Beckenbauer Bwcle ...?
Mae Danny Collins wedi penderfynnu nad ydi o eisiau chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Almaen a Slofacia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.Mae'r amddiffynnwr canol eisiau canolbwyntio ar gadw ei le yn nhîm Sunderland yn hytrach na chynrychioli ei wlad.
Wel, mae'n ddrwg iawn gen i, ond pwy mae'r boi o Bwcle yn feddwl ydi o? Franz Beckenbauer? Ydi o'n credu fod o ddigon da i ddewis a dethol ei gemau dros Gymru?
Y gwir plaen amdani ydi bod Collins yn flin bod chwaraewyr fel Lewin Nyatanga, Steve Evans, Joe Ledley a Gareth Bale yn cael eu dewis ac ei fod o'n gorfod eistedd ar y fainc.
Llai na pum mlynedd yn ôl roedd o'n chwarae i Fwcle yng Nghynghrair Undebol y Gogledd cyn ymuno efo Caer oedd, ar y pryd, yn y Conference.
Ond yn amlwg, rwan ei fod o'n chwarae yn yr Uwchgynghrair, mae o'n rhy dda i eistedd ar y fainc i Gymru ... wel, os mai dyna ydi ei agwedd, 'da ni'n well allan hebddo fo a'i ego.
'Dwi'n gwybod ei bod hi'n ystrydeb ond fe fyddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn cerdded i Gaerdydd er mwyn cael cyfle i wisgo'r crys coch ... yn anffodus mae pêl-droediwyr y dyddiau yma'n credu eu bod nhw uwchlaw bod yn eilyddion - 'di o ddim yn dda i'r ddelwedd 'chi'n gweld.
Os nad ydi Collins yn fodlon bod yn rhan o garfan byddai'n well anghofio amdano.
Labels: cymru, danny collins, football, pêl-droed, rhyngwladol
« Dolen flaen | Nesaf »
am 2:55 PMAm esgus gwael. Pa ffordd gwell o gadw'ch lle mewn tim sydd na bod a siawns i chwarae'n erbyn yr Almaen mewn gêm gystadleuol? Twat
am 11:26 PM
Dw'i wedi dy dagio di
am 12:38 PM
Fawr o golled os da ni'n gwbl onest. Dwi'n gwbod ein bod yn gwlad fach heb lawer o faint carfan a.y.b, ond gallwn wneud heb Danny Collins a'i deip debyg.
am 9:59 AM
Llongyfarchiadau
» Post a Comment