Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Symud tŷ

Mae'n ddrwg gen i am y diffyg postio diweddar ond 'dwi yn ei chanol hi ar hyn o bryd yn symud tŷ. Ac wrth sôn am symud tŷ, mae Lerpwl wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer eu maes newydd nhw ar Barc Stanley - rhyw fath o "This isn't Anfield".

Ers i mi ddechrau dilyn Wrecsam o gwmpas oddi cartref 'dwi wedi bod i sawl maes sydd bellach ddim yn bodoli. 'Dwi'n credu mai Sealand Road yng Nghaeroedd y cyntaf i ddiflanu oddi ar fy rhestr. Bu rhaid i Caer adael eu maes ar ddiwedd tymor 1989/90 gan chwarae dau dymor yng nghartref Macclesfield, Moss Rose, cyn dychwelyd i'r ddinas a Stadiwm Deva.

Wrth gwrs, fel cefnogwr Wrecsam, 'dwi'n casau Caer ond mae dyn dalu yn teimlo bechod dros gefnogwyr Caer welodd datblygwr tir yn gwerthu'r maes i gwmni archfarchnad a'u gadael yn ddi gartref am ddwy flynedd.

Leeds Road, Huddersfield, ydi'r ail i ddiflanu. Bues i'n Leeds Road i wylio Huddersfield yn erbyn Blackpool pan oeddwn i'n coleg yn Bradford. Roedd mêt i mi'n cefnogi'r Seasiders felly aeth y ddau ohonnom ni draw i wylio gêm Cwpan FA un noson oer.

'Dwi'n siwr mai nid fi ydi'r unig un oedd yn credu bod Huddersfield wedi cael uffar o 'deal' da gan y cwmni brynodd Leeds Road a thalodd i adeiladu'r McAlpine/Galpharm!

Ac wrth gwrs, y maes mwyaf diweddar i ddiflanu ydi Gay Meadow, Amwythig ... ond 'dwi wedi sôn am y twll yna o faes pêl-droed yn y gorffenol!

Dyma'r rhestr yn ei chyfanrwydd:
Sealand Road, Caer
Belle Vue, Doncaster Rovers,
Springfield Park, Wigan,
Victoria Ground, Stoke City,
Highfield Road, Coventry
Y Vetch, Abertawe,
Maine Road, Manchester City,
National Hockey Stadium, Milton Keynes Dons,
Gay Meadow, Amwythig

Labels: , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:52 AM Blogger Rhys Wynne ddywedodd ...

Wedi bod i'r Vetch, Maine Road a Gay Meadow fy hun. Dwi wedi gweld maes newydd yr Amythig o'r trên yn ddiweddar, efallai a'i yno tymor yma, er dwi wedi dweud mai mond i faesydd ble caniateir sefyll y byddwn yn mynd iddynt o hyn ymlaen.    



am 12:23 PM Blogger Gareth ddywedodd ...

Gei di ychwanegu Ffordd Ffarrar i'r rhestr yna, yn wedddol fuan hefyd.    



am 12:27 PM Blogger Gary ddywedodd ...

Siwr iawn! Nes i ddim cofio am hwnnw!    



am 8:44 AM Blogger Dewi Ogwen ddywedodd ...

Pam roeddwn yn coleg roeddwn yn gwylio Sunderland yn yr hen Roker Park. Wnai byth anghofio'r "Roker Roar" pam roedd gol pwysig.    



» Post a Comment