Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

"Smalwich mai ddim Jyrmans ydy nhw!"

Tymor 2007/08: Gêm #5
Dyna waeddodd un boi oedd yn eistedd tu ôl i mi yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn.

Ac mae'n deg dweud bod Cymru wedi rhoi lot gormod o barch i'r Almaenwyr gyda Bastian Schweinsteiger a Thomas Hitzlsperger yn chwarae gêm o keep-ball yng nghanol cae.

Er mai dim ond dwy gôl sgoriodd yr ymwelwyr, roedden nhw yn llwyr reoli'r gêm ac roedd rhywun y credu y bydden nhw wedi gallu sgorio ar unrhyw adeg pe byddai wir angen iddyn nhw wneud hynny.

Roedd yn siom na chafodd Jens Lehmann ei brofi o gofio'r dechrau sigledig mae golwr Arsenal wedi dioddef y tymor yma.

Mae'n syndod hefyd bod John Toshack wedi dechrau'r gêm efo system 5-4-1 ar ôl i Bellamy dynnu yn ôl yn hwyr yn y dydd, yn enwedig o gofio bod y garfan wedi ymarfer defnyddio system 3-5-2 trwy'r wythnos ... beth oedd o'i le efo defnyddio Robert Earnshaw?

Roedd Freddy Eastwood ar goll ar ben ei hun yn y llinell flaen a 'dwi'n credu bod Cymru wedi edrych yn llawer gwell unwaith bo Earnie wedi dod i'r maes fel ail ymosodwr.

Tydi hi ddim yn warth i golli 0-2 yn erbyn tîm mor dda â'r Almaen, ond mae'n siomedig tu hwnt colli heb frwydr.

Labels: , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 5:10 PM Anonymous Anonymous ddywedodd ...

cytunno yn llwyr,roedd koumas yn sal, eastwood ar goll ac bale odan par,peryg bod bellamy allan wedi dinistio ein plania ond ar y cyfan roedd yna ddim ymateb,buasau di bod yn well marcio y rhif saith yn dyn ac wedyn buasau wedi gwella ,ond cofia mae yr almaenwyr ar dan ac yn beryg o fod yn digon da i rhedeg i ffwrdd a'r gwpan. dewi    



» Post a Comment