Caerfyrddin ... nil points
Roedd yn wythnos dda iawn yn Ewrop i glybiau Cymru - mi fyddwn i wedi dweud gwych oni bai am i Gaerfyrddin ddioddef crasfa go iawn ar Barc Waun Dew.Llwyddodd Y Seintiau i drechu FK Ventspils o Latfia nos Fawrth ac er iddyn nhw ildio dwy gôl oddi cartref, roedd yr adroddiadau'n ffafriol iawn o berfformiad gwyr Ken McKenna.
O gofio bod Y Rhyl wedi colli 5-0 yn ebryn Skonto Riga yn yr un gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n profi bod pêl-droed Cymru wedi gwella'n aruthrol. Y gobaith mawr yw bod Y Seintiau'n gallu adeiladu ar y fuddugoliaeth yn yr ail gymal yn Latfia brynhawn Mercher.
Cafwyd perfformiad penigamp gan Y Rhyl yng Nghwpan Uefa nos Iau wrth iddyn nhw drechu FC Haka o'r Ffindir.
Pan fues i yn Y Ffindir llynedd yn gwylio Caerfyrddin yn erbyn Tampere yn Nhlws yr Intertoto cefais i noson ar y pop efo newyddiadurwr pêl-droed o'r Ffindir sy'n dod yn wreiddiol o Sheffield.
Nes i holi Egan am obeithion Y Rhyl ac, fel y gwelwch chi ar ei flog, 'doedd Haka ddim y meddwl rhyw lawer o'r Rhyl ... gobeithio bod eu rheolwr wedi newid ei feddwl erbyn hyn!
Roedd trydedd gôl y Lillywhites yn arbennig - symudiad ddechreuodd yn eu cwrt cosbi eu hunain ac orffennodd efo Craig Garside yn troi croesiad i'r rhwyd.
Labels: caerfyrddin, rhyl, tns, uefa, y seintiau newydd
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment