Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Y gêm olaf?

31.10.04
Wrecsam 2-2 Hull

Roedd y tîm yn amlwg yn awchu i chwarae pêl-droed yn hytrach na gorfod meddwl am yr holl broblemau oddi-ar y maes ddoe a chafwyd hanner awr agoriadol wirioneddol wych.
Cafwyd goliau gan Chris Llewellyn a Darren Ferguson i roi Wrecsam ar y blaen ac r ildio dwy gôl sâl, roedd pawb yn hapusach ddoe na maent wedi bod ers sbel.

Mae'r ddau gyd gadeiryddion, Dave Bennett a Dave Griffiths, yn ffyddiog bod modd achub y clwb ac er fod Alex Hamilton dal i berchen y maes a'r clwb, mae yna oleuni ar ddiwedd y twnel bellach.

Be sy'n mynd ymlaen?

29.10.04
Mae'r sefyllfa yn Wrecsam yn un ddifrifol. Mae'r HSBC wedi rhewi'r cyfri banc a hyn wedi'r cyflenwad trydan gael ei atal ddoe.
Yna prynhawn 'ma cafwyd y datganiad syfrdanol fod y cadeirydd, Alex Hamilton, wedi ymddisyddo.

Mae pryderon go iawn y gall yfory weld gêm olaf CPD Wrecsam - mae'r cadeirydd yn benderfynol o gau'r clwb i lawr - ond be allwch chi wneud?

1) Dewch i'r Cae Ras yfory
2) Dewch â ffrindiau gyda chi
3) Ymuno â'r Ymddiriedolaeth
4) Rhowch gyfraniad i'r Ymddiriedolaeth

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cadarnhau eu bod am wneud cais i gwrdd â Hamilton i geisio brynnu'r clwb wythnos nesaf.

"Rydym yn gweithio ar fanylion y cynnig ond rydym y ymwybodol bod amser yn brin. Mae'n hanfodol fod pobl gogledd Cymru yn dangos eu bod eisiau clwb pêl-droed,"
meddai aelod o fwrdd yr Ymddiriedolaeth, Charles Wardle.

Mae 131 o flynyddoedd o hanes yn y fantol yn fan hyn - dewch i gefnogi plis!

Wrecsam yn y tywyllwch

28.10.04
Mae Scottish Power wedi torri cyflenwad trydan CPD Wrecsam neithiwr gan nad yw'r clwb wedi talu'r biliau.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth ar Y Cae Ras ac fel mae Geraint yn awgrymu ar ei flog, rwy'n annog pawb i 'sgwennu at eu AC. Mae'r cyngor lleol wedi datgan eu bod yn ystyried prynnu'r Cae Ras, ond byddai angen cymorth gan y Cynulliad.

Darganfyddwch eich AC yma

BBC Cymru'r Byd
Evening Leader

CPD Chav

27.10.04
Mae CPD Casnewydd wedi cael crysau newydd ar gyfer eu gemau yn y Cwpan Cenedlaethol.
Fydd y trowsusau'n rhai Burberry?

BBC Radio Cymru - Ar y Marc

Technoleg fodern

26.10.04
'Dwi'n 'sgwennu'r pwt yma o lloc y wasg yn Wrecsam wrth wylio'r gêm â Peterborough.

Ew, mae technoleg fodern yn wych!

Gwerthu rhaglenni

25.10.04
Mae gen i swmp o raglenni pêl-droed ar werth ar ebay.

Rhag ofn fod gennych ddiddordeb

Melville yn ymddeol

Mae Andy Melville wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Dwi'n credu fod Melville wedi bod yn chwaraewr penigamp i Gymru dros y blynyddoedd er nad yw erioed wedi chwarae ar y lefel uchaf i dîm 'mawr'.
Pob lwc ar gyfer y dyfodol Andy.

Arwyr

Rwyf wedi ychwanegu fy arwyr pêl-droed at y blog (gweler yr ochr dde) ond mae gan safleoedd we Lleol i Mi BBC Cymru oriel yr enwogion ar gyfer y pum rhanbarth (pedwar ar hyn o bryd gyda'r Gogledd Ddwyrain ar ei ffordd cyn bo hir).

Mae sawl chwaraewr pêl-droed yn eu rhestrau:
Gogledd Orllewin - Malcolm Allen, Wyn Davies, Joey Jones, Neville Southall a Mickey Thomas
Y Canolbarth - Carl Robinson a Kevin Sheedy
De Orllewin - John Hartson
De Ddwyrain - Ryan Giggs

Yr un amlwg sydd ar goll yw John Charles, ond oes yna un arall?

Cwestiwn cwis bach sydyn

Edefyn mwyaf poblogaidd maes-e, ond yda chi'n gwybod yr ateb i gwestiwn Dom Sturges:
"With the speculation around Gary Speed and the Wales job, has a national team ever had a player-manager before?"

Mae'r Knowledge ar safle we Football Guardian yn gwybod yr ateb.

Ruud van Nistelrooy

Dyma sut mae Fiver y Guardian yn disgrifio digwyddiadau'r gêm fawr ddoe:

Ruud van Nistelrooy not only made Maradona circa 1994 look sane with his "Yes! Yes! YeaaaaaYEsssYAAaaaa!" celebrations, but deserved red for raking Ashley Cole's knee with the vigour of a young Percy Thrower - something the FA have now charged him with.

Pam 'dwi'n casau Man Utd?

24.10.04
Tydi o'm yn gwneud synnwyr:
1) 'dwi'n cefnogi clwb sydd byth yn debygol o herio am Uwchgynghrair Lloegr
2) 'dwi'n hoff iawn o wylio timau'n chwarae pêl-droed da
a
3) tydw i ddim wir yn cymryd diddordeb yn yr holl heip sydd ynghylch Uwchgynghrair Lloegr

Ond er hyn, ... 'dwi'n casau Manchester United - y clwb, eu chwaraewyr, eu rheolwr a'u cefnogwyr. Mae nhw'n fy ngyrru yn boncyrs!

'Dwi newydd orffen gwylio Man United yn trechu Arsenal ar Sky a dwi'n uffernol o flin er nad ydw i'n rhy hoff o Arsenal chwaith!

Mae agwedd y clwb mor ffroenuchel. Mae pawb yn credu fod ganddynt rhyw hawl arbennig i ennill ac mae pawb sy'n gysylltiedig â'r clwb yr un fath.

Pan oedd Wayne Rooney yn chwarae Everton roeddwn yn ei ystyried yn dalent aruthrol, a hyd yn oed pan sgoriodd y goliau gwych i Loegr yn ystod Ewro 2004 roedd rhaid i rhywun ei edmygu. Ond ers iddo symud i Old Trafford, mae'r pwtyn tew wedi troi'n ddiawl anymunol sydd yn meddwl ei fod yn seren. Roedd y ffordd y disgynodd i'r llawr er mwyn enill cic o'r smotyn fel petai wedi ei saethu gan sniper yn y stand yn warthus.

Mae Alan Smith a Louis Saha yn ddau enghraifft arall - chwaraewyr roeddwn yn eu hedmygu pa â'u cyn glybiau, ond ers symud i gynhesu'r fainc yn Old Trafford rwyf wedi colli parch at y ddau. Mae'r ddau yn union fel y chwaraewyr yn yr Anglesey Junior League ers talwm oedd yn fodlon bod yn eilydd pob wythnos i dîm Bodedern Under-13s er mwyn cael tlws ar ddiwedd y tymor yn hytrach na chael gêm â thîm llai lwyddiannus fel Trearddur Bay Under-13s*.

