Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Padding i'r pen? Pam?

29.11.04
Mae rhai cynghreiriau i'r ifanc yn America yn mynnu bod chwaraewyr yn gwisgo gwregys arbenig ar eu pennau er mwyn arbed anafiadau wrth benio'r bêl.

Syniad boncyrs os 'da chi'n gofyn i mi.



Houston Chronicle
Full90

Gormod o frechdanau prawns

Yn ôl arolwg gan yr Observer mae cefnogwyr tri o glybiau'r Uwchgynghrair yn Lloegr yn talu dros £1,000 am docynnau tymor ac mae'r cefnogwyr traddodiadol yn cael eu gwasu allan o'r gêm wrth i'r clybiau chwilio am y cefnogwyr cefnog.

Mae Arsenal wedi clustnodi 7,000 o seddi yn eu stadiwm newydd yn Ashburton Grove ar gyfer pobl sydd yn fodlon talu rheng £2,500 a £4,750. Y gred yw mai dyma'r seddi mwyaf drud yn y byd.

Observer

Bygythiad i Mourinho

Yn ôl ei hunangofiant, cafodd Jose Mourinho fygthiad i'w fywyd cyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr llynedd.

On the other end of the line, there quickly came a death threat linked to my arrival back in Oporto. “You think you’re the best . . . you bastard . . . we won’t do anything now because you have a final to play tomorrow, but as soon as it’s over, consider yourself a dead man, because we’ll get you, and as soon as you get back to Oporto your fate is sealed. You don’t have a chance . . .”

Times On-line

Chwaraewr y Flwyddyn Fifa

Mae'r rhestr fer ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn Fifa wedi ei gyhoeddi, ac eleni bydd capteiniaid pob tîm rhyngwladol yn cael pleidleisio yn ogystal â'r rheolwyr.

Nid oes yr un o'r tri ar y rhestr fer; Thierry Henry, Ronaldinho ac Andriy Shevchenko, wedi ennill y wobr o'r blaen. Mia Hamm, Marta a Birgit Prinz sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr y merched.

Fifa
BBC Sport - Zidane yn cipio gwobr Chwaraewr y Flwyddyn 2003

Thermos head ...??

'The Thermos-head got cross because of my hand-goal. What about the other one, Shilton, didn't you see that one? He didn't invite me to his testimonial ... oh, my heart bleeds! How many people go to a goalkeeper's testimonial anyway? A goalkeeper's!'

Tydw i ddim yn siwr os dylai'r dyfyniad uchod, sydd yn dod o hunangofiant Diego Maradona ffendio'i ffordd i fy rhestr o ddyfyniadau difyr.
Pam ddiawl mae o'n galw Peter Shilton yn Thermos-head?

amazon.co.uk - El Diego

"Roeddwn i'n hiliol ... ond ..."

28.11.04
Mae erthygl ddifyr yn yr Observer heddiw gyda chefnogwr Millwall sydd yn honni fod pêl-droed wedi agor ei lygaid ac wedi ei droi yn erbyn hiliaeth.
Mae disgrifio cefnogwyr Millwall fel hwliganiad hiliol yn ystradebol tu hwnt ac yn annheg â'r clwb gan eu bod yn arloesol gyda phrosiectau cymunedol a chynlluniau gwrth hwliganiaeth.

Mae'r erthygl hefyd yn trafod profiadau'r comediwr, Kevin Day, cefnogwr Crystal Palace. Roedd Day yn aelod o'r National Front yn ei arddegau, ac ym 1983 'sgwennodd sioe ar gyfer Gwyl Caeredin o'r enw 'I Was A Teenage Racist'

'I remember one exchange,' he says, 'between a big, pot-bellied skinhead, who shouted out to John Barnes, a beautiful black man, "Why don't you fuck off back where you came from?" Someone turned to this bloke and said to him, "He's just come from our penalty area, so don't be telling him to go back there ".'
Observer Sport

Y Brenin, Jeff Stelling

Yn ei golofn yn yr Independent, mae Adrian Chiles yn son am y raglen bêl-droed orau ar y teledu - Soccer Saturday.
Nid oeddwn yn gallu mynd i gêm brynhawn ddoe am y tro cyntaf tymor yma, a bu rhaid i mi ddioddef cymysgedd o Radio Cymru a Jeff Stelling ar Sky, ac fel mae Adrian Chiles yn egluro, mae'r tensiwn o wylio gêm gyda Jeff bron cymaint â bod yno eich hun, ac mae'r boi yn llawn dop o ffeithiau dibwys.

In conversation with Jeff, though, you quickly realise that the minutiae of the game are coursing through his veins: "Any big mistakes?"

"Kenny Deuchar of Gretna. I got into trouble for mispronouncing his name.

"Interesting chap. He's a doctor - can't play every week. Scored five on Saturday."
Independent Online

Ariannin i helpu Cuba

Mae'r Ariannin yn gobeithio defnyddio rhai o brif hyfforddwyr pêl-droed y wlad i ddatblygu'r gêm yn Cuba.
Arwyddodd Claudio Morresi, Gweinidog Chwaraeon yr Ariannin, gytundeb i gydweithio â'r ynys yn y Carîbî.

Mae Cuba eisoes allan o Gwpan y Byd 2006 wedi colli yn erbyn Costa Rica ond llwyddodd y wlad i gyrraedd rownd yr wyth olaf ym 1938 cyn colli 8-0 yn erbyn Sweden.

Wrth gwrs, mae'r ffaith fod Diego Maradona yn byw ar yr ynys yn siwr o fod wedi helpu!

Fifa World Cup 2006 - Cuba
diegomaradona.com

Canaries Dre

Wrth syrffio'r we bore 'ma, rwyf wedi dod o hyd i safle we gymharol newydd gan gefnogwyr Caernarfon Town.

Mae'r safle'n llawn hanes a lluniau timau Caernarfon ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys hanes Carnarvon Wanderers gollodd 10-1 yn erbyn Stoke City yng Nghwpan FA Lloegr ym 1886.

Canaries Dre

Futsal

26.11.04
Mae Cwpan Futsal y Byd y mynd yn ei blaen yn Chinese Taipei ar hyn o bryd, ond nid oes llawer o bobl yng Nghymru yn gwybod beth yw Futsal.
Pêl-droed 5-pob-ochr yw Futsal ac mae'n hynod o boblogaidd ar gyfandir Ewrop ac yn Ne America. Mae nifer o dimau a chyngrheiriau proffesiynol yn nwyrain a chanol Ewrop lle mae chwaraewyr yn chwarae Futsal pan fo pêl-droed yn cael torriad oherwydd y gaeaf.

Mae gan Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon dimau, er nad ydynt yn dimau da iawn - cafodd Lloegr grasfa 24-1 gan Bortiwgal ac 18-4 gan Hwngari fis diwethaf - ond nid oes son am dîm o Gymru

Fifa Futsal 2004
Futsal Planet

Ennill ar goliau cartref oddi cartref

Llwyddodd Al Jaish, tîm y fyddin yn Syria, i ennill Cwpan yr AFC wedi iddynt drechu Al Wahda ar goliau oddi cartref dros ddwy gymal y rownd derfynol.
Dim byd arbennig am hynny, medde chi, tan i rhywun sylweddoli fod Al Wahda hefyd yn dod o Syria. I fod yn fwy manwl, mae'r ddau dîm yn hanu o Damascus, yn wir, mae'r ddau dîm yn rhannu stadiwm!
Felly llwyddodd Al Jaish i ennill ar goliau oddi cartref er fod y ddwy gymal wedi eu cynnal yn yr un stadiwm - Styadiwm Al Abbassiyyin yn Damascus!

Football Asia

Problemau'n Israel

Tra bo hiliaeth ym myd pêl-droed yn cael lot fawr o sylw yn y papurau newydd, mae problem arall o bêl-droed y 70au ac 80au ym Mhrydain wedi codi ei ben yn Israel.

Cafwyd ymladd rhwng cefnogwyr Maccabi Haifa a Maccabi Tel Aviv ddydd Sadwrn ac yna ymosododd gefnogwyr Betar Jerusalem ar gapten Maccabi Haifa, Arik Benado wedi gêm gwpan rhwng y ddau glwb yn ystod yr wythnos.

Daeth hyn wedi gefnogwyr Betar ymosod ar chwarewyr eu clwb eu hunain yn ogystal â chwaraewyr Upper Nazareth

Betar's fans vented their anger after their club's 4-3 loss to bottom club Upper Nazareth. They placed the dressing rooms of both clubs under siege before local police guided the Nazareth players to their bus.

Football Guardian

Evans above

Mae John Toshack wedi penodi cyn reolwr Lerpwl, Roy Evans, fel ei is-reolwr â Chymru.
Mae'r ffaith fod o wedi dewis dyn sydd heb fod ynghlwm â phêl-droed ers tair lynedd yn syrpreis ond o leiaf mae gan Evans brofiad.
Y gwr arall i gael ei benodi yw cyn is-reolwr Toshack yn Real Sociedad, Salva Iriarte.
Yn amlwg mae gan Iriarte a Tosh berthynas dda, ond tydi'r gwr o wlad y Basg ddim yn debygol o wybod llawer am bêl-droedwyr Cymru.

BBC Cymru'r Byd

here Weah go ...

24.11.04
Mae George Weah eisiau bod yn arlywydd Liberia yn ôl yr asiantaeth newyddion, Reuters.
Mae Weah y hynod boblogaidd yn ei famwlad fel yr unig berson enwog sydd wedi dod o'r wlad yn y blynyddoedd diweddar.
Yn ogystal â rheoli a chwarae i'r tîm cenedlaethol, roedd Weah yn talu costau teithio'r tîm, yn talu cyflogau'r chwaraewyr ac yn talu am wisg i'r tîm am flynyddoedd maith.

Reuters

Cymhlethdod yr MLS

Mae dau glwb newydd yn cychwyn yn yr MLS tymor nesaf, Club Deportivo Chivas USA yn Los Angeles a Real Salt Lake yn Salt Lake City.
Roedd y clybiau newydd yn cael dewis 10 o chwaraewyr yr un o'r 10 clwb presennol yn yr MLS wythnos diwethaf - yr hyn mae'r MLS yn alw yn MLS Expansion Draft!
Dychmygwch Norwich, West Brom neu Crystal Palace yn cael dewis chwaraewyr o Man Utd, Arsenal neu Lerpwl ar ddechrau'r tymor yn Lloegr.
Ar ben hyn oll, mae CD Chivas wedi dewis bachu yr ymosodwr, Arturo Torres, o'u cymdogion yn LA, y Los Angeles Galaxy!

MLS Expansion Draft
CD Chivas USA
Real Salt Lake

O'Neill yn creu stwr

Mae Martin O'Neill wedi creu stwr yn Glasgow rhwng cefnogwyr Celtic a Rangers.
Rwy'n ymwybodol iawn nad oes angen llawer i greu ffrae rhwng y ddau gafan arbennig yma o gefnogwyr ond ymddengys fod O'Neill yn honni fod Neil Lennon wedi dioddef bloeddio sectarian gan dorf Rangers yn ystod derby'r Old Firm dros y Sul.

Glasgow Herald

Camgymeriad gan Uefa?

Mae Ffederasiwn pêl-droed Twrci wedi gorfodi Besiktas i chwarae tair gêm tu ôl i ddrysau cauedig wedi cefnogwr 16-mlwydd-oed gael ei drywanu i farwolaeth yn ystod gêm yn y stadiwm ddydd Sul.
The federation's board "stressed that anarchy in the stands, the biggest problem in Turkish football, threatened lives and the future of football."

A dyma lle mae Uefa wedi dewis cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2004/05.

Football Guardian

Clybiau'n helpu Caerwysg

23.11.04
Mae clwb pêl-droed Exeter City wedi cael hwb wedi 13 o glybiau gytuno i anghofio arian oedd yn ddyledus iddynt gan y Grecians.

BBC Sport

No Comment

Mae Alex Ferguson wedi penderfynu nad yw am siarad efo'r BBC byth eto. Roedd Ferguson wedi gwylltio efo'r BBC am rhaglen ddogfen oedd yn ymchwilio cysylltiadau rheng Manchester United ac asianatau pêl-droed, gan gynnwys ei fab, Jason, ac o'r herwydd wedi gwrthod siarad â'r gorfforaeth ers ddechrau'r tymor.
Erbyn hyn nid yw am wneud unrhyw gyfweliad â'r beeb byth eto.

Football Guardian

Diolch ... o waelod calon

22.11.04
Dyma restr o gefnogwyr gwahanol glybiau oedd ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn:
Abertawe
Amwythig
Arsenal
Aston Villa
Bangor City
Blackburn Rovers
Bolton Wanderers
Brighton & Hove Albion
Bristol City
Burnley
Bury
Caer
Caerdydd
Caernarfon Town
Celtic
Crystal Palace
Derry City
Doncaster Rovers
Darlington
Derby County
Derwyddon Cefn
Everton
Grimsby Town
Hartlepool United
Huddersfield Town
Ipswich Town
Kansas City Chiefs
Leeds United
Leicester City
Lincoln City
Lerpwl
Luton Town
Mansfield Town
Manchester City
Manchester United
Middlesborough
Millwall
Newcastle United
Northampton
Preston North End
Plymouth Argyle
QPR
Southampton
Southend
Stockport County
Stoke City
Sunderland
Swindon Town
Telford United
Total Network Solutions
Tottenham Hotspur
Tranmere Rovers
Watford
West Bromwich Albion
Wolverhampton Wanderers
Wrecsam

56 o glybiau - gwych!
DIOLCH YN FAWR

Cefnogwyr o bob man

Er mwyn rhoi syniad o'r emosiwn oedd ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn, mae'n werth i pob cefnogwr pêl-droed ddarllen yr adroddiad o'r diwrnod ar negesfwrdd cefnogwyr Brighton.

Ar ddechrau'r gêm fe drodd fy mab 5-mlwydd-oed ataf i a gofyn "Dad, pam ti'n crio?" - roedd gweld cefnogwyr o phob math o dimau pêl-droed led led Prydain yn anhygoel.

North Stand Chat



A roedd clwb Brighton & Hove Albion yn hynod gefnogol hefyd. Am y tro cyntaf mewn degawdau ni chafwyd rhestr o'r timau ar dudalen ôl eu rhaglen swyddogol ddydd Sadwrn. Yn hytrach, fe gafwyd hyn:

Everyone connected with Brighton & Hove Albion understands what Wrexham are going through. We salute their loyal supporters.

Prynhawn emosiynol

20.11.04
Roedd yn brynhawn uffernol o emosiynol ar Y Cae Ras wrth i gefnogwyr pêl-droed led led Prydain ddod i ddangos eu cefnogaeth i CPD Wrecsam.
Roedd llond bys o gefnogwyr o Brighton, criw o Mansfield, Bolton, Telford, Sunderland, Lerpwl, West Brom, Caerdydd ac amryw o unigolion yn gwisgo crysau eu clybiau i'w gweld o amgylch y stadiwm a roedd hyd yn oed criw o gefnogwyr Caer wedi croesi'r ffin.
Roedd yn codi calon dyn i weld cymaint o gefnogwyr yn anghofio'r elyniaeth sydd yn bodoli rhwng clybiau er mwyn dangos mai mewn undeb mae nerth.

Bechod nad oedd rhai o gefnogwyr Bristol City yn gallu ymuno yn yr ysbryd wrth iddynt floeddio "Going bust, going bust, going bust" ac yna bwio'r holl gefnogwyr o wahanol glybiau oedd wedi dod i'r Cae Ras.

ic wales

Edrych tuag adref Mr Moffett

19.11.04
Mae David Moffett yn honni yn y Western Mail heddiw mai Manchester United yw'r unig gorff chwaraeon fyddai'n gallu gwerthu mwy o docynnau na thîm rygbi Cymru.

"How many other professional sporting bodies can boast an average attendance of more than 50,000 for their home games?

"Manchester United certainly. Newcastle United just about ..."

Petai Moffett wedi edrych tuag adref byddai wedi sylweddoli bod Cymru ar frig rhestr torfeydd pêl-droed Ewrop dros y pum mlynedd diwethaf, ond wrth gwrs ni fyddai am gyfaddef hynny - Prat!

ic wales

Trinidad drwodd

18.11.04
Llwyddodd ymosodwr Wrecsam, Hector Sam, i sgorio i Trinidad & Tobago nos Fercher wrth i'r Socca Warriors drechu St Vincent & Grenadines â chyrraedd rownd ragbrofol olaf CONCACAF ar gyfer Cwpan y Byd 2006.

FIFA

Cic Hosan

Mae un o selogion maes-e, Dewi Jones, wedi creu gêm ffantasi pêl-droed Gymraeg o'r enw Cic Hosan.
Wedi gêm ddi-sgôr yn eryn Amwythig mae Wrecsam yn gobeithio am well wedi'r tymor ddechrau dydd Sadwrn!

Cic Hosan

Ymddygiad gwarthus

Cafwyd ymddygiad gwarthus gan gefnogwyr Sbaen yn ystod eu gêm â Lloegr neithiwr. Roedd eu bloeddio hiliol a synnau mwnci pob tro roedd chwaraewr croenddu Lloegr yn cyffwrdd y bêl yn warthus. Roedd fel bod yn ôl yn y 70au.

Roeddwn i wir eisiau gweld chwarewr croenddu Lloegr yn sgorio neithiwr er mwyn gweld y cefnogwyr gwarthus Sbaeneg yn tagu.

Pan yn Serbia ar gyfer gemau Cymru dan-21 yn Novi Sad a'r prif dîm yn Belgrade yn 2002 roeddwn yn dyst i floeddio hiliol gan y dorf yn erbyn chwaraewyr croenddu Cymru, ond nid i'r fath raddau â neithiwr.

Ac i wneud pethau'n waeth, nid yw prif bapur pêl-droed Sbaen, Marca, yn crybwyll y sylwadau yn y papur heddiw.

Marca

BBC Football

Kick it Out

Noson ar ei chanfed

17.11.04
Llwyddodd Ali Daei o Iran i fod y chwaraewr cyntaf erioed i rwydo 100 gôl rhyngwladol heno wrth i Iran chwalu Laos 7-0.

Reuters

Tra bo Theodoros Zagorakis wedi llwyddo i ennill ei 100ed cap dros Wlad groeg yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Kazakhstan.

Reuters

Penderfyniad a-maze-ing

Mae cyn garchar y Maze yng Ngogledd Iwerddon i'w ddinistrio a stadiwm chwaraeon cenedlaethol i'w hadeiladu yn ei le.

Apart from the 30,000 seat showpiece arena, an international exhibition centre for showjumping events and rock concerts is also in proposals.

One of the jail’s controversial H-Blocks, where 10 republican hunger strikers died in 1981, is to be retained as well.

Irish Examiner

Nid yw'r penderfyniad yn un poblogaidd ymysg cefnogwyr pêl-droed Gogledd Iwerddon

Our Wee Country

Penalty? No wê!

Wedi'r dyfarnwr roi cic o'r smotyn i'r gwrthwynebwyr yn ystod gêm yn adran gyntaf Moldova, ceisiodd cadeirydd clwb Roso Floreni ladd y dyfarnwr trwy yrru drosto yn ei gar!

