Llwyddiant yn y Wladfa
Mae clwb pêl-droed o'r Wladfa ar drothwy Ail Adran Cynghrair Bêl-droed Ariannin wedi iddyn nhw ennill pencampwriaeth ranbarthol y wlad.Mae CPD Guillermo Brown wedi gorffen ar frig Torneo Argentino A, prif gynghrair rhanbarthol Ariannin ac mae nhw'n wynebu gêm ail gyfle am le yn Primera B Nacional.
Sportivo Desamparados oedd pencampwyr Primera B Metropolitana ond fe'u cafwyd yn euog o geisio trefnu gemau ac o'r herwydd, bydd Guillermo Brown yn wynebu Independiente Rivadavia yn y gemau ail gyfle.
Cafodd rhaglen Ar y Marc air efo Sion Dafis o Puerto Madryn er mwyn egluro'r sefyllfa.
Ond ers y sgwrs, mae Sportivo Desamparados wedi apelio yn erbyn eu dedfryd ac mae cryn ddryswch pwy fydd gwrthwynebwyr Brown a pa bryd fydd y gêm yn cael ei gynnal - gwyliwch y gofod yma am fwy o fanylion.
Labels: ar y marc, ariannin, guillermo brown, patagonia, puerto madryn, wladfa
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment