Gêm 39 ac Uwchgynghrair Lloegr
Yn anffodus, 'dwi heb gael cyfle i flogio am 'Gêm 39', sef y syniad anhygoel 'ma sydd gan Uwchgynghrair Lloegr o chwarae 39fed gêm pob tymor mewn gwlad arall.Ers cyhoeddi'r cynlluniau mae grwpiau cefnogwyr wedi beirniadu'r syniad ac mae nifer o leisiau mwyaf pwerus y byd pêl-droed hefyd wedi ymateb yn chwyrn.
Ond os oeddech chi'n meddwl bod y cynllun yma wedi ei danseilio, mae'n werth darllen blog pitchinvasion.net lle mae'r awdur wedi cael gafael ar nodiadau cyfarfod rhwng Richard Scudamore, prif weithredwr yr Uwchgynghrair, a chynrychiolwyr Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed (FSF).
Y darn mwyaf brawychus o'r cyfarfod - er bod y cyfarfod yn ei gyfanrwydd yn ddigon brawychus - yw'r cyfaddefiad gan Scudamore nad yw'n poeni am gefnogwyr presenol y clybiau.
For 16 years we have been losing various segments of our supporter base - we have lost some, but we have gained a lot more. Part of our assessment of this project will be those we’ll lose and those we’ll
gain…we’ll weigh that up in the "is this worth it?" column.
Hynny yw, dim ots os yw'r cefnogwyr traddodiadol yn dal i ddo gan fod digon o arian i'w wneud trwy farchnta'r clwb - neu'r brand, fel mae Scudamore yn mynnu galw'r clybiau - mewn farchnad newydd.
Mae twohundredpercent yn ateb y pwyntiau eraill sydd yn cael eu codi gan Scudamore yn llawer gwell na fuaswn i'n gallu ei wneud ... ond fel ddudes i yn gynharach, os oweddech chi'n meddwl eich bod Gêm 39 wedi marw, wel think again ...
Labels: football, fsf, gêm39, pitchinvasion, pêl-droed, scudamore, twohundredpercent
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment