Pwy sy'n chwarae left back?
Cyn i mi gychwyn ar y rant yma, ga'i ofyn i chi os yda chi'n adnabod y chwaraewr yma ar y chwith? Na ...?
Wel, fo oedd capten 'Lerpwl' ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Wrecsam ddoe ... dw i wedi rhoi dyfynodau o amgylch y gair Lerpwl gan bod eu tîm nhw'n llawn o enwau anghyfarwydd.
Besian Idrizaj ydi enw'r chwaraewr, bachgen 19-mlwydd-oed o Awstria, a dyma pam dw i'n casau gemau pêl-droed cyfeillgar ar ddechrau'r tymor. Dyma oedd tîm Lerpwl:
Liverpool: Martin, Finnan, Hobbs, Paletta, Arbeloa, Pennant, Sissoko, Peltier, Hammill, Idrizaj (capt), Brouwer. Subs: Roque, Threlfall, Lindfield, Spearing, Nemeth, El Zhar, Simon, Hansen, Huth, Darby, Flynn.
Dim ond tri o'r enwau yna sydd yn gyfarwydd i mi ond nid dyna ydi gwraidd fy nghwyn ... roedd 'na dorf o 11,120 ar Y Cae Ras i wylio'r gêm. Heb law am y gêm olaf o'r tymor yn erbyn Boston, lle roedd dyfodol y clwb yn y fantol, dyna ydi'r dorf uchaf sydd wedi bod i'r Cae ras ers y gêm gyfeillgar efo Lerpwl y llynedd.
Lle mae'r pobl 'ma yn ystod y tymor?
Labels: football, gemau cyfeillgar, lerpwl, pêl-droed, wrecsam
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment