Uchafbwyntiau HTV
25.8.04
Welodd unrhyw un uchafbwyntiau Cwpan Carling ar HTV neithiwr? Roedd o'n raglen drychinebus o wael.
Wedi treulio hanner awr a mwy o'r rhaglen yn dangos gêm Caerdydd yn erbyn Kidderminster, cawsom y goliau o QPR v Abertawe - a rhain wedi eu golygu'n uffernol o sâl.
Yna cawsom uchafbwyntiau'r gêm rhwng Hull a Wrecsam - mam bach, dyma chi shambles.
Pedair gôl wedi eu torri'n gythreilig o herciog ac yna troi at y ciciau o'r smotyn.
Ar ôl gweld y ddau dîm yn methu un cic ac yn sgorio un cic, cawsom glip o Darren Ferguson yn sgorio i Wrecsam i roi'r Dreigiau 2-1 ar y blaen ... yna, yn sydyn, roedd y boi smarmy o'r stiwdio yn awgrymu ein bod yn "keep it right here" gan ein bod am ddod yn ôl wedi'r hysbysebion i weld "all the action from Rotherham" ....????
Wel be am adael i ni weld gweddill y ciciau o'r smotyn o Hull, neu hyd yn oed dweud beth oedd y blydi sgôr!!!
Shambls llwyr a gwarth o beth.