Mae eu cefnogwyr y waeth byth ac yn gwrthod derbyn unrhyw feirniadaeth. Allai'ch sicrhau na fydd yr un "ffan" United yn y gwaith fory - dwi'n defnyddio'r dyfynodau gan na fydd yr un ohonynt wedi bod i Old Trafford heddiw, nac yn debygol o fynd trwy gydol y tymor chwaith - yn derbyn fod Rooney wedi deifio.

GRRRRRRRR!!!! Mae nhw yn fy ngwylltio - ydi hyn yn normal?


* Ia, efo Trearddur Bay oeddwn i!

Hwyl ar Y Traeth

Bues i'n gwylio Porthmadog v TNS ac, fel yr arfer, cefais groeso cynnes iawn ar Y Traeth. Porthmadog yw un o'r clybiau mwyaf cyfeillgar yn y gynghrair ac mae hi wastad yn bleser cael gweithio yno.

Port oedd y tîm gorau o bell ffordd yn ystod yr hanner cyntaf ac aethant i fewn ar yr egwyl yn haeddianol ar y blaen diolch i gôl hyfryd Carl Owen.
Llwyddodd Jiws a Mike Wilde i roi TNS ar y blaen o fewn saith munud i ddechrau'r ail hanner a roedd rhywyn yn galu gweld pennau chwaraewyr Porthmadog yn disgyn ac o hynny defnyddiodd TNS eu profiad i ladd y gêm.

Gêm ddifyr iawn i'r niwtral.

Hamilton wedi colli ei farblis

22.10.04
Mae cadeirydd Wrecsam, Alex Hamilton, wedi colli ei farblis o'r diwedd.
Dyma beth mae'r gwallgofyn wedi 'sgwennu ar safle we swyddogol y clwb bore 'ma wrth luniau o gefnogwyr Wrecsam yn protestio tu allan i'w dy.



These individuals display big yellow streaks and in the manner of Moslem terrorists conceal their faces, properly knowing they bring shame upon themselves and their families.

Rwy'n gobeithio'n arw bydd rhywun yn cwyno i'r Comisiwn Hiliaeth.

Crysau brown?

21.10.04
Welodd unrhyw un grysau Barcelona neithiwr?
Mam bach, son am afiach:


Ers pa bryd mae Barça yn gwisgo brown? Mae nhw bron mor uffernol o salw â chrysau llwyd enwog Manchester United.

Eintracht Farmtrack - noson sâl

20.10.04
Noson siomedig i Einracht Farmtrack yn Uefa Fantasy Football - 15 pwynt yn unig, diolch ynbennaf i gemau disgôr Lerpwl a Manchester United gan mai ymosodwyr y ddau glwb sydd gen i ac nid amddiffynwyr.

Gobeithio am well heno ... er 'dwi dal ar frig cynghrair Liechtenstein!

Cynghrair y Pencampwyr - diflas!

Ai fi yw'r unig un sydd wedi diflasu â Chynghrair y Pencampwyr?
Mae'r ffaith fod cymaint o dimau o un gwlad yn cael chwarae yn y gystadleuaeth ynghlwm â'r ffaith fod timau'n chwarae cymaint o gemau yn gystadleuaeth yn golygu bod y rhamant wedi diflannu.

Sawl gwaith mae Manchester United wedi chwarae Juventus yn y blynyddoedd diweddar, a sawl gwaith fyddai yr un o'r ddau dîm yn gystadleuaeth petai Uefa wedi cadw at y system gwreiddiol go iawn o bencampwyr yn unig?

Mae'n jôc, hefyd, i glywed sylwebwyr yn dweud pethau fel "... and Ruud van Nistelrooy become's United's top goal scorer in Europe" neu "... Gary Neville has played in Europe more times than any other player in the club's history".

Wel gan eu bod yn cael chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop hyd yn oed wedi gorffen yn drydydd yn y gynghrair, a chan eu bod yn chwarae llond trol o gemau pob tymor, mae'n blymin' amlwg eu bod am sgorio a chwarae mwy na chwaraewyr fel Dennis Law a George Best.

