Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Wrecsam v Celtic ... ia, Farsley Celtic

Ia, dim ots be ddudes i yr wythnos diwetha' am Wrecsam yn llwyddo i aros i fyny ... 'da ni i lawr - heb os!

Bues i yn Amwythig ddydd Sul ar gyfer gêm dderby Wrecsam efo Amwythig ond 'dwi'm yn siwr os oedd o'n benderfyniad doeth wedi perfformiad chwerthinllyd arall gan Y Dreigiau.

'Dwi erioed wedi gweld tîm pêl-droed yn chwarae mor sâl â chwaraeodd Wrecsam brynhawn Sul.

Roedd y gêm ar ben fel cystadleuaeth o fewn saith munud wrth i Gavin Ward a Richard Hope(less) lwyddo i wneud smonach llwyr o bas hir a chaniatau i Kevin McIntyre rwydo gôl gwbwl hawdd.

Darren Moss, â aned yn Wrecsam, gafodd yr ail ac i rwbio halen i'r briw fe rwydodd James Constable y drydedd er i Gavin Ward arbed cic wreiddiol Dave Hibbert o'r smotyn.

Roedd 'na dri neu bedwar o chwaraeyr Amwythig yn ciwio yn y cwrt cosbi i geisio rhwydo'r drydedd gôl 'na ... a chyda chefnogwyr Amwythig yn ein gwawdio, roedd yn embaras llwyr i'r 1,400 o gefnogwyr Wrecsam oedd wedi gwneud y daith draw i'r New Meadow.

Roedd Brian Little yn dweud wedi'r gêm ei fod o wedi gorfod gofyn i Joey Jones am gymorth i ladd ar y chwaraewyr:
"I was running out of words at the end and Joey - who is a great hero and friend of mine - felt the need to tell the players some things that weren't complimentary."

... roedd na 1,399 o gefnogwyr eraill fyddai wedi bod yn ddigon parod i leisio eu barn, Brian.

Prin iawn ydi'r adegau 'dwi 'di gweld cefnogwyr Wrecsam yn troi ar eu tîm i'r fath raddau y weles i ddydd Sul - 'dwi'n amau'n gryf fod Drewe Broughton wedi hyd yn oed clywed rhai o'r rhegfeydd oedd yn cael eu bloeddio, yn ôl yr olwg oedd ar ei wyneb!

Ond mae'r cefnogwyr wedi cael digon - da ni 'di bod yn y tri isaf yn Adran Dau ers yr wythnos gyntaf ym mis Medi ond er hyn 'da ni dal wedi gweld torfeydd oddeutu 4,500 ar Y Cae Ras a thorfeydd uchel iawn yn dilyn y tîm o Sadwrn i Sadwrn ar hyd a lled Lloegr.

Efallai ei fod yn rhy hwyr erbyn hyn, ond o leiaf mae'r chwaraewyr yn gwybod na fydd llawer o groeso iddyn nhhw'r tymor nesa wrth i ni herio Farsley Celtic ac Ebbsfleet.

Labels: , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment