'Da ni'n mynd i fod yn saff ...!

'Dwi ddim yn credu'r peth go iawn, ond 'dwi newydd dreulio hanner awr yn cwblhau 'predictor' y BBC a chydag un gêm yn weddill mae Wrecsam allan o safleoedd y cwymp uwchben Mansfield, Dagenham a Redbridge a Chaer!
'Dwn i ddim faint ddylwn i fod yn credu o'r petha' 'ma ... wedi'r cwbwl, 'dwi ddim wedi gallu darogan llawer o ganlyniadau y tymor yma ... ond mae'n rhaid cael gobaith o rhywle!
Mi fyddai osgoi'r cwymp tra'n gweld Caer yn disgyn yn deimlad pleserus tu hwnt ... coeliwch chi fi!
Labels: adran dau, bbc, football, league two, predictor, pêl-droed, wrecsam
« Dolen flaen | Nesaf »
am 8:33 AMNid mod i eisiau i'r clwb ddisgyn wrth reswm, ond yn dilyn trafodaeth ar Red-Passion am leoliad daearyddol timau'r confrence, codwyd fy ysbyryd ychydig gan bod llawer mwy o dimau yn nes i Gaerdydd na'r tymor yma ac hefyd ambell un yn agos i gartref fy rhieni-yng-nghyfraith yn Efrog.
Hefyd, o ddarllen gwefan am y gyngrhair, ymddengys bod clubhouses nifer o'r clybiau hyn yn gwerthu cwrw 'go iawn'.
Hunanol ta beth!
am 9:39 AM
Dwi wedi gwneud hwn hefyd ac mi wnaeth Wcsm orffen uwchben Gaer ac tua pumed o gwaelod.
Ond dwi ddim cweit mor siwr rwan ar ol neithiwr - truenus.
am 9:44 AM
Na, dwi ddim yn siwr iawn ar ôl neithiwr chwaith :(
am 8:47 PM
Mae'r 'predicter' yn unpredictable ma 'haid!!
» Post a Comment