Roy of the Rovers yn ôl

16.10.04
Wooohoooo!!
Mae safle wê Roy of the Rovers yn ôl - gweler.

Cymru'n 57ed yn y byd

15.10.04


Mae Cymru'n parhau y rhif 57 ar restr diweddaraf detholion Fifa gyhoeddwyd heddiw.

Mae hyn ddau safle'n uwch na fis Hydref 2003 pan oedd Cymru'n rhif 59 wedi colli yn erbyn Serbia & Montenegro a'r Eidal a disgyn chwe safle.
Pum mlynedd yn ôl ym 1999, wedi gemau cyntaf Mark Hughes wrth y llyw - buddugoliaeth 2-1 dros Belarus ym Minsk a cholled 2-0 y erbyn Y Swistir yn Wrecsam - roedd Cymru'n rhif 91 ar y rhestr.

Brasil sydd ar frig y rhestr gyda Ffrainc yn ail a'r Ariannin yn drydydd.
O ran gwrthwynebwyr Cymru yng Ngrwp 6 o Gwpan y Byd, mae Lloegr yn seithfed, Gwlad Pwyl yn 29ed, Awstria yn esgyn pum safle i rif 85, Gogledd Iwerddon yn disgyn un safle i rif 110 ac Azerbaijan yn esgyn dau safle i rif 114.

Rhestr detholion Fifa - Hydref 2004

Dim rheolwr, dim capten, dim pwyntiau

14.10.04
Cymru 2-3 Gwlad Pwyl

Lle dwi'n dechrau?
Yn ei gêm olaf wrth y llyw neithiwr, penderfynodd Mark Hughes wneud yr hyn rydym wedi bod y galw arno i wneud ers tro byd - chwarae â dau ymosodwr.
Gadawodd Hughes John Hartson ar y fainc a dechreuodd y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl â Craig Bellamy a Robert Earnshaw yn y llinell flaen.
A bu bron i'r penderfyniad dalu ar ei ganfed wedi Earnie roi Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.
Ond yn anffodus bu rhaid i Gary Speed adael y maes ag anaf rhai munudau wedi Gwlad Pwyl ddod yn gyfartal ac wrth i Gymru newid y patrwm chwarae, gyda Hartson wedi dod i'r maes, manteisiodd y Pwyliaid gan sgorio ddwywaith eto i fynd 3-1 ar y blaen.
Ac er i Hartson rwydo gôl gysur i Gymru roedd yn rhy hwyr.
Wedi'r gêm, penderfynodd Gary Speed i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol sydd yn golygu fod Cymru heb reolwr, heb gapten a heb unrhyw obaith o gyrraedd Yr Almaen yn 2006.

Adroddiad BBC Cymru'r Byd

Speed yn ymddeol

Trip tra gwahanol

10.10.04
Rwyf bellach wedi teithio i weld 18 o gemau Cymru oddi cartref, ond nid oes yr un wedi bod mor wahanol â'r ymweliad i Old Trafford ddoe.

Dim gadael y ty ym merfeddion y bore er mwyn cyrraedd y maes awyr, dim noson mewn bar amheus yn gwylio merched haner noeth yn dawnsio, dim fodca rhad, dim tacsis gwyllt, dim haglo mewn doleri, dim peint cyn y gêm hyd yn oed!

Roedd yn wych gweld a chlywed y Cymry'n canu trwy gydol y gêm - yn wir, yr unig amser i mi eistedd o'r eiliad cyrhaeddais y maes oedd yn ystod GSTQ!
Roedd yr ymdrech gan y Cymry yn arbennig gyda Gwyr Harlech yn swnio'n wefreiddiol am chwarter awr yn yr ail hanner, a roedd cefnogwyr Lloegr yn ofnadwy o dawel.
Dyma'r unig dorf i mi weld sydd yn ddistawach na'r rhai sy'n mynychu Stadiwm y Mileniwm!

Mae'n bechod fod yr ymdrech ar y cae wedi bod mor siomedig. Nid y ffaith ein bod wedi colli sydd yn brifo - roeddwn wedi disgwyl a darogan hynny ers wythnosau -ond y ffaith fod yr awch a'r hwyl ar goll o chwarae'r Cymry.

Ymddengys mai'r unig chwaraewr oedd yn gwrthod ofni'r Saeson, yn eironig ddigon o gofio ei gefndir, oedd Ben Thatcher. Nid oedd Thatcher am adael i David Beckham wneud ffwl ohonno ac ar un achlysur yn yr ail haner safodd ei dir wrth i Mr Posh Spice geisio gwneud triciau o'i amgylch.
Disgynnodd Beckham i'r llawr yn ddiseremoni ac yna, ymhen rhyw funud neu ddau, ceisiodd ddial ar Thatcher gan ei lorio â thacl warthus, ond y Sais ddaeth allan ohonni waethaf gyda cerdyn melyn ac wedi torri un o'i asenau!

Roedd Danny Gabbidon yn gawr yn yr amddiffyn a bydd yn syndod mawr os yw dal â Chaerdydd wedi'r ffenestr drosglwyddo agor ym mis Ionawr, ond roedd gweddill y tîm yn siomedig.

Paperweight gorau Cymru

6.10.04
Ylwch be' oedd ar fy nesg i wythnos diwethaf ...

Penblwydd Donny Rovers

3.10.04
Roeddwn yn rhan o ddathliadau penblwydd Doncaster Rovers ddoe. Roedd y clwb yn dathlu ei benblwydd yn 125 gyda rhai o gyn arwyr y clwb yn cael eu cyflwyno i'r dorf cyn y gêm â Wrecsam.
Cefais y fraint o gyfarfod y diddanwr a chyn bêl-droediwr, Charlie Williams, cyn y gêm yn ystafell y wasg - chwaraeodd Charlie i Donny yn y 1940au a'r 1950au.

Yn y rhaglen roedd rhestr o 125 o arwyr Doncaster Rovers dros y blynyddoedd ac yn eu mysg oedd Lawrie McMenemy, Steve Nicol, Ian Snodin ... a GaryBrabin sydd bellach yn chwarae i TNS!

Hefyd yn y rhaglen roedd rhestr o ddigwyddiadau bu yn yr un flwyddyn â ffurfiwyd y clwb ac yn eumysg roedd Brwydr Rorke's Drift.

'Doedd na'm llawer o wledda ar y maes wrth i'r ddau dîm orfod bodloni ar gêm ddi sgôr ond gyda Rovers yn ymosod yn ddibaid tra bo amddiffyn Wrecsam yn gadarn a chyda cefnogwyr y Drigiau'n canu Gwyr Harlech yn ystod yr hanner cyntaf, roeddwn yn hanner disgwyl i Stanley Baker a Michael Caine ddod i'r maes i Wrecsam yn yr ail hanner!

Roy of the Rovers

1.10.04
Mae safle we Roy of the Rovers wedi diflannu ...

Roeddwn i'n arfer prynnu'r comic yma yn wythnosol am flynyddoedd maith. Oni bai am Roy a'i helyntion ym Melchester fy hoff stori oedd The Kid From Argentina - hanes Jorge Porbillas gafodd ei arwyddo gan Manton County wedi Cwpan y Byd 1978.
Yn anffodus i Manton County a'u rheolwr, Bert Trubshawe, nid yr Jorge Porbillas enillodd Cwpan y Byd ag Yr Ariannin oedd hwn, ond bachgen 15-mlwydd-oed!

Ac yn anffodus i mi (ac i Porbillas) daeth y stori i ben wedi Prydain fynd i ryfel â'r Ariannin dros Ynysoedd y Falklands ym 1982.