Da iawn K-ee-ardiff
Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd a'u cefnogwyr ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.Fel mae llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gwybod, mae gen i nifer fawr o ffrindiau sy'n cefnogi'r Adar Gleision a 'dwi'n hollol 'chuffed' drostyn nhw. Fel ddudodd un ohonnyn nhw wrtha'i ddoe "Di petha' ddim yn cael llawer gwell na hyn".
'Dwi ddim am sbwylio'r foment wrth gwyno'n ormodol, ond os ga'i ofyn i SKY, BBC, ITV a holl bapurau newydd Lloegr i beidio a chymysgu llwyddiant Caerdydd efo llwyddiant i Gymru mi fyddwn i'n hapus.
"It's a great day for football fans in Wales," meddai SKY ddoe. "It's been a fantastic weekend for Welsh football," meddai rhywun ar Radio Wales bore 'ma ...
... wel, tra bo fi'n cytuno'n llwyr bod hi yn gamp enfawr i Glwb Pêl-droed Caerdydd a thra bo'u rheolwr a'r tîm yn haeddu pob clod 'di hi ddim mor wych â hynny!
'Di'r Duwiau pêl-droed ddim yn gwennu ar y gornel fach yma o Gymru ar hyn o bryd. Mae Wrecsam yn wynebu dyfodol llwm iawn yn y Conference felly tra bo fi'n hapus iawn dros fy ffrindiau sy'n cefnogi Caerdydd, plis, da chi, peidiwch a choelio bod pob cefnogwr pêl-droed Cymreig yn gwenu heddiw.
'Dwi wir yn gobeithio bydd Caerdydd yn gallu ymweld â Wembley deirgwaith wrth gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle hefyd a 'dwi hefyd yn dymuno pob lwc i Abertawe'r wythnos nesa wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad ... ond peidiwch a chredu bod pawb yn hapus!
Mae pêl-droed yn gallu bod yn greulon iawn.
Labels: abertawe, caerdydd, football, pêl-droed, wrecsam
« Dolen flaen | Nesaf »
am 10:43 AMThis post has been removed by the author.
» Post a Comment