Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Prynhawn diflas yn Wembley

Wel pa mor siomedig oedd hwnna? Wedi'r holl heip a'r holl edrych ymlaen, 'dwi ddim yn cofio Cup Final mor ddiflas â hon.

Dwi ddim yn deall pam fod y papurau newydd wedi bod yn sôn am Dream Final rhwng Chelsea a Man Utd, wedi'r cwbwl, dydy'r gemau rhwng y ddau glwb ddim wedi bod yn glasuron o bell ffordd - welsoch chi'r 0-0 rhwng y ddau rhyw pythefnos yn ôl ...?

Gyda'r ddau dîm yn cynnwys tua £700m o dalent, mae'n anodd credu ein bod ni wedi cael 90 munud mor siomedig, ond mae gen i ofn mai dyna sut mae Chelsea'n chwarae. Yn hytrach na defnyddio'r holl chwaraewyr talentog sydd yn ei carfan, mae Mourinho yn hapus i weld ei dîm yn rhwystro'r gwrthwynebwyr a sgorio gôl wrth wrthymosod.

A dyna'n union ddigwyddodd brynhawn ddoe wrth i Didier Drogba rwydo unig gôl y gêm wedi cyfnod o bwyso gan Manchester United.

Byddai Cup Final ddim yn Cup Final heb dipyn o ddadlau a'r Cymro, Ryan Giggs, sy'n flin eleni.

Mae Giggs yn credu bod Peter Cech wedi cario'r bêl dros y llinell wedi ergyd Giggs ond y gwir amdani ydi y dylai Giggs fod wedi gwneud llawer, llawer gwell o'i gyfle.



Petai wedi sgorio fe fyddai wedi ymuno â chlwb ecsgliwsif iawn o Gymry sydd wedi codi'r Gwpan fel capten eu clwb.



Yr unig beth da yw na fu rhaid i ni ddioddef ciciau o'r smotyn!

Labels: , , , , , , , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 4:35 PM Blogger Americanwr ddywedodd ...

Mae'n anodd credu mewn gem hefo tua £700 miliwn o dalent ar y cae, mewn stadiwn sydd wedi costio tua'r un faint, hefo miliynau lawer o bobl yn gwylio ledled y byd, nad ydyn nhw eto'n defnyddio'r dechnoleg sydd ar gael pan mae rhywun yn honi bod y bel wedi mynd dros y lein! Mae hyd yn oed yr 'egg-chasers' ar y blaen yn hynny o beth!    



» Post a Comment