Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Mae mis yn amser hir ...

... heb gyswllt i'r we! Diolch yn fawr BT a diolch i chi am eich amynedd.
Ers i mi fod heb gyswllt i'r we mae 'na lond trol o bethau wedi digwydd.
Gemau cyfartal efo Iwerddon a'r Almaen oedd yn cynnwys trip da iawn i Frankfurt.
Yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer Cwpan y Byd 2010 a deja vu i Gymru.
Caerdydd mewn trafferthion ariannol ac yn ofni am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Wrecsam yn ennill ... o'r diwedd ... hwwwwreeeeeee!

O ... a 'dwi wedi cael swydd newydd hefyd ... mwy am hyn a phopeth 'dwi wedi'i grybwyll uchod yn y dyddiau nesaf ...

Labels:

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 2:28 PM Blogger Rhys Wynne ddywedodd ...

Dwi a chriw bach ffyddlon o Gochion Caerdydd yn mynd i Dagenham yfory. Yn barod am sociad.

Gobeithio bydd ychydig o olau dydd rhwng ni a'r gwaelodion wedyn.    



am 8:51 AM Blogger Dewi Ogwen ddywedodd ...

Petha'n gwella i Wrecsam. Nid jyst y canlyniadau ond yr ymdrech a'r trefniant ar y cae. Efallai wnawn ni orffen yn haner ucha'r tabl.    



» Post a Comment