Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cefni yn cefnu ar Kevan

Mae Llangefni wedi diswyddo eu rheolwr, Alex Kevan, mis yn unig ar ôl ei benodi'n olynydd i Adie Jones.

Dim ond un buddugoliaeth mae'r Monwysion wedi sicrhau ers i Kevan gymryd yr awenau cyn y Nadolig ac mae'r clwb yn parhau i fod ar waelod y gynghrair.

Mae hi'n gynnar iawn i feddwl bod nhw'n mynd i ddisgyn yn ôl i'r Cymru Alliance ond mae'r sibrydion dros sacio'r giaffar wedi dechrau'n barod.

Fel Mulder a Scully, 'dwi 'di bod yn gwrando ar y straeon sydd ar led ar yr ynys pnawn 'ma a'r theori mwyaf poblogaidd 'dwi 'di glywed ydi bod Kevan yn ceisio llenwi'r tîm efo 'Sgowsars' a bod yr hogia lleol yn anhapus ...

... 'does na'm gronyn o dystiolaeth i'r si yma, ond mae safle we Llangefni yn addo datganiad i ni yfory.

30th January 2008

As has been reported in the press and various web sites the club today parted ways with manager Alex Kevan.

A report into the reasons behind this will be posted tomorrow.

In the meantime the club wish Alex and his assistant Phil Boersma well for the future and to thank them for their efforts whilst with the club.


'Dwi'n edrych ymlaen yn barod!

Labels: , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:22 AM Blogger Rhys Wynne ddywedodd ...

Roedd rhywun o'r clwb ar y radio ddoe yn pwysleisio mai clwb lleol ydi Llangefni. Yn bersonol welai ddim llawer o bwynt cael tîm yn llawn o bobl 'diarth', hyd yn oed os byddai'n codi'r clwb o'r gwaelodion. Ond oedd y rheolwr yn ymwybodol o'r 'polisi' yma pan gymerodd y llyw ac un o ble oedd o beth bynnag. Os mai un o lannau Mreswy ydi o, mae'n rheymol meddwl y byddai'n dod a rhai chwaraewyr oddi yno.    



am 12:57 PM Blogger Gary ddywedodd ...

O Fae Colwyn ddaeth o, ond mae hi'n swnio'n debyg mai dylanwad Phil Boersma ydi'r Sgowsars ... beth bynnag, mae 'na gadarnhâd heddiw am y rhesymeg dros y sacio - gweler y dudalen flaen!    



» Post a Comment