Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dwi ddim yn cael achos i dathlu'n amal iawn y dyddiau yma, ond mae hi bob amser yn hyfryd curo Caer ac yn enwedig ar eu tomen eu hunain!

A'r hyn sydd yn gwneud y fuddugoliaeth hyd yn oed yn well yw bod y dyfarnwr wedi gwrthod gôl i Gaer eiliadau'n unig cyn i ni fynd i ben arall y cae a sgorio ... ddwywaith!

Ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pam fod angen i ni chwarae'r gêm yma am 12:00 ar brynhawn Sul?

Os yw heddlu Manceinion a Lerpwl yn gallu ymdopi efo gemau mawr am 3 o'r gloch y prynhawn, os yw West Ham v Chelsea neu Rangers v Celtic yn gallu bod ar amser call o'r dydd, pam ar y ddaear fod angen i Wrecsam v Caer fod ar adeg mor hurt ar ddydd Sul?

Dau dymor yn ôl, roedd heddlu Caer yn mynnu bod y gêm yn cael ei chwarae am hanner dydd ar brynhawn Mercher - diwrnod gwaith!!

A'r peth mwyaf hurt am hyn oll yw mai ychydig dros 3,000 oedd yno ac wedi'r gêm, cerddodd y ddau set o gefnogwyr i lawr Bumpers Lane tuag at eu ceir efo'u gilydd heb yr un heddwas i'w weld yn unrhywle! Roedd tua 40 o Robocops Heddlu Gogledd Cymru a dau llond bws mini o heddlu Caer yn gwarchod llond dwrn o gefnogwyr Wrecsam mewn capiau Burberry a chotiau SI ...

... hurt!

Labels: , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:05 PM Blogger Gareth ddywedodd ...

Dwi'n meddwl mai teg yw dweud fod Heddlu Gogledd Cymru yn mynd dros ben llestri gyda Pheldroed. Oherwydd mai dim ond llond dwrn o glybiau o faint sydd yma'n y Gogledd, maent yn neidio ar bob cyfle posib.
Cofio'r rhes enfawr o Blismyn tu allan i'r Cae Ras ar gyfer gem Caer llynedd ar ol y chwiban olaf? Hanner Dydd ar y Sul oedd hwnnw hefyd.    



am 1:27 PM Anonymous Anonymous ddywedodd ...

Mae gem darbi yr Old Firm bron yn ddieithriad am 1:00 pnawn Sul.

Ond cytuno a brydwn y neges. I fi dylsai pob gem y penwythnos fod unai am 3 ddydd Sadwrn neu 4 ddydd Sul.    



» Post a Comment