Locsyn, barf a blewiach
Wrth wylio Wrecsam yn erbyn Accrington Stanley nos Wener diwethaf, roedd 'na drafodaeth reit ddwys ymysg ein grwp bach ni o gefnogwyr ynghylch locsyn newydd Michael Proctor.Na, 'di pêl-droed Wrecsam ddim mor ddiflas a hynny ... ond roedd pawb yn gyntun nad ydy dyn yn gweld locsyn mor amal a hynny yn y byd pêl-droed y dyddiau yma.
Wrth gwrs, roedd 'na lond dwrn o enwau yn dod i fyny wrth feddwl am chwaraewyr barfog ... er nath neb enwi Socrates, a dim ond ar ôl gweld ei lun ar flog twohundredpercent nes i gofio am ei farf a dweud y gwir!
Ricky Villa oedd yr enw cyntaf ar restr pawb a chan ein bod ni'n gefnogwyr Wrecsam, roedd Billy Ashcroft yno hefyd.
Cafodd Trevor Hockey, y Cymro cyntaf i gael ei hel o'r maes tra'n chwarae dros Gymru, ambell i bleidlais hefyd, ond pwy arall sydd yna? Peter Withe a Garry Birtles ella?
Mae'n rhaid bod na fwy o bêl-droedwyr efo locsyn o gwmpas ... oes?
Labels: barf, football, locsyn, pêl-droed
« Dolen flaen | Nesaf »
am 1:15 PMLeg-end go iawn. Edrych fel rock star!
am 12:31 PM
Wn i'm be am locsyn, ond roedd gan Meilir Owen fwstash Pancho Villa go iawn pan oedd o'n ddigon ifanc i gael ei goesa rownd cae fftwbol...
» Post a Comment