Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Gwarthus, gwarthus, gwarthus

'Dwi wir ddim yn siwr beth i'w feddwl.

Wedi chwalu Slofacia 5-2 yn Trnava, roedd pawb ar ben eu digon wrth deithio i Cyprus - rheolwr, chwaraewyr, cefnogwyr, y wasg ... pawb!

Ond roedd y performiad yn gwbwl warthus. Hyd yn oed pan oedden ni ar y blaen 1-0 roedd pawb yn gallu gweld mai matr o amser fyddai hi cyn i Gyprus sgorio.

'Does wybod beth sydd wedi mynd o'i le, ond roedd y gwendidau'n amlwg unwaith eto yn San Marino wrth i Gymru chwyso a chwythu wrth geisio curo tîm gwaethaf Ewrop.

Roedd 'na llu o sibrydion yn San Marino ynghylch pam fod pethau'n mynd o le a pham fo chwaraewyr yn anhapus a phwy sydd yn achosi'r drwgdeimlad ymysg y garfan.

Ond y gwir amdani ydi bod pob un wan jac o'r cefnogwyr sy'n talu pres mawr i deithio oddi cartref yn anhapus efo'r diffyg awch a'r diffyg parch sydd yn cael ei ddangos yn y crys coch.

Dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld yn torri ei fol i chwarae dros Gymru ... dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld â pharch yn y crys coch enwog.

Mae hynny'n anfaddeuol ...

Labels: , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 12:52 PM Blogger Gwilym ddywedodd ...

Paid â lladd arnyn nhw gymaint. Wedi'r cwbl, mae San Marino ymysg cewri'r byd pêl-droed yn eu gwlad eu hunain. Mi fetia'i di y basan nhw'n colbio Gibraltar a Guernsey, ac yn fwy na llond llaw i Ynys Manaw. Wrth feddwl, onid ydi hi'n hen bryd i ni gael mwy o wledydd llai yn perthyn i UEFA er mwyn rhoi rhyw siawns i Gymru fach. Beth am y Fatican, Sark a Sealand (chwilia am fan'no yn Wicipedia)? Trueni bod Ynys Enlli yn perthyn i Gymru, neu mi fasan nhw'n dwad i mewn i'r sym hefyd.    



» Post a Comment