ond erioed yn ystod y ciciau o'r smotyn.
Yn ôl pob sôn, ei drosedd oedd gwawdio golwr wedi iddo sgorio!

uefa.com

Ronaldinho yn ennill

10.12.04
Ronaldinho sydd wedi ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn 2004 gan gylchgrawn World Soccer. Mae'r gwr o Frasil wedi bod yn allweddol yn llwyddiant Barcelona wrth i'r tîm o Gatalunya gyrraedd Cynghrair y Pencapwyr tymor diwethaf ac yna esgyn i frig La Liga ers dechrau tymor yma.

World Soccer

Holi cyn gyfarwyddwr Wrecsam

9.12.04
Cafodd cyn gyfarwyddwr â Chlwb Pêl-droed Wrecsam ei holi ynghylch lladrad arian gasglwyd wrth y giât yn y gêm rhwng Wrecsam a Swindon.
Mae sibrydion lu wedi bod o gwmpas Wrecsam ers misoedd bod tua £20,000 wedi ei ddwyn a chafodd Bill Wingrove, neu 'Bungalow Bill' fel mae'n cael ei alw gan gefnogwyr y Dreigiau, ei holi gan yr heddlu dros y Sul. Mae wedi ei ryddhau ar fechniaeth.
"I was about to go to the police about the rumours, so they could investigate them, and put a stop to what is being said."

... erm, ia wrth gwrs, Bill.

icNorthWales

Y ddau Corea arwahan

Mae'r enwau wedi dod allan o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol olaf Cwpan y Byd 2006 yn Asia ac mae'r ddau Corea wedi eu cadw arwahan. Bydd y Gogledd yn yr un grwp â Siapan, Iran a Bahrain tra bo'r De yn yr un grwp â Saudi Arabia, Uzbekistan a Kuwait.

Bydd y ddwy wald ar frig y ddau grwp yn mynd drwodd i'r Almaen gyda'r ddwy wlad yn y trydydd safle yn cael gêm ailgyfle i benderfynnu pwy fydd yn herio tîm o Ffederasiwn CONCACAF (Gogledd a Chanol America a'r Carîbî) am le yn yr Almaen ... a roeddem ni'n meddwl fod Cymru'n ei chael yn anodd!

Football Asia

Dim ffordd i Ewrop

Mae Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe yn ceisio dwyn perswâd ar Uefa i adael y tri gystadlu yn Ewrop trwy ennill Cwpan Cymru neu'r Cwpan Cenedlaethol.
Mae'r clybiau wedi cael cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr na fyddent yn cael chwarae yn Ewrop hyd yn oed petaent yn ennill Cwpan FA Lloegr, Cwpan y Gynghrair neu gorffen yn y chwe safle uchaf yn yr Uwchgynghrair.
Dywedodd David Rhodes, sydd yn cynrychioli'r tri clwb ar fwrdd y Cwpan Cenedlaethol:
"Suddenly it is there in black and white - Cardiff, Swansea and Wrexham have no European avenue open to them, either in Wales or England.
That could ultimately lead to a potential restraint of trade court action (against UEFA)."

ic Wales
ac
ic Wales

Cefnogwyr meddw ...

8.12.04
Dros y Sul diflannodd crysau amhrisiadwy o'r Vetch - crysau o ymddangosiad Abertawe yn Wembley ym 1994 ac o'r tymor llwyddodd y Swans i ennill y Drydedd Adran yn ogystal â chrys o glwb Steaua Bucharest.

Roedd y crysau wedi eu fframio ac ar ddangos yn ystafell y llywydd.

Erbyn heddiw ymddengys mai dau gefnogwr y Swans oedd wedi meddwi sydd yn gyfrifol am y lladrad ac eu bod wedi ffonio'r clwb i ymddiheuro ac i ddychwelyd y crysau - dim byd i wneud â'r ffaith fod y lladrad wedi creu stwr a hanner yn Abertawe mae'n siwr!

This is south Wales

Y Bergkamp Cymreig?

Mae Joey Jones wedi gwrthod cymryd swydd â thimau ieuenctid Cymru gan ei fod ofn hedfan.

"I never liked flying when I was a player, but somehow just about put up with it because it was my job.

"I decided, the moment I finished playing, that I wouldn't fly any more.

icWales

I orwedd mewn preseb ...

Mae Madame Tussauds o dan y lach am greu golygfa'r geni yn eu amgueddfa yn Llundain gyda David Beckham fel Joseff a Victoria 'Posh Spice' Beckham fel y Forwyn Fair.

A spokesman for Archbishop of Canterbury Rowan Williams, spiritual leader of 70 million Anglicans worldwide, reacted with weary resignation to the "Posh and Becks" tableau.

"There is a tradition of each generation trying to re-interpret the nativity but, Oh Dear..," he said.



Reuters

Nei di arwyddo hwn plis?

Mae dyfarnwr yng Nghynghrair Lloegr wedi ei geryddu am ymweld â'r ystafell newid cyn y gêm rhwng Sunderland a West Ham er mwyn gofyn am lofnod Teddy Sheringham!

