Gêm i ferched?
Wythnos yma, mae Clwb Pêl-droed Y Fali wedi sefydlu tîm dan-11 i ferched - cam bach iawn yn nhermau sefydlu clybiau pêl-droed benywaidd ar Ynys Môn, ond cam bach pwysig.Llynedd, roedd 'na dwy neu dair o ferched yn chwarae i'r tîm dan-9 - o dan reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hawl i ferched a bechgyn chwarae mewn timau cymysg hyd at lefel dan-13.
Ond eleni, 'da ni wedi cymryd y cam pwysig o sefydlu tîm yn arbennig i ferched gyda'r gobaith o ddenu mwy o ferched yr ardal i chwarae'r gêm brydferth.
Gyda Chwpan Pêl-droed i Ferched yn cael ei gynnal ar hyn o bryd y China, 'da ni'n clywed o hyd ac o hyd bod y gêm i ferched yn prysur ddatblygu, ond mae'n fy synnu i cyn lleied o ferched sydd yn chwarae'r gamp yma yng Nghymru.
Tra bo bron i 20 o dimau pêl-droed dan-9 ar Ynys Môn, dim ond un clwb sydd 'na i feched o'r oedran yma. Mae'r un peth yn wir dan-11 - mae 'na lond trol o dimau bechgyn/cymysg ond Y Fali fydd y trydydd clwb sy'n cynnig tîm i ferched ar yr ynys.
Bydd Merched Cymru yn chwarae gêm rhagbrofol Ewro 2009 yn erbyn Y Swistir ym mis Hydref a 'dwi'n gobeithio mynd a chriw o glwb Y Fali i'r Rhyl i wylio'r gêm.
Yn anffodus, mae'n anhebygol bydd 'na llawer mwy na 1,000 o gefnogwyr yna i wylio'r gêm - sefyllfa dra gwahanol i'r hyn welwyd ar Barc Goodison ar Ddydd San Steffan 1920.
Gwasgodd 53,000 o gefnogwyr i mewn i gartref Everton i wylio tîm Dick, Kerr's Ladies - prif dîm merched Lloegr gafodd ei sefydlu mewn ffatri arfau yn Preston yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond gyda Chymdeithas Pêl-droed Lloegr yn gweld bygythiad i boblogrwydd gêm y dynion, llai na blwyddyn wedi'r gêm ar Barc Goodison, gwaharddwyd timau merched rhag chwarae ar feysydd timau oedd yn aelodau o'r FA.
Ers hynny, mae pêl-droed i ferched wedi ei chael yn anodd taro yn ôl, ond 'dwi'n gobeithio byddwn ni yn Y Fali yn gallu gwneud rhan fach iawn i ail sefydlu'r gamp a phwy â wyr ... efallai bydd un o'r merched yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru - rwan byddai hynny'n gamp.
Labels: football, merched, pêl-droed
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment