Be goblyn 'di'r crys na?
Mae'r dewis bron yn ddiddiwedd ers i glybiau ddechrau defnyddio ail, trydydd a hyd yn oed pedwerydd crys, ond mae 'na ddewis go eang ymysg crysau rhyngwladol Cymru hefyd.
Felly dyma fwrw ati i ddewis y crysau hyllaf erioed i gael eu gwisgo gan ein tîm pêl-droed cenedlaethol.
5.
Dewis dadleuol efallai, ond tra bo'r fersiwn coch o'r crys yma ymysg y crysau pêl-droed gorau erioed, mae'r fersiwn melyn yn erchyll. Dydi'r streipen coch a gwyrdd ddim yn edrych yn iawn ac mae pawb yn gwybod mai golwyr sy'n gwisgo crysau melyn rhyngwladol, nid chwaraewyr!
4.
Cafodd y crys erchyll yma ei ddylunio fel teyrnged i John Charles yn ôl pob sôn ... wel, sori, ond 'doedd o'm yn llawer o deyrnged nagoedd? Mae'r streipen wen ar grys du i fod i gynrychioli Juventus gyda'r streipen goch yn cynrychioli Cymru ... hmmmm, swnio fel nonsens marchnata i mi!
3.
Yn ystod teyrnasiad Bobby Gould fe benderfynodd Lotto nad oedd ein perfformiadau ni'n ddigon chwerthinllyd ar y maes, ac o'r herwydd bu rhaid i'r chwaraewyr wisgo crys oedd yn debycach i'r hyn fyddai Leighton Rees yn ei wisgo!
2.
Cwmni Lotto sydd yn gyfrifol am y crys nesa' 'ma hefyd. 'Does wybod beth ar y ddaear oedd yn mynd trwy feddwl y dylunydd y bore cafodd hwn ei greu. Streips fertigol, diemwntau, tua phedwar gwahanol liw gwyrdd ... mam bach!
1.
'Dwi ddim yn meddwl bod angen dweud dim byd nagoes! Petrol ydi lliw'r crys yn ôl Umbro, ond 'dwn i ddim beth oedd ar eu pennau nhw efo'r holl sgwigls 'na ... ond y peth gwaethaf am y crys yma ydi bo' fi wedi prynu un!
Labels: crysau, cymru, football, pêl-droed
am 10:01 PMDwi'n chwerthin wrth ddarllen dy restr oherwydd rwy'n berchen ar crys rhif 4 a 1 ar dy restr. A dweud y gwir, dwi'n gwisgo'r ddau eitha aml. Esh i hyd yn oed i'r drafferth o archebu crys rhif 1 ar ebay oherwydd mai plentyn oeddwn ar y pryd roedd y crys mewn defnydd, a'i fod llawer rhy fach erbyn rwan!
am 12:17 PM
Beth am y crys gorau erioed? Coch a gwyn Adidas ar ddechrau'r 80au sy'n cael fy mhleidlias i.
am 2:16 PM
Ella na'i drio llunio rhestr o'r crysau gorau rhyw ben!
» Post a Comment