Football Guardian

Mastermind

7.12.04
Cefnogwr pêl-droed enillodd Mastermind 2004 wrth ateb cwestiynau ar Rowndiau Terfynol Cwpan FA Lloegr.
Yn y rowndiau blaenorol roedd wedi ateb cwestiynau ar y pynciau Rowndiau Terfynol Ewrop a Thîm Lloegr ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Pa mor dda fydde chi wedi gwneud?

Who was the last English-born manager to win the FA Cup?

Which Brighton fanzine's title reflects a miss near the end of the 1983 final when Brighton were drawing 2-2 with Manchester United?

Who finished on the losing side in four FA Cup finals between 1985 and 1992?

Whose pass did Ricky Villa pick up at the edge of the penalty area before weaving his way through the Manchester City defence to score Spurs' winner in the 1981 replay?

The Independent

Tîm gwaethaf Ewrop?

6.12.04
Er i Hansa Rostock gael dechrau trychinebus i'r tymor, llwyddodd y clwb o ddwyrain yr Almaen i sicrhau na fyddent yn mynd i fewn i'r llyfrau hanes wrth sicrhau gêm gyfartal ag Arminia Bielefeld dros y Sul.
Mae hyn yn golygu na fyddent yn cymryd lle Tasmania Berlin fel tîm gwaethaf y Bundesliga - Pwy? Tasmania pwy? Wel, mae erthygl ddifyr ar ESPN yn egluro'r cwbwl.

ESPN

Dim chwyldro Cymreig

Roedd bwrdd Uwchgynghrair Cymru yn cyfarfod ddoe i drafod syniadau ar sut i wella safon y gynghrair. Ymysg y syniadau ger bron y bwrdd oedd chwarae yn ystod yr haf a rhannu'r gynghrair yn rhanbarthol ... ond ni chafwyd yr u penderfyniad chwyldroadol.

Yr unig benderfyniadau werth sôn amdanynt oedd creu cynghrair dan-21 i'r gogledd a'r de i gychwyn tymor nesaf, a'r penderfyniad i ganiatau clybiau i ddefnyddio meysydd artiffisial.

Welsh Premier.com

Trasiedi yn India

Bu farw ymosodwr clwb Dempo, Cristiano Junior, ar y maes wedi sgorio ail gôl ei glwb yn rownd derfynol Cwpan Ffederasiwn India yn erbyn Mohun Bagan.

Football Asia

Ouch!

Mae chwaraewr pêl-droed o'r Swistir wedi colli ei fys wrth ddathlu gôl.
Neidiodd chwaraewr canol cae Servette, Paulo Diogo, ar y ffens o gwmpas y maes wedi iddo greu gôl i'w glwb, ond cipiodd ei fodrwy yn y ffens ac wrth neidio yn ôl i'r maes, gadawodd ei fys ar ôl.

Ar ben hyn, cafodd gerdyn melyn gan y dyfarnwr am ddathlu'n ormodol!

Reuters

Halen yn y briw

Mae Scunthorpe, drechodd Wrecsam nos Wener, wedi dod allan o'r het i chwarae Chelsea yn Stamford Bridge yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

theFA.com

Llyfrau'r flwyddyn

5.12.04
Mae tri llyfr pêl-droed ar restr o 10 llyfr chwaraeon gorau'r flwyddyn yn yr Independent.
100 Years of Football: the Fifa centennial book, White Angels ac Abramovich.

The Independent

Ffoniwch dros Wrecsam!

Gallwch chi helpu i achub Clwb Pêl-droed Wrecsam drwy ffonio:
0904 043 5000

£1.50 fydd cost galwad o ffôn sefydlog, a bydd £1.07 o hynny’n mynd tuag at ymgyrch Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i achub y clwb a’r Cae Ras, ac yn cael ei ychwanegu’n otomatig at eich bil ffôn.

Gall cost galw o ambell rwydwaith fod yn wahanol.
Cofiwch ofyn caniatâd y sawl sy’n talu’r bil.



WST

Vorsprung durch technik

Yn ôl y Wales on Sunday, mae John Hartson mewn trafodaethau â Hertha Berlin o'r Bundesliga. Wedi gweld y penawd 'Hartson linked to Bundesliga giants' mae'n rhaid i mi gyfaddef mai nid Hertha oedd y tîm llamodd i'r meddwl!

ic Wales

David Conn yn ei deud hi ...

4.12.04
Mae David Conn yn yr Independent yn un o'r newyddiadurwyr chwaraeon gorau sydd yn 'sgwennu ar hyn o bryd, ac mae ei golofn pêl-droed wythnosol yn yr Independent yn werth ei ddarllen.

Wythnos yma, Freddy Shepherd, cadeirydd Newcastle United, sydd o dan y lach am iddo ddweud nad yw'n poeni am y clybiau bach.

Gyda thrafferthion Wrecsam yn amlwg i ni yng Nghymru mae rhywun yn teimlo'n reit chwerw am hyn. Dwi'n cofio Newcastle yn ei chael hi'n anodd yn yr ail adran gyda torfeydd llawer, llawer is na'r hyn sydd yn mynychu Parc St James dyddiau yma - a tydi hynny ddim mor hir â hynny yn ôl.

"Just a fortnight ago, Newcastle's annual report revealed that Shepherd and Hall, the club's main directors, were being paid massively by Newcastle. Shepherd's salary package last year was over £717,000, while Hall's was more than £635,000."

Independent

Wehey ... boo hoo

Wehey
Cafodd CPD Wrecsam ei osod yn nwylo'r gweinyddwyr ddoe ac allan o grafangau Alex Hamilton (blogdroed passim)

Boo hoo
Mae'r clwb yn colli 10 pwynt o'r herwydd

Wehey
Mae sôn bod prynnwr newydd wedi dod i'r amlwg yn y 24 awr diwethaf

Boo hoo
Yn y cyfamser mae'r clwb wedi disgyn allan o Gwpan FA Lloegr wedi colli yn Scunthorpe neithiwr

BBC Cymru'r Byd
Football Guardian

Crysau-T

Mae erthygl ddifyr gan Harry Pearson yn y Guardian hediw am y 'traddodiad' o bêl-droedwyr yn 'sgwennu negeseuon ar grysau-T er mwyn eu dangos ar ôl sgorio.


"At the behest of the organisation Athletes For Christ devout Brazilian goalscorers began broadcasting the good news by pulling off their shirts to reveal snippets of useful advice from the Bible (Love thy neighbour, don't eat cormorants, that kind of thing)."

Football Guardian

Enwog!

Mae eich awdur yn enwog o'r diwedd



Duw â wyr pam mai fi gafodd wahoddiad i egluro'r sefyllfa ar y Cae Ras!

Calendars

2.12.04
Mae merched Clwb Hoci Croesoswallt wedi gwneud calendr noeth i godi arian at ymchwil cancr y fron. Does gan hyn ddim byd i wneud â phêl-droed ond mae'n rhoi esgus i mi roi lluniau o fy hoff galendar - calendar tîm pêl-droed merched Awstralia - Y Matildas.


Y Matildas

Miss Mehefin - Amy Taylor

icNorthWales
Matildas

Dyfyniad y dydd

"We reject racism and xenophobia and we will show it. I will propose that my players paint their faces black for our next home match"

Syniad llywydd clwb Getafe, Angel Torres i ail greu'r Black & White Minstrel Show a phrofi (?) nad oes hiliaeth ym myd pêl-droed Sbaen.

Penblwydd Panenka

Mae Antonín Panenka, o'r Weriniaeth Siec, yn 48 heddiw. Mae Panenka yn enwog am daro cic o'r smotyn powld heibio Sepp Maier yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop 1976.
Pam bo hyn yn fy mlog medde chi, wel dim rheswm ond fy mod wedi canfod safle 'Heddiw mewn hanes' Uefa.

Mae modd mynd yn ôl trwy'r flwyddyn (ond ddim ymlaen o'r diwrnod presennol) i chwilio am yr hyn ddigwyddodd ar eich penblwydd chi.

Heddiw mewn hanes - Uefa

Eliffant y bobol

Mae clwb Enyimba o Nigeria, sydd â'r llysenw 'Eliffant y Bobol', wedi cyrraedd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Affrica lle fyddent yn herio Etoile Sahel o Tunisia.

Mae Enyimba yn ceisio bod y clwb cyntaf erioed i amddiffyn eu coron Pencampwyr Affrica.

Fifa

Llwyth o Tosh

Mae John Toshack wedi cael gwared â thimau hyfforddi timau ieuenctid Cymru er mwyn penodi Brian Flynn, Alan Curtis a Joey Jones.
Mae Joey yn arwr anferthol i mi, ond rwy'n credu fod Toshack wedi gwneud hyn am y rhesymau anghywir.

Dwi'n credu iddo weld Hodges, Blackmore, Rush, Aizlewood a Ratcliffe fel bygythiad i'w swydd. Mae'r timau rheoli yma wedi cael rhai o ganlyniadau gorau yn hanes timau ieuenctid Cymru, a dyma'r diolch maent yn gael gan Toshack.

BBC Cymru'r Byd

Mwy am Wrecsam ...

Y Guardian yw'r diweddaraf o'r trymion i sôn am drafferthion Wrecsam, er eu bod yn parhau â'r camgymeriad gododd y Mail on Sunday am gyflog Darren Ferguson.

Football Guardian

Catherine i brynu clwb?

1.12.04
Mae sôn bod Catherine Zeta Jones eisiau prynu CPD Llanelli. Mae'r cochion ar werth am £350,000 ar hyn o bryd - pres poced i Mr a Mrs Douglas.

Ananova

Diolch i Sion ar alcoflog

Trechu'r hen elyn

Woooohooooooo!
Caer 0-1 Wrecsam
Mae'n saith mlynedd ers i Wrecsam a Chaer herio eu gilydd ac mae trechu'r tîm dros y ffin a chyrraedd rownd gynderfynol Tlws yr LDV yn felys iawn!

Evening Leader