"Roso chairman Mihai Macovei drove onto the field and attempted to run over the referee several times."

CBS News

C'mon Lloegr

Bydd chwarter o boblogaeth Sbaen yn cefnogi Lloegr yn y gêm rhyngwladol rhwng y ddwy wlad ym Madrid heno, a mae erthygl ddifyr dros ben yn yr Independent yn egluro pam.

"Catalans will be taking an interest in tonight's Spain v England game in Madrid, they will be - most of them - supporting England. Should England score, the whole city will know about it. It happens every time, just as it does when Barça score a goal"

Independent Online

Merched yn y 'stafelloedd newid

Newyddion da i ohebyddion benywaidd pêl-droed Norwy - mae clwb Rosenborg Trondheim wedi eu ceryddu am beidio caniatau merched i fewn i'r ystafelloedd newid.

Reuters

Keepy Uppie

16.11.04
Wedi eich diflasu yn y gwaith - chwaraewch keepy uppie!

Super Kickups

Bang, pop ... goaaaal!

Mae clwb RAA Louviéroise o Wlad Belg wedi protestio am gôl Walter Baseggio ddaeth â chlwb RSC Anderlecht yn gyfartal yn y gêm rhwng y ddau glwb wythnos diwethaf.
Mae'r clwb yn dweud na ddylai'r dyfarnwr fod wedi caniatau'r gôl gan i'r bêl fyrstio cyn taro cefn y rhwyd yn ystod buddugoliaeth Anderlecht 2-1.

uefa.com

Hanes CPD Wrecsam

Mae erthygl ddifyr ar safle we newyddion gogledd orllewin Cymru'r BBC heddiw yn hel atgofion am hanes CPD Wrecsam.


BBC News Online

Ergyd i obeithion Trinidad

Mae Trinidad & Tobago angen gêm gyfartal yn erbyn St Vincent & Grenadines yn Port of Spain nos yfory er mwyn sicrhau eu lle yn y rownd olaf o gemau rhagbrofol CONCACAF.

Ond mae eu gobeithion wedi cael ergyd drom gyda'r newyddion bod ymosodwr Wrecsam, Hector Sam, yn chwarae wedi anaf i Stern John.


Trinidad Express

Mwy o sylw i Wrecsam

15.11.04
Mae mwy o sylw i Wrecsam a'r trafferthion oddi ar y cae gan bapurau trymion Llundain gydag erthygl yn y Times. Er mor falch ydw i o weld y problemau'n cael sylw, rwy'n flin nad yw'r trymion wedi cymryd diddordeb yn y stori cyn iddi gyrraedd yr unfed awr ar ddeg.
Efallai byddai sylw teilwng yn gynt wedi gweld mwy o bobl yn deall faint o dwyllo sydd wedi bod gan y perchennog, Mr Hamilton.

Times Online

Cwpan FA Lloegr

Tra bo sylw'r wasg wedi bod ar yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer ail rownd Cwpan FA Lloegr nos Sul, daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer trydydd Rownd Cwpan FA'r Merched fore Llun.

Mae dau dîm o Gymru yn dal i fod yn y gwpan - Caerdydd ac Adar Gleision Caerdydd.

TheFA.com

Cardiff City Ladies FC

Wrecsam ar Sky

Mae Sky Sports wedi dewis gêm Wrecsam â Scunthorpe yn ail rownd Cwpan FA Lloegr fel y gêm fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw.

O'r herwydd mae'r gêm wedi ei symud ymlaen i nos Wener 3 Rhagfyr gyda'r cic gyntaf am 1945 GMT ond yn bwysicach, o gofio sefyllfa bregus Y Dreigiau, fydd y clwb yn derbyn siec o £75,000 gan y cwmni teledu.

www.wrexhamafc.co.uk

Pwy ddiawl ydi Goleo VI?

Mae'r foment fawr wedi cyrraedd o'r diwedd ... dadorchuddio mascot Cwpan y Byd 2006.
Mae Goleo VI (am enw twp!) wedi ei gyflwyno i'r byd ar safle we swyddogol FIFA ers ddydd Sadwrn.


"He combines the looks of Lothar Matthäus, the elegance of Diego Maradona and the all-round ability of Oliver Bierhoff."

erm ... ia, siwr iawn ...

FIFA World Cup 2006

Groupies Pêl-droed

Mae erthygl ddifyr iawn yn y Guardian am fywyd fel groupie pêl-droed. Mae'r awdures yn sôn am ei phrofiadau rhywiol gyda nifer o chwaraewyr enwog o'r Uwchgynghrair - nid mewn modd kiss-and-tell ond yn hytrach i geisio tynnu sylw at meddylfryd y chwaraewyr a'r merched sydd yn eu dilyn.

"On one occasion I drove from London to Manchester to meet a United player in a hotel car park. He handed me a wad of cash to go and book a room ..."

Football Guardian

Mis mêl Hughes ar ben

Os yda chi'n darllen blogdroed yn rheolaidd, byddwch yn gwybod nad oes gennyf lawer o barch tuag at Mark Hughes, ac mae'n debyg bod nifer fawr o gefnogwyr Blackburn yn teimlo yr un fath erbyn hyn.
Mae ei driniaeth o Tony Parkes wedi bod yn warthus yn ôl John Rawling yn y Guardian.
"Hughes has to appreciate he is now the main man and is accountable for all his decisions, or his foray into club management might soon turn sour."

Football Guardian

Gêm fawr y penwythnos

Fel yr awgrymais ddydd Sadwrn, gêm fawr y penwythnos i mi oedd Y King's Arms v Y Marquis yng Nghwpan SOS Cyngrair Y Sul Gwynedd a Môn.



Ac yn nhraddodiad gemau Sunday Lîg, roedd dryswch dros y sgôr - llwyddodd Y King's i ennill unai 11-0 neu 13-0!

North Gwynedd & Ynys Môn Sunday League

E-gardiau

13.11.04
Mae nifer o egardiau i'w cael ar y we a rwyf wedi dod ar draws dau gasgliad o rai pêl-droed Cymreig.



ic wales
BBC Radio Cymru - Ar y Marc

Ewro 2012

Ydi, mae Ewro 2012 mor bell i ffwrdd bydd cytundeb John Toshack â'r FAW wedi dod i ben cyn i'r gemau rhagbrofol gychwyn, ond mae'r ras ar gyfer cynnal y gystadleuaeth wedi dechrau o ddifrif.

Mae Gwlad Groeg wedi dweud eu bod am geisio am y bencampwriaeth tra bo Romania wedi tynnu yn ôl o gynnig i gyd gynnal â Hwngari.


ESPN - Gwlad Groeg eisiau cynnal Ewro 2012

ESPN - Romania yn tynnu yn ôl

I fod yn hollol Frank

Yn amlwg nid yw newyddiadurwyr ananova yn ffans mawr o bêl-droed na'r comediwr Frank Skinner:
On June 12, we published a story saying that Frank Skinner was part of the 'Leicester City Three' who were cleared of rape allegations during a team trip to Spain's La Manga resort.
This should have read Frank Sinclair and we apologise unreservedly to Mr Skinner for any distress caused and are happy to put the record straight.

ananova

King's v Marquis

Gêm fawr y penwythnos i mi fydd King's Arms, Caergybi v Marquis, Rhosybol.
Mae fy mrawd ar bwyllgor tîm y King's felly fydda'i a'r mab yn picio i lawr i gaeau Millbank bore fory i wylio pêl-droed grass-roots go iawn.

A'i â'r camera efo fi ac ella y cewch luniau erbyn prynhawn yfory!

