Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cwpan y Byd 2010

Grŵp 4
Reit, 'dwi'n gwybod fy mod i'n hwyr iawn efo'r nodyn yma, ond fel nes i egluro isod, 'dwi 'di bod yn ofnadwy o brysur! 'Dwi ddim hyd yn oed wedi rhoi lluniau Frankfurt ar y wê eto!

Beth bynnag am hynny, beth am edrych ar y grŵp 'ma ar gyfer 2010. Yn wahanol i llawer o gefnogwyr Cymru, 'dwi'n eitha edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r Almaen. Mae gan yr Almaen llond gwlad o feysydd arbennig a 'da ni'n cael cyfle i ymweld â dinas wahanol pob tro 'da ni'n eu wynebu nhw.

Wedi ymweld â'r maes yn ystod Cwpan y Byd llynedd, 'swn i wrth fy modd dychwelyd i Dortmund, neu, wedi methu cael ticed ar gyfer y Veltins Arena, mi fyddai Gelsenkirchen yn dda 'fyd.

'Dwi hefyd yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Rwsia. Roedd Moscow yn drip gwych pan fuo ni yna ar gyfer gêm ail gyfle Ewro 2004 - er gwaetha'r tywydd oer. Os na fuo chi yno, gofynnwch i unrhyw un oedd yno os ydy nhw'n edrych ymlaen at fynd ar Safari eto ... a dyna ddigon am hynny!

'Dwi ddim yn siŵr os fyddai'n mynd ar fy nhrydedd 'once in a lifetime trip' i Azerbaijan, wedi ymweld â Baku yn 2002 a 2004 - er wedi dweud hynny, mae hi'n bedair blynedd ers i mi fod yno belach ...! Yr unig beth 'swn i'n ei ddweud ydi, os nad yda chi wedi bod yno a 'da chi eisiau trip go anghyffredin, yna da chi ewch i Baku.

'Da ni erioed wedi bod i Liechtenstein o'r blaen - yn wir, unwaith yn unig dro 'da ni wedi herio'r wlad ar y maes pêl-droed a hynny ym mis Tachwedd 2006 ac er fod Vaduz yn mynd i fod yn ddinas newydd i mi, mae gwlad sydd â chyfuniad o ddiwylliant Awstria a diwylliant Y Swistir yn debygol o fod yn ddiflas tu hwnt!

Ond yr un ddinas 'dwi wir yn edrych ymlaen at fynd yn ôl iddi ydi'r Ffindir - roedd y gêm yn 2002 yn un o fy hoff deithiau tramor erioed.

Helsinki oedd y gêm gyntaf yng ngemau rhagbrofol Ewro 2004 ac er i ni sicrhau gêm gyfartal 1-1 mewn gêm gyfeillgar efo Croatia fis ynghynt, doedden ni ddim wir yn disgwyl ennill.

Roedd dros 1,000 o Gymry wedi teithio i'r Ffindir ar gyfer hwyl y penwythnos ... ond fe llwyddon ni i ennill er mwyn coroni penwythnos arbennig!

Roedd 'na lun gwych ar dudalen flaen yr Observer y diwrnod canlynol yn dangos cefnogwyr Cymru'n dathlu ... wel, heb law am fy ffrindiau oedd wedi mynd i'r ty bach a methu'r gôl!!

Os ga'i gyfle mi na'i sganio'r llun a'i roi fyny ar y blog.

Labels: , , , , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 12:44 PM Anonymous Filip ddywedodd ...

gan dy fod ti'n son am fynd i rwsia, oes angen cael unrhyw fath o visa i fynd am y penwythnos o gwbwl?    



am 5:13 PM Blogger Gary ddywedodd ...

roedd angen visa y tro diwethaf a 'dwi'n meddwl fod yr un peth yn wir hyd heddiw.    



am 10:10 AM Blogger Gareth ddywedodd ...

Dwi wrth fy modd yn mynd i Wledydd Bach Ewrop. Gan mod i wedi mynd i San Marino 'leni, dwi'n falch o weld ein bod wedi cael Liechtenstein yn ein grwp, ac am gael gem gyfeillgar yn Luxembourg mis Mawrth.

Dwi di bod i Cologne o'r blaen, a wedi bod i'w maes i weld y derbi lleol yn erbyn Aachen. Fysa'n braf cael dychwelyd yno, yn enwedig ar ol y siom o orfod methu'r gem yn Frankfurt.

Dwi dal ddim yn siwr wnai 'fforddio trip i Moscow!    



am 12:53 PM Blogger Dewi Ogwen ddywedodd ...

Gem gyfeillgar yn Rotterdam Mai 31 neu Mehefin 1af. Dylai fod yn drip da.    



» Post a Comment