Edrych ymlaen at y tymor ...
Dwi'n edrych ymlaen at y tymor pêl-droed erbyn hyn - dwi wastad gorfod disgwyl tan ddiwrnod olaf y Tour de France cyn bo fi'n gallu bod yn excited am unrhyw dymor newydd - mae hi'n edrych fel bo Brian Carey yn profi i fod yn rheolwr da a dewr wrth iddo arwyddo chwaraewyr o safon a chael gwared ar ambell i dwpsyn tew!Dwi'n siŵr mai anomaly oedd y tymor diwethaf i'r Dreigiau ac mi fyddai’n synnu' fawr pe bai Wrecsam yn brwydro tua'r gwaelodion eto'r tymor yma. Yn wir, os na fydd Wrecsam yn cyrraedd y gemau ail gyfle mi fyddai'n siomedig tu hwnt.
Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at dymor pêl-droed Cynghrair Môn eleni. Mae tîm y pentre' 'cw, Y Fali, wedi penderfynu symud o Gynghrair y Sul i chwarae yng Nghynghrair Môn sy'n golygu y bydd 'na dîm o'r pentref yn chwarae yn y lîgs go iawn am y tro cyntaf ers pum mlynedd.
Mae'n rhyfedd i feddwl, yn enwedig o gofio maint pentref Y Fali, na chafwyd yr un tîm pêl-droed o'r pentref yng Nghynghrair Môn am bron i 100 mlynedd.
Y record gyntaf sydd i'w gael o gynghrair bêl-droed ar Ynys Môn ydi ym 1897 pan Llwyddodd Porthaethwy i ennill y lîg gyda Holyhead United, Holyhead Swifts, Llandegfan, Llangefni ac Amlwch hefyd yn cystadlu.
Ond heblaw am RAF Valley, doedd na'r un tîm wedi cario'r enw'r Fali tan i dîm Iau y Fali (Valley Juniors) ymuno efo'r gynghrair ym 1994. Efallai mai'r ffaith bod y pentref mor agos i Gaergybi sydd yn gyfrifol am y diffyg clybiau, ond mae'n beth od iawn pan 'da chi'n meddwl bod pentrefi fel Llaneilian, Aberffraw, Dwyran a Bodffordd wedi cael timau yn y gynghrair.
Ym 1985, yn ogystal ag RAF Valley roedd 'na bedwar tîm o Gaergybi - Town, United Juniors, Mountain Rangers a Mountain Rangers Reserves - yn ogystal â Bae Trearddur, Bodedern a hyd yn oed y Silver Bay Scimitars yn chwarae yn nwy adran Cynghrair Môn - wyth clwb i gyd o fewn pum milltir i'r Fali.
Ond, o leiaf y tymor yma, gallwn ni edrych ymlaen at glywed Gareth Jones yn adrodd canlyniadau tîm o'r Fali ar Radio Cymru unwaith eto ... pob lwc hogia!
Labels: anglesey, fali, football, pêl-droed, valley, ynys môn
« Dolen flaen | Nesaf »
am 11:57 AMMae hi'n amser cael tim yn ol yn y Fali, dwi'n cytuno. Gemau Darbi difyr yn erbyn Gwelfor eleni, ac o bosib Ail-dim Boded rhyw ddiwrnod yn y dyfodol agos.
Bob Lwc
» Post a Comment