Euskal Herria v Catalunya
Dros yr ŵyl fe chwaraeodd 'gwledydd' Sbaen eu gemau cyfeillgar arferol ond roedd 'na gêm fwy na'r arfer yn Bilbao ar ddiwedd mis Rhagfyr.Mae nifer fawr o gefnogwyr Cymru yn ymwybodol iawn fod 'na groeso cynnes iawn i'w gael yn Bilbao pan fo Gwlad y Basg yn chwarae yn La Catedral a dros yr ŵyl, gyda Chatalonia yn ymweld â'r San Mamés, roedd y croeso yn gynhesach na'r arfer.
Daeth y ddau dîm i'r maes gyda'i gilydd gan arddangos baner fawr oedd yn cyhoeddi fod y ddwy genedl yn rhannu'r un freuddwyd, sef bod yn aelodau llawn o Fifa a chael chwarae gemau rhyngwladol 'go iawn'.
Parhaodd y brawdgarwch a'r cyfeillgarwch yn yr eisteddle wrth i'r cefnogwyr gymysgu a chyfnewid crysau a baneri ac, yn ôl Gabriele Marcotti yn y Times heddiw, roedd 'na ddigon o ladd ar y famwlad hefyd.
Spanish flags were ripped to shreds, Catalan and Basque footballers who opted out were insulted and there were all sorts of seditious and sesessional chants.
Mae hyn yn profi, wrth gwrs, fod 'na llawer mwy i'r gêm yma na phêl-droed ... ond 'dwi'n credu fod na dinc o fychanu yn erthygl Mr Marcotti.
Beth bynnag am y gwleidyddiaeth roedd y gêm yn werth ei gwylio yn dilyn un symudiad athrylithgar arweiniodd at gôl Aritz Aduriz ... ac mae modd gweld y gôl yna ar Sgorio heno am 2200GMT ar S4C.
Labels: bilbao, catalonia, catalunya, cynulliad. gwleidyddiaeth, euskal herria, gwlad y basg, pêl-droed, sgorio, times
« Dolen flaen | Nesaf »
am 10:44 AMTi wedi fy nghuro i, roeddwn wedi bwriadu sgwnnu am hwn hefyd.
Roedd yn awrwyddocaol bod y Basgwyr yn chwarae o dan yr enw Euskal Herria (Gwlad y BAsg gyfan) y tro hyn yn hytrach nag Euskadi (Gwlad y BAsg o fewn gwladwriaeth Sbaen) fel yn y gorffenol.
Ddim yn hoff o dón erthygl y Times yn cymharu gyda Glannau Merswy a Gog Ddwyrain Lloegr, ac hefyd yn llwyddo rhywsut mae Cameroon a Venuzuela'n fwy o wrthwynebwyt 'top-notch' na Chymru (efallai fod o'n gywir fanna!)
am 11:23 AM
Ia, nes i feddwl am Venezuela a Camerŵn hefyd ... ond fel ti yn meddwl bod well cadw'n dawel am safle Cymru ym meddylfryd gohebwyr Lloegr!
am 11:26 AM
Gyda llaw, nes i ddim sylwi/sylweddoli ar y gwahaniaeth rhwng Euskadi/Euskal Herria ... difyr iawn.
» Post a Comment