North Gwynedd & Ynys Môn Sunday League

Adrian Chiles yn cefnogi Wrecsam

Mae Adrian Chiles (cyflwynydd MOTD2) wedi 'sgwennu erthygl ddifyr dros ben am drafferthion Wrecsam yn yr Independent heddiw.
"If (Wrexham's plight)doesn't trouble you, if it doesn't gnaw away at you, then you're not fit to call yourself a football fan."

Independent Online

Hayes v Wrecsam

Mae gêm Wrecsam yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr yn fyw ar BBC Cymru'r Byd heddiw.

Hayes v Wrecsam ar BBC Cymru'r Byd

Pembridge yn ymddeol

12.11.04
Mae Mark Pembridge wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. Tydw i ddim yn credu ei fod yn gyd ddigwyddiad fod y cyhoeddiad wedi dod cwta hanner awr wedi penodiad John Toshack
Dwi'n credu fod amser Pembridge wedi dod i ben yr eiliad fod James Collins wedi torri drwodd i'r prif garfan - does yna ddim lle i ddau chwaraewr pengoch mewn un carfan!!

BBC Cymru'r Byd

Tosh di'r boi

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penodi John Toshack fel rheolwr newydd Cymru

Mae Tosh wedi bod yn reolwr ar Gymru o'r blaen, ond cerddodd allan ar y swydd wedi un gêm a 47 diwrnod.
Roeddwn i'n hoffi'r dyfyniad yn ystod cynhadledd y wasg pan ofynodd rhywun os oedd am aros yn y swydd tro hyn:
"Nid oes gennym gêm am dri mis, felly rwy'n siwr o aros am hirach na'r tro diwethaf."
BBC Cymru'r Byd

Roedd ni'n arfer chwarae ar wair ...

11.11.04
Mae Uefa wedi caniatau clybiau i osod meysedd plastig unwaith eto ac mae'n debyg fod nifer o glybiau Scandinafia, Rwsia a dwyrain Ewrop yn ystyried newid eu meysydd.

Dwi'n cofio meysydd Luton a QPR yn yr 80au cynnar gyda'r bêl yn bownsio'n ofnadwy o uchel.
'Dwi hefyd ag atgofion cryf o losgi fy mheng-liniau a fy nghoesau yn ofnadwy ar gae plastig Caergybi - 'state of the art' ar y pryd, ond bellach mae jyst yn 'state'!

Football Guardian

Ac wrth gwrs, roedd gan Terry Venables lyfr ar y pwnc ...

Diawled powld o dros y ffin

10.11.04
Fel tasa pethau ddim digon drwg ar gefnogwyr Wrecsam, mae rheolwr y clwb 'na o dros y ffin, Ian Rush, yn ceisio arwyddo dau, os nad tri, o'n chwaraewyr.

Fel bo gan y ddau ddiddordeb symud i'r ochr dywyll ...

Sky Sports News

Gabriel Batistuta arall ...?

9.11.04
Yda chi'n cofio'r urban myth fod Gabriel Batistuta yn siarad Cymraeg? Wel mae'n debyg mai'r Gabriel anghywir oedd pawb yn ei holi ...

www.manutdzone.com

Taith i Gaer yn yr LDV

6.11.04
Weheyy! Bydd pob ffan Wrecsam yn edrych ymlaen i'r gêm yn Nhlws yr LDV am unwaith wedi Wrecsam ddod allan o'r het i wynebu'r clwb 'na o dros y ffin.

BBC Sport Online

Wrecsam 'ar werth'

4.11.04
Mae rhywun yn ceisio achub CPD Wrecsam trwy ei werthu ar safle we ebay

www.ebay.co.uk

Wrecsam 2-0 Stockport

3.11.04
Wedi buddugoliaeth dros Stockport County, mae Denis Smith yn credu gall Wrecsam gipio Tlws yr LDV.
Roedd nifer o gefnogwyr neithiwr o'r farn bod rhaid i rywbeth fynd yn iawn ar y maes tymor yma gan ein bod yn dioddef cymaint oddi ar y maes!

BBC Cymru